bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Luke 1
Luke 1
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 2 →
1
Yn gymaint ag i lawer ymgynyg i osod mewn trefn adroddiad o'r pethau sydd wedi eu llwyr‐gadarnhâu yn ein plith ni,
2
megys y traddodasant hwy i ni, sef, y rhai oeddynt o'r dechreuad yn llygad‐dystion a gweinidogion y Gair:
3
rhyngodd bodd i minau hefyd, wedi manwl‐ddylyn yr oll yn gywir o'r dechreuad, i ysgrifenu atat mewn iawn drefn, O Anrhydeddusaf Theophilus,
4
fel y cait lawn‐wybod y sicrwydd am y pethau y'th holwyddorwyd ynddynt.
5
Yr oedd yn nyddiau Herod, Brenin Judea, ryw offeiriad a'i enw Zechariah, o ddosparth dyddiol Abiah, ac yr oedd iddo wraig o ferched Aaron, a'i henw Elisabeth.
6
Ac yr oeddynt ill dau yn gyfiawn gerbron Duw, yn rhodio yn holl orchymynion ac ordinhadau yr Arglwydd yn ddiargyhoedd.
7
Ac nid oedd plentyn iddynt, am fod Elisabeth yn anmhlantadwy, ac yr oeddynt ill dau wedi myned yn mlaen yn mhell mewn dyddiau.
8
A bu ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad yn nhrefn ei ddosparth gerbron Duw, yn ol arfer yr offeiriadaeth,
9
syrthiodd i'w ran trwy goelbren i fyned i mewn i Gysegr yr Arglwydd i arogl‐darthu.
10
A holl luaws y bobl oedd yn gweddio tu allan ar awr yr arogl‐darthiad.
11
Ac ymddangosodd iddo Angel yr Arglwydd yn sefyll o'r tu deheu i Allor yr Arogl‐darth:
12
A Zechariah, pan welodd, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno ef.
13
Ond yr Angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna, Zechariah; oblegyd gwrandawyd dy ddeisyfiad, a'th wraig Elisabeth a ddwg i ti fab, a thi a elwi ei enw ef Ioan.
14
A bydd i ti lawenydd a gorfoledd, a llawer a lawenychant ar ei enedigaeth ef.
15
Canys mawr fydd efe yn ngolwg yr Arglwydd, ac nid ŷf efe ddim gwin, na diod feddwol arall; ac efe a lenwir o'r Yspryd Glân o grôth ei fam:
16
a llawer o feibion Israel a ddychwel efe at yr Arglwydd eu Duw;
17
ac efe a â o'i flaen ef, yn ei olwg, yn yspryd a gallu Elias, I droi calonau tadau at blant, A rhai anufydd i gallineb rhai cyfiawn, I barotoi i'r Arglwydd bobl hollol ddarparedig.
18
A dywedodd Zechariah wrth yr Angel, Pa fodd y gwybyddaf fi hyn? Canys henafgwr wyf fi, a'm gwraig hefyd wedi myned yn mhell mewn dyddiau.
19
A'r Angel a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Myfi wyf Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll yn mhresenoldeb Duw; ac fe'm hanfonwyd i lefaru wrthyt, ac i fynegu i ti y newyddion da hyn.
20
Ac wele, ti a fyddi ddystaw, ac heb allu llefaru, hyd y dydd y daw oddiamgylch y pethau hyn, o herwydd na chredaist fy ngeiriau, y rhai a gyflawnir yn eu hamser priodol.
21
Ac yr oedd y bobl yn dysgwyl am Zechariah, ac yr oeddynt yn rhyfeddu at ei fod yn aros cyhyd yn y Cysegr.
22
A phan ddaeth efe allan, ni allai efe lefaru wrthynt; a hwy a wybuant iddo weled gweledigaeth yn y Cysegr: ac yr oedd efe ei hun yn amneidio iddynt; ac efe a barhâodd yn fud.
23
A bu, fel y cyflawnwyd dyddiau ei wasanaeth swyddogol, efe a aeth ymaith i'w dŷ ei hun.
24
Ac ar ol y dyddiau hyn, ei wraig Elisabeth a feichiogodd, ac a ymguddiodd yn hollol am bum mis, gan ddywedyd,
25
Fel hyn y mae yr Arglwydd wedi gwneyd â mi mewn dyddiau yn y rhai yr edrychodd arnaf, i dynu ymaith fy ngwaradwydd yn mhlith dynion.
26
Ac yn y chweched mis, anfonwyd yr Angel Gabriel oddiwrth Dduw, i ddinas yn Galilea o'r enw Nazareth,
27
at forwyn wedi ei dyweddio i wr o'r enw Joseph, o dŷ Dafydd; ac enw y forwyn oedd Mair.
28
A'r Angel a ddaeth i mewn ati, ac a ddywedodd, Henffych well! Tydi sydd wedi derbyn ffafr: yr Arglwydd sydd gyd â thi.
29
A hithau a gythryblwyd yn ddirfawr wrth yr ymadrodd, ac a ymresymodd ynddi ei hun pa fath gyfarchiad oedd hwn.
30
A'r Angel a ddywedodd wrthi, Nac ofna Mair: canys ti a gefaist ffafr gyd â Duw.
31
Ac wele, ti a feichiogi yn dy grôth, ac a esgori ar fab, ac a elwi ei enw ef IESU.
32
Hwn fydd mawr, a Mab y Goruchaf y gelwir ef; ac iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orsedd Dafydd ei dâd;
33
ac efe a deyrnasa ar dŷ Jacob yn dragywydd: ac i'w Deyrnas ni bydd diwedd.
34
A dywedodd Mair wrth yr Angel, Pa fodd y bydd hyn, gan nad adwaen i wr?
35
A'r Angel a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Yr Yspryd Glân a ddaw arnat ti, a Gallu y Goruchaf a gysgoda drosot: am hyny hefyd y peth sanctaidd a genedlir, a elwir yn FAB DUW.
36
Ac wele, Elisabeth, dy gares, y mae hithau hefyd wedi beichiogi ar fab yn ei henaint; a hwn yw y chweched mis iddi hi, yr hon a arferid alw yn anmhlantadwy.
37
Canys pob gair oddiwrth Dduw ni fydd yn anmhosibl.
38
A dywedodd Mair, Wele law‐forwyn yr Arglwydd: bydded i mi yn ol dy air di. A'r Angel a aeth ymaith oddiwrthi.
39
A Mair a gyfododd yn y dyddiau hyny, ac a aeth i'r mynydd‐dir ar frys, i ddinas yn Juda;
40
ac a aeth i mewn i dŷ Zechariah, ac a gyfarchodd well i Elisabeth.
41
A bu pan glybu Elisabeth gyfarchiad Mair, i'r baban yn ei chrôth hi lamu: ac Elisabeth a lanwyd o'r Yspryd Glân;
42
a llefain a wnaeth â llef uchel, ac a ddywedodd,— Bendigedig wyt ti yn mhlith gwragedd, A bendigedig yw ffrwyth dy grôth di.
43
Ac o ba le y mae hyn i mi, Fod mam fy Arglwydd yn dyfod ataf fi?
44
Canys wele, mor gynted ag y daeth llais dy gyfarchiad i'm clustiau, Y baban a lamodd gan orfoledd yn fy nghrôth.
45
A gwyn fyd yr hon a gredodd: Canys bydd cwblhâd i'r pethau sydd wedi eu llefaru wrthi oddiwrth yr Arglwydd.
46
A dywedodd Mair, Y mae fy enaid yn mawrhâu yr Arglwydd,
47
A gorfoleddodd fy yspryd yn Nuw fy Iachawdwr.
48
Canys efe a edrychodd ar iselder ei law‐forwyn; Canys wele, o hyn allan, yr holl genedlaethau a'm galwant yn wynfydedig;
49
Canys yr Hwn sydd Alluog a wnaeth i mi bethau mawrion, A sanctaidd yw ei Enw;
50
A'i drugaredd ef sydd i genedlaethau a chenedlaethau I'r rhai a'i hofnant ef.
51
Efe a wnaeth gadernid â'i fraich: Efe a lwyr‐wasgarodd y beilchion yn nychymyg eu calon;
52
Efe a dynodd i lawr y Cedyrn oddiar orseddau; Ac a ddyrchafodd yr isel:
53
Y newynog a lanwodd efe â phethau da; A'r rhai goludog a anfonodd efe ymaith yn weigion.
54
Efe a gynorthwyodd ei was Israel, Er mwyn iddo gofio trugaredd
55
(Fel y llefarodd efe wrth ein Tadau) I Abraham a'i hâd ef yn dragywydd.
56
A Mair a arosodd gyd â hi ynghylch tri mis, ac a ddychwelodd i'w thŷ ei hun.
57
A'r amser i Elisabeth i esgor a gyflawnwyd: a hi a esgorodd ar fab.
58
A'i chymydogion a'i pherthynasau a glywsant fawrhâu o'r Arglwydd ei drugaredd tu ag ati; a hwy a gyd‐lawenychasant â hi.
59
A bu, ar yr wythfed dydd, hwy a ddaethant i enwaedu y plentyn; ac yr oeddynt am ei alw ar enw ei dâd, Zechariah.
60
A'i fam a atebodd ac a ddywedodd, Nid felly: ond Ioan y gelwir ef.
61
A hwy a ddywedasant wrthi, Nid oes neb o'th waedoliaeth a elwir ar yr enw hwn.
62
A hwy a wnaethant amnaid ar ei dâd ef, pa beth y mynai efe iddo gael ei alw.
63
Ac wedi iddo ofyn am ysgrif‐lech, efe a ysgrifenodd, gan ddywedyd, Ioan yw ei enw ef. A rhyfeddu a wnaethant oll.
64
Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a'i dafod a ryddhawyd; ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw.
65
Ac ofn a ddaeth ar bawb oedd yn trigo o'u hamgylch; a thrwy holl fynydd‐dir Judea y soniwyd llawer am yr holl ddywediadau hyn.
66
A phawb a'r a'u clywsant a'u gosodasant yn eu calonau, gan ddywedyd, Beth fydd y plentyn hwn? Canys llaw yr Arglwydd hefyd oedd gyd âg ef.
67
A Zechariah ei dâd a lanwyd o'r Yspryd Glân, ac a broffwydodd, gan ddywedyd,
68
Bendigedig yw yr Arglwydd, Duw Israel; Canys efe a dalodd ymweliad, Ac a wnaeth Brynedigaeth i'w Bobl;
69
Ac efe a ddyrchafodd Gorn Iachawdwriaeth i ni, Yn nhŷ Dafydd ei was:
70
Megys y llefarodd drwy enau ei Brophwydi sanctaidd, Y rhai oedd o'r Dechreuad;
71
Sef, Iachawdwriaeth oddiwrth ein gelynion, Ac o law pawb a'n cashânt:
72
I wneyd trugaredd â'n Tâdau, Ac i gofio ei Gyfamod sanctaidd:
73
Y llw a dyngodd wrth Abraham ein Tâd;
74
I roddi i ni (wedi i ni gael ein gwaredu o law gelynion) Fel y gwasanaethom ef yn gyhoeddus yn ddiofn,
75
Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder yn ei olwg ef ein holl ddyddiau.
76
A thithau hefyd, blentyn, a gei dy alw yn Brophwyd y Goruchaf; Canys ti a âi o flaen gwyneb yr Arglwydd, i barotoi ei ffyrdd ef;
77
I roddi gwybodaeth Iachawdwriaeth i'w Bobl yn maddeuant eu pechodau,
78
O herwydd calon trugaredd ein Duw, trwy yr hon y Wawr‐ddydd o'r uchelder a ymwel a ni,
79
I lewyrchu i'r rhai sydd yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angeu, I gyfeirio ein traed i ffordd tangnefedd.
80
A'r plentyn a gynyddodd, ac a gryfhâwyd mewn yspryd, a bu yn y diffeith‐leoedd hyd ddydd ei ymddangosiad cyhoeddus i Israel.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24