bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
/
Isaiah 30
Isaiah 30
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 31 →
1
Gwae y meibion cyndyn, medd yr ARGLWYDD, a gymerant gyngor, ond nid gennyf fi; ac a orchuddiant â gorchudd, ac nid o'm hysbryd i, i chwanegu pechod ar bechod:
2
Y rhai sydd yn myned i ddisgyn i'r Aifft, heb ymofyn â mi, i ymnerthu yn nerth Pharo, ac i ymddiried yng nghysgod yr Aifft.
3
Am hynny y bydd nerth Pharo yn gywilydd i chwi, a'r ymddiried yng nghysgod yr Aifft yn waradwydd.
4
Canys bu ei dywysogion yn Soan, a'i genhadau a ddaethant i Hanes.
5
Hwynt oll a gywilyddiwyd oherwydd y bobl ni fuddia iddynt, ni byddant yn gynhorthwy nac yn llesâd, eithr yn warth ac yn waradwydd.
6
Baich anifeiliaid y deau. I dir cystudd ac ing, lle y daw ohonynt yr hen lew a'r llew ieuanc, y wiber a'r sarff danllyd hedegog, y dygant eu golud ar gefnau asynnod, a'u trysorau ar gefnau camelod, at bobl ni wna les.
7
Canys yn ddi‐les ac yn ofer y cynorthwya yr Eifftiaid: am hynny y llefais arni, Eu nerth hwynt yw aros yn llonydd.
8
Dos yn awr, ysgrifenna hyn mewn llech ger eu bron hwynt, ac ysgrifenna mewn llyfr, fel y byddo hyd y dydd diwethaf yn oes oesoedd;
9
Mai pobl wrthryfelgar yw y rhai hyn, plant celwyddog, plant ni fynnant wrando cyfraith yr ARGLWYDD:
10
Y rhai a ddywedant wrth y gweledyddion, Na welwch; ac wrth y proffwydi, Na phroffwydwch i ni bethau uniawn; traethwch i ni weniaith, proffwydwch i ni siomedigaeth:
11
Ciliwch o'r ffordd, ciliwch o'r llwybr; perwch i Sanct Israel beidio â ni.
12
Am hynny fel hyn y dywed Sanct Israel, Am wrthod ohonoch y gair hwn, ac ymddiried ohonoch mewn twyll a cham, a phwyso ar hynny:
13
Am hynny y bydd yr anwiredd hyn i chwi fel rhwygiad chwyddedig mewn mur uchel ar syrthio, yr hwn y daw ei ddrylliad yn ddisymwth heb atreg.
14
Canys efe a'i dryllia hi fel dryllio llestr crochenydd, gan guro heb arbed; fel na chaffer ymysg ei darnau gragen i gymryd tân o'r aelwyd, nac i godi dwfr o'r ffos.
15
Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Sanct Israel, Trwy ddychwelyd a gorffwys y byddwch gadwedig; mewn llonyddwch a gobaith y bydd eich cadernid: ond ni fynnech.
16
Eithr dywedasoch, Nid felly; canys ni a ffown ar feirch; am hynny y ffowch: a marchogwn ar feirch buain; am hynny y bydd buain y rhai a'ch erlidio.
17
Mil a ffy wrth gerydd un; ac wrth gerydd pump y ffowch, hyd oni'ch gadawer megis hwylbren ar ben mynydd, ac fel baner ar fryn.
18
Ac am hynny y disgwyl yr ARGLWYDD i drugarhau wrthych, ie, am hynny yr ymddyrchaif i dosturio wrthych; canys DUW cyfiawnder yw yr ARGLWYDD. Gwyn eu byd y rhai oll a ddisgwyliant wrtho.
19
Canys y bobl a drig yn Seion o fewn Jerwsalem: gan wylo nid wyli; gan drugarhau efe a drugarha wrthyt; wrth lef dy waedd, pan ei clywo, efe a'th ateb di.
20
A'r Arglwydd a rydd i chwi fara ing a dwfr gorthrymder, ond ni chornelir dy athrawon mwy, eithr dy lygaid fyddant yn gweled dy athrawon:
21
A'th glustiau a glywant air o'th ôl yn dywedyd, Dyma y ffordd, rhodiwch ynddi, pan bwysoch ar y llaw ddeau, neu pan bwysoch ar y llaw aswy.
22
Yna yr halogwch ball dy gerfddelw arian, ac effod dy dawdd‐ddelw aur; gwasgeri hwynt fel cadach misglwyf, a dywedi wrthynt, Dos ymaith.
23
Ac efe a rydd law i'th had pan heuech dy dir, a bara cnwd y ddaear, ac efe a fydd yn dew ac yn aml; a'r dydd hwnnw y pawr dy anifeiliaid mewn porfa helaeth.
24
Dy ychen hefyd a'th asynnod, y rhai a lafuriant y tir, a borant ebran pur, yr hwn a nithiwyd â gwyntyll ac â gogr.
25
Bydd hefyd ar bob mynydd uchel, ac ar bob bryn dyrchafedig, afonydd a ffrydiau dyfroedd, yn nydd y lladdfa fawr, pan syrthio y tyrau.
26
A bydd llewyrch y lleuad fel llewyrch yr haul, a llewyrch yr haul fydd saith mwy, megis llewyrch saith niwrnod, yn y dydd y rhwyma yr ARGLWYDD friw ei bobl, ac yr iachao archoll eu dyrnod hwynt.
27
Wele enw yr ARGLWYDD yn dyfod o bell, yn llosgi gan ei ddigofaint ef, a'i faich sydd drwm; ei wefusau a lanwyd o ddicter, a'i dafod sydd megis tân ysol.
28
Ei anadl hefyd, megis afon lifeiriol, a gyrraedd hyd hanner y gwddf, i nithio'r cenhedloedd â gogr oferedd; a bydd ffrwyn yng ngenau y bobloedd, yn eu gyrru ar gyfeiliorn.
29
Y gân fydd gennych megis y noswaith y sancteiddir uchel ŵyl; a llawenydd calon, megis pan elo un â phibell i fyned i fynydd yr ARGLWYDD, at Gadarn yr Israel.
30
A'r ARGLWYDD a wna glywed ardderchowgrwydd ei lais, ac a ddengys ddisgyniad ei fraich, mewn dicter llidiog, ac â fflam dân ysol, â gwasgarfa, ac â thymestl, ac â cherrig cenllysg.
31
Canys â llais yr ARGLWYDD y distrywir Assur, yr hwn a drawai â'r wialen.
32
A pha le bynnag yr elo y wialen ddiysgog, yr hon a esyd yr ARGLWYDD arno ef, gyda thympanau a thelynau y bydd: ac â rhyfel tost yr ymladd efe yn ei erbyn.
33
Canys darparwyd Toffet er doe, ie, paratowyd hi i'r brenin: efe a'i dyfnhaodd hi, ac a'i ehangodd: ei chyneuad sydd dân a choed lawer; anadl yr ARGLWYDD, megis afon o frwmstan, sydd yn ei hennyn hi.
← Chapter 29
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 25
Chapter 26
Chapter 27
Chapter 28
Chapter 29
Chapter 30
Chapter 31
Chapter 32
Chapter 33
Chapter 34
Chapter 35
Chapter 36
Chapter 37
Chapter 38
Chapter 39
Chapter 40
Chapter 41
Chapter 42
Chapter 43
Chapter 44
Chapter 45
Chapter 46
Chapter 47
Chapter 48
Chapter 49
Chapter 50
Chapter 51
Chapter 52
Chapter 53
Chapter 54
Chapter 55
Chapter 56
Chapter 57
Chapter 58
Chapter 59
Chapter 60
Chapter 61
Chapter 62
Chapter 63
Chapter 64
Chapter 65
Chapter 66
Chapter 31 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66