bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Isaiah 42
Isaiah 42
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 41
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 43 →
1
Wele fy ngwas, yr hwn yr ydwyf yn ei gynnal; fy etholedig, i'r hwn y mae fy enaid yn fodlon: rhoddais fy ysbryd arno; efe a ddwg allan farn i'r cenhedloedd.
2
Ni waedda, ac ni ddyrchafa, ac ni phair glywed ei lef yn yr heol.
3
Ni ddryllia gorsen ysig, ac ni ddiffydd lin yn mygu: efe a ddwg allan farn at wirionedd.
4
Ni phalla efe, ac ni ddigalonna, hyd oni osodo farn ar y ddaear; yr ynysoedd hefyd a ddisgwyliant am ei gyfraith ef.
5
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, creawdydd y nefoedd a'i hestynnydd; lledydd y ddaear a'i chnwd; rhoddydd anadl i'r bobl arni, ac ysbryd i'r rhai a rodiant ynddi:
6
Myfi yr ARGLWYDD a'th elwais mewn cyfiawnder, ac ymaflaf yn dy law, cadwaf di hefyd, a rhoddaf di yn gyfamod pobl, ac yn oleuni Cenhedloedd;
7
I agoryd llygaid y deillion, i ddwyn allan y carcharor o'r carchar, a'r rhai a eisteddant mewn tywyllwch o'r carchardy.
8
Myfi yw yr ARGLWYDD; dyma fy enw: a'm gogoniant ni roddaf i arall, na'm mawl i ddelwau cerfiedig.
9
Wele, y pethau o'r blaen a ddaethant i ben, a mynegi yr ydwyf fi bethau newydd; traethaf hwy i chwi cyn eu tarddu allan.
10
Cenwch i'r ARGLWYDD gân newydd, a'i fawl ef o eithaf y ddaear; y rhai a ddisgynnwch i'r môr, ac sydd ynddo; yr ynysoedd a'u trigolion.
11
Y diffeithwch a'i ddinasoedd, dyrchafant eu llef, y maestrefi a breswylia Cedar; caned preswylwyr y graig, bloeddiant o ben y mynyddoedd.
12
Rhoddant ogoniant i'r ARGLWYDD, a mynegant ei fawl yn yr ynysoedd.
13
Yr ARGLWYDD a â allan fel cawr, fel rhyfelwr y cyffry eiddigedd; efe a waedda, ie, efe a rua; ac a fydd drech na'i elynion.
14
Tewais er ys talm, distewais, ymateliais; llefaf fel gwraig yn esgor, difwynaf, a difethaf ar unwaith.
15
Mi a wnaf y mynyddoedd a'r bryniau yn ddiffeithwch, a'u holl wellt a wywaf; ac a wnaf yr afonydd yn ynysoedd, a'r llynnoedd a sychaf.
16
Arweiniaf y deilliaid ar hyd ffordd nid adnabuant; a gwnaf iddynt gerdded ar hyd llwybrau nid adnabuant; gwnaf dywyllwch yn oleuni o'u blaen hwynt, a'r pethau ceimion yn union. Dyma y pethau a wnaf iddynt, ac nis gadawaf hwynt.
17
Troir yn eu hôl, a llwyr waradwyddir y rhai a ymddiriedant mewn delwau cerfiedig, y rhai a ddywedant wrth y delwau tawdd, Chwi yw ein duwiau ni.
18
O fyddariaid, gwrandewch; a'r deillion, edrychwch i weled.
19
Pwy sydd ddall ond fy ngwas i? neu fyddar fel fy nghennad a anfonais? pwy mor ddall â'r perffaith, a dall fel gwas yr ARGLWYDD?
20
Er gweled llawer, eto nid ystyri; er agoryd clustiau, eto ni wrendy.
21
Yr ARGLWYDD sydd fodlon er mwyn ei gyfiawnder; efe a fawrha y gyfraith, ac a'i gwna yn anrhydeddus.
22
Eto dyma bobl a ysbeiliwyd, ac a anrheithiwyd: hwy a faglwyd oll mewn tyllau, mewn carchardai hefyd y cuddiwyd hwynt: y maent yn ysbail, ac heb waredydd; yn anrhaith, ac heb a ddywedai, Dyro yn ei ôl.
23
Pwy ohonoch a wrendy hyn? pwy a ystyr ac a glyw erbyn yr amser a ddaw?
24
Pwy a roddes Jacob yn anrhaith, ac Israel i'r ysbeilwyr? onid yr ARGLWYDD, yr hwn y pechasom i'w erbyn? canys ni fynnent rodio yn ei ffyrdd, ac nid ufuddhaent i'w gyfraith.
25
Am hynny y tywalltodd efe arno lidiowgrwydd ei ddicter a chryfder rhyfel: efe a'i henynnodd oddi amgylch, ond ni wybu efe; llosgodd ef hefyd, ond nid ystyriodd.
← Chapter 41
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 43 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66