bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Luke 2
Luke 2
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 3 →
1
A bu yn y dyddiau hyny, fyned allan ddeddf oddiwrth Cesar Augustus, i wneyd cofrestriad o'r holl fyd trigianol.
2
Hwn oedd y cofrestriad cyntaf, pan yr oedd Quirinus yn Llywodraethwr Syria.
3
A phawb a aethant i gofrestru eu hunain, bob un i'w ddinas ei hun.
4
A Joseph hefyd a aeth i fyny o Galilea, allan o ddinas Nazareth, i Judea, i Ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem, am ei fod o dŷ a theulu Dafydd,
5
i gofrestru ei hun gyd â Mair, yr hon oedd wedi ei dyweddio iddo, yr hon oedd yn feichiog.
6
A bu, tra yr oeddynt hwy yno, cyflawnwyd ei dyddiau hi i esgor.
7
A hi a esgorodd ar ei mab cyntaf‐anedig, ac a'i rhwymodd mewn dillad magu, ac a'i gosododd i lawr mewn preseb, am nad oedd iddynt le yn yr Orphwysfan.
8
Ac yr oedd yn y wlâd hono fugeiliaid yn trigo allan yn y maes, yn cadw gwyliadwriaeth drwy y nos ar eu praidd.
9
Ac Angel yr Arglwydd a safodd yn sydyn gerllaw, a Gogoniant yr Arglwydd a ddysgleiriodd o amgylch iddynt: ac ofnasant gyd âg ofn mawr.
10
A dywedodd yr Angel wrthynt, Nac ofnwch: canys wele, yr wyf yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i'r holl bobl:
11
canys ganwyd i chwi heddyw, yn Ninas Dafydd, IACHAWDWR, yr hwn yw CRIST YR ARGLWYDD.
12
A hyn fydd yr arwydd i chwi: Chwi a gewch faban wedi ei rwymo â dillad plentyn, ac yn gorwedd mewn preseb.
13
Ac yn ddisymwth fe ddaeth gyd â'r Angel luaws o Lu Nefol, yn molianu Duw, ac yn dywedyd,
14
Gogoniant yn y goruchafion i Dduw, Ac ar y ddaear tangnefedd yn mhlith dynion o ewyllys da.
15
A bu, pan aeth ymaith yr Angelion oddiwrthynt i'r Nef, y bugeiliaid a ddywedasant wrth eu gilydd, Awn drosodd hyd Bethlehem, a gwelwn y peth hwn a wnaethpwyd, yr hwn a hysbysodd yr Arglwydd i ni.
16
A hwy a ddaethant ar frys, ac a ddarganfyddasant Mair a Joseph, a'r baban yn gorwedd yn y preseb.
17
A phan welsant, hwy a wnaethant yn hysbys ynghylch y gair a lefarwyd wrthynt am y plentyn hwn.
18
A phawb a'r a'u clywsant a ryfeddasant am y pethau a lefarwyd gan y bugeiliaid wrthynt.
19
Ond Mair a gadwodd yn ddyogel yr holl ddywediadau hyn, gan eu pwyso yn ei chalon.
20
A'r bugeiliaid a ddychwelasant, gan ogoneddu a molianu Duw am yr holl bethau a glywsant ac a welsant, fel y llefarwyd wrthynt.
21
A phan gyflawnwyd wyth niwrnod i'w enwaedu ef, hefyd galwyd ei enw ef IESU, yr hyn y galwyd ef gan yr Angel, cyn y beichiogwyd arno yn y grôth.
22
A phan gyflawnwyd dyddiau eu puredigaeth hwy, yn ol Cyfraith Moses, hwy a'i dygasant ef i fyny i Jerusalem, i'w gyflwyno i'r Arglwydd,
23
(fel y mae yn ysgrifenedig yn Nghyfraith yr Arglwydd, Pob gwrryw cyntaf‐anedig a elwir yn Sanctaidd i'r Arglwydd, Ex 13:2, 12, 13),
24
ac i roddi aberth yn ol yr hyn sydd wedi ei ddywedyd yn Nghyfraith yr Arglwydd, Pâr o ddurturod, neu ddau gyw colomen.
25
Ac wele, yr oedd gwr yn Jerusalem, a'i enw Simeon; a'r gwr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn dysgwyl am Ddiddanwch yr Israel; a'r Yspryd Glân oedd arno.
26
Ac yr oedd wedi ei ddadguddio iddo gan yr Yspryd Glân, na welai farwolaeth cyn iddo weled Crist yr Arglwydd.
27
Ac efe a ddaeth yn yr Yspryd i'r Deml, a phan yr oedd rhieni y plentyn Iesu yn ei ddwyn i'r Deml, fel y gwnelent yn ol arferiad y Gyfraith mewn perthynas iddo,
28
efe ei hun hefyd a'i derbyniodd ef i'w freichiau, ac a fendithiodd Dduw, ac a ddywedodd,
29
Yn awr y gollyngi dy was, O Feistr, Yn ol dy air, mewn tangnefedd:
30
Canys gwelodd fy llygaid dy Iachawdwriaeth,
31
Yr hon a barotoaist gerbron wyneb yr holl bobloedd:—
32
Goleuni i fod yn Ddadguddiad i'r Cenedloedd, Ac yn Ogoniant i'th Bobl Israel.
33
A'i Dâd a'i Fam oeddynt yn rhyfeddu am y pethau a lefarwyd am dano.
34
A Simeon a'u bendithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Mair ei Fam ef, Wele, hwn sydd yn cael ei osod i fod er cwymp ac er cyfodiad i lawer yn yr Israel, ac i fod er arwydd yr hwn y mae dywedyd yn ei erbyn:
35
(ac hefyd drwy dy enaid dy hun yr â cleddyf) fel y byddo i feddyliau allan o lawer o galonau gael eu dadguddio.
36
Ac yr oedd Anna, Proffwydes, merch Phanuel, o lwyth Aser: hon oedd oedranus iawn, ac a fu byw gyd â gwr saith mlynedd o'i morwyndod,
37
a hi yn weddw hyd ei bod yn bedair a phedwar ugain mlwydd oed, yr hon nid ymadawodd o'r Deml, gan wasanaethu Duw mewn ymprydiau a deisyfiadau ddydd a nos.
38
A hi gan ddyfod i fyny yr awr neillduol hono, a dalodd ddiolch i Dduw, ac a lefarodd am dano wrth bawb oedd yn dysgwyl Prynedigaeth Jerusalem.
39
Ac wedi iddynt orphen pob peth yn ol Cyfraith yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Galilea, i'w Dinas eu hun, Nazareth.
40
A'r plentyn a gynyddodd, ac a gryfhâodd, wedi ei lanw â doethineb, a gras Duw oedd arno ef.
41
A'i rieni ef a arferent fyned bob blwyddyn i Jerusalem ar Wyl y Pasc.
42
A phan oedd efe yn ddeuddeng mlwydd oed, a hwynt‐hwy yn myned i fyny yn ol arferiad yr Wyl,
43
ac wedi gorphen y dyddiau, pan yr oeddynt yn dychwelyd, y bachgen Iesu a arosodd ar ol yn Jerusalem; a'i rieni nis gwyddent.
44
Eithr gan dybied ei fod ef yn mysg eu cymdeithion, hwy a aethant daith diwrnod; ac a'i ceisiasant ef yn ddyfal yn mhlith eu perthynasau a'u cydnabod.
45
Ac heb ei gael, hwy a ddychwelasant i Jerusalem, gan ei geisio yn ddyfal.
46
A bu, ar ol tridiau, gael o honynt hwy ef yn y Deml, yn eistedd yn nghanol y Dysgawdwyr, yn gwrando arnynt, ac yn eu holi hwynt.
47
A'r rhai oll a'i clywsant ef a synasant at ei ddeall a'i atebion.
48
A phan welsant ef, hwy a darawyd â syndod. A dywedodd ei Fam wrtho, Fy mhlentyn, Paham y gwnaethost fel hyn a ni? Wele, dy Dâd a minau, yn ofidus iawn, fuom yn dy geisio di.
49
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y ceisiech fi? Oni wybuech fod yn rhaid i mi fod yn Nhy fy Nhad?
50
A hwy ni ddeallasant y gair a lefarodd efe wrthynt.
51
Ac efe a aeth i waered gyd â hwynt, ac a ddaeth i Nazareth, ac a fu ufydd iddynt. A'i fam ef a gadwodd yn ddyogel yr holl ddywediadau hyn yn ei chalon.
52
A'r Iesu a gynyddodd mewn doethineb a chorffolaeth, ac mewn ffafr gyd â Duw a dynion.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24