bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Isaiah 44
Isaiah 44
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 43
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 45 →
1
Ac yn awr gwrando, Jacob fy ngwas, ac Israel yr hwn a ddewisais.
2
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, yr hwn a'th wnaeth, ac a'th luniodd o'r groth, efe a'th gynorthwya: Nac ofna, fy ngwas Jacob; a thi, Jeswrwn, yr hwn a ddewisais.
3
Canys tywalltaf ddyfroedd ar y sychedig, a ffrydiau ar y sychdir: tywalltaf fy Ysbryd ar dy had, a'm bendith ar dy hiliogaeth:
4
A hwy a dyfant megis ymysg glaswellt, fel helyg wrth ffrydiau dyfroedd.
5
Hwn a ddywed, Eiddo yr ARGLWYDD ydwyf fi; a'r llall a'i geilw ei hun ar enw Jacob; ac arall a ysgrifenna â'i law, Eiddo yr ARGLWYDD ydwyf, ac a ymgyfenwa ar enw Israel.
6
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Brenin Israel, a'i Waredydd, ARGLWYDD y lluoedd; Myfi yw y cyntaf, diwethaf ydwyf fi hefyd; ac nid oes DUW ond myfi.
7
Pwy hefyd, fel fi, a eilw, a fynega, ac a esyd hyn yn drefnus i mi, er pan osodais yr hen bobl? neu mynegant iddynt y pethau sydd ar ddyfod, a'r pethau a ddaw.
8
Nac ofnwch, ac nac arswydwch; onid er hynny o amser y traethais i ti, ac y mynegais? a'm tystion ydych chwi. A oes DUW ond myfi? ie, nid oes DUW: nid adwaen i yr un.
9
Oferedd ydynt hwy oll y rhai a luniant ddelw gerfiedig; ni wna eu pethau dymunol lesâd: tystion ydynt iddynt eu hun, na welant, ac na wyddant; fel y byddo cywilydd arnynt.
10
Pwy a luniai dduw, neu a fwriai ddelw gerfiedig, heb wneuthur dim lles?
11
Wele, ei holl gyfeillion a gywilyddir, y seiri hefyd, o ddynion y maent: casgler hwynt oll, safant i fyny; eto hwy a ofnant, ac a gydgywilyddiant.
12
Y gof â'r efel a weithia yn y glo, ac a'i llunia â morthwylion, ac â nerth ei fraich y gweithia efe hi: newynog yw hefyd, a'i nerth a balla; nid yf ddwfr, ac y mae yn diffygio.
13
Y saer pren a estyn ei linyn; efe a'i llunia hi wrth linyn coch; efe a'i cymhwysa hi â bwyeill, ac a'i gweithia wrth gwmpas, ac a'i gwna ar ôl delw dyn, fel prydferthwch dyn, i aros mewn tŷ.
14
Efe a dyr iddo gedrwydd, ac a gymer y gypreswydden a'r dderwen, ac a ymegnïa ymysg prennau y coed; efe a blanna onnen, a'r glaw a'i maetha.
15
Yna y bydd i ddyn i gynnau tân: canys efe a gymer ohoni, ac a ymdwyma; ie, efe a'i llysg, ac a boba fara; gwna hefyd dduw, ac a'i haddola ef; gwna ef yn ddelw gerfiedig, ac a ymgryma iddo.
16
Rhan ohono a lysg efe yn tân; wrth ran ohono y bwyty gig, y rhostia rost, fel y diwaller ef: efe a ymdwyma hefyd, ac a ddywed, Aha, ymdwymais, gwelais dân.
17
A'r rhan arall yn dduw y gwna, yn ddelw gerfiedig iddo; efe a ymgryma iddo, ac a'i haddola, ac a weddïa arno, ac a ddywed, Gwared fi; canys fy nuw ydwyt.
18
Ni wyddant, ac ni ddeallant; canys DUW a gaeodd eu llygaid hwynt rhag gweled, a'u calonnau rhag deall.
19
Ie, ni feddwl neb yn ei galon, ie, nid oes wybodaeth na deall i ddywedyd, Llosgais ran ohono yn tân, ac ar ei farwor y pobais fara, y rhostiais gig, ac y bwyteais; ac a wnaf fi y rhan arall yn ffieiddbeth? a ymgrymaf i foncyff o bren?
20
Ymborth ar ludw y mae; calon siomedig a'i gwyrdrôdd ef, fel na waredo ei enaid, ac na ddywedo, Onid oes celwydd yn fy neheulaw?
21
Meddwl hyn, Jacob ac Israel; canys fy ngwas ydwyt ti; lluniais di, gwas i mi ydwyt; Israel, ni'th anghofir gennyf.
22
Dileais dy gamweddau fel cwmwl, a'th bechodau fel niwl: dychwel ataf fi; canys myfi a'th waredais di.
23
Cenwch, nefoedd: canys yr ARGLWYDD a wnaeth hyn: bloeddiwch, gwaelodion y ddaear; bloeddiwch ganu, fynyddoedd, y coed a phob pren ynddo: canys gwaredodd yr ARGLWYDD Jacob, ac yn Israel yr ymogonedda efe.
24
Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD dy Waredydd, a'r hwn a'th luniodd o'r groth, Myfi yw yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur pob peth, yn estyn y nefoedd fy hunan, yn lledu y ddaear ohonof fy hun:
25
Yn diddymu arwyddion y rhai celwyddog, ac yn ynfydu dewiniaid; yn troi y doethion yn eu hôl, ac yn gwneuthur eu gwybodaeth yn ynfyd:
26
Yr hwn a gyflawna air ei was, ac a gwblha gyngor ei genhadon; yr hwn a ddywed wrth Jerwsalem, Ti a breswylir; ac wrth ddinasoedd Jwda, Chwi a adeiledir, a chyfodaf ei hadwyau:
27
Yr hwn wyf yn dywedyd wrth y dyfnder, Bydd sych; a mi a sychaf dy afonydd:
28
Yr hwn wyf yn dywedyd wrth Cyrus, Fy mugail yw, ac efe a gyflawna fy holl ewyllys: gan ddywedyd wrth Jerwsalem, Ti a adeiledir; ac wrth y deml, Ti a sylfaenir.
← Chapter 43
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 45 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66