bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Luke 12
Luke 12
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 13 →
1
Yn y cyfamser, pan yr ymgasglodd y dyrfa yn ddegau o filoedd ynghyd, hyd oni sathrent eu gilydd, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y Dysgyblion yn gyntaf oll, Gwyliwch arnoch rhag lefain y Phariseaid, yr hwn yw rhagrith.
2
Ond nid oes dim wedi ei orchuddio i fyny, a'r nis dad‐orchuddir, a dim dirgel, a'r nis gwybyddir.
3
O herwydd paham, pa bethau bynag a ddywedasoch yn y tywyllwch, a glywir yn y goleuni: a'r hyn a lefarasoch i'r glust mewn celloedd dirgel, a gyhoeddir ar benau tai.
4
Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, fy nghyfeillion, Nac ofnwch ddim oddiwrth y rhai sydd yn lladd y corff, ac wedi hyny heb ganddynt ddim yn mhellach i'w wneuthur.
5
Ond mi a ddangosaf i chwi pwy a ofnwch: ofnwch yr hwn, wedi y lladd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i Gehenna; ie, meddaf i chwi, hwnw a ofnwch.
6
Oni werthir pump o adar y tô am ddwy geiniog? Ac nid oes un o honynt wedi cael ei anghofio gerbron Duw.
7
Ond y mae hyd y nod wallt eich pen chwi wedi eu cyfrif oll. Nac ofnwch, yr ydych chwi yn rhagorach na llawer o adar y tô.
8
Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Pob un a'm cyffeso i gerbron dynion, Mab y Dyn hefyd a'i cyffesa yntau ger bron Angelion Duw.
9
Ond yr hwn a'm gwado i ger bron dynion, a lwyr‐wedir ger bron Angelion Duw.
10
A phob un a ddywedo air mewn perthynas i Fab y Dyn, fe a faddeuir iddo: ond i'r hwn a gablo mewn perthynas i'r Yspryd Glân, ni faddeuir.
11
A phan y'ch dygant chwi i mewn o flaen y Synagogau, a'r Llywodraethau, a'r Awdurdodau, na fyddwch bryderus am ba fodd neu ba beth i amddiffyn eich hun, neu i ddywedyd;
12
canys yr Yspryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr hono beth a ddylech ei ddywedyd.
13
A rhyw un o'r dyrfa a ddywedodd wrtho, Athraw, dywed wrth fy mrawd am ranu â myfi yr Etifeddiaeth.
14
Yntau a ddywedodd wrtho, Ddyn, pwy a'm gosododd i yn Farnwr neu yn Rhanwr arnoch chwi?
15
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch a gwyliwch rhag pob trachwant: canys nid yw bywyd neb yn gynwysedig yn helaethrwydd y meddianau sydd ganddo.
16
Ac efe a ddywedodd ddammeg wrthynt, gan ddywedyd, Tir rhyw wr goludog a gnydiodd yn dda.
17
Ac efe a ymresymodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Pa beth a wnaf, canys nid oes genyf le i gasglu fy ffrwythau iddo?
18
Ac efe a ddywedodd, Hyn a wnaf: Mi a dynaf i lawr fy ysguboriau, ac a adeiladaf rai mwy: ac yno y casglaf ynghyd fy holl yd a'm da.
19
A dywedaf wrth fy enaid, Enaid, y mae genyt dda lawer wedi ei roi i gadw ar gyfer blynyddoedd lawer; gorphwys, bwyta, ŷf, mwynhâ dy hun.
20
Ond Duw a ddywedodd wrtho, O'r un anystyriol! y nos hon y gofynant dy enaid oddi wrthyt: a'r pethau a barotoaist, i bwy y byddant?
21
Felly yw yr hwn a drysora iddo ei hun, ac nid yw gyfoethog tu ag at Dduw.
22
Ac efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, O herwydd hyn meddaf i chwi, na fyddwch bryderus am y bywyd, beth a fwytâoch, nac am y corff, beth a wisgoch.
23
Canys y mae y bywyd yn fwy na'r bwyd, a'r corff na'r wisg.
24
Ystyriwch y cigfrain, nad ydynt yn hau nac yn medi; i'r rhai nid oes ystordy nac ysgubor, ac y mae Duw yn eu porthi hwynt: pa faint mwy yr ydych chwi yn rhagori ar yr ehediaid?
25
A phwy o honoch wrth fod yn bryderus a ddichon chwanegu un cufydd at hyd ei einioes?
26
Os gan hyny ni ellwch hyd y nod yn yr hyn sydd leiaf, paham yr ydych yn bryderus am y gweddill?
27
Ystyriwch flodau'r lili, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu: ond meddaf i chwi, hyd y nod Solomon yn ei holl ogoniant ni amwisgwyd fel un o'r rhai hyn.
28
Ac os felly y mae Duw yn dilladu y glaswellt, y rhai sydd heddyw mewn maes, ac yfory yn cael eu taflu i ffwrn, pa faint mwy y dillada efe chwi, O chwi o ychydig ffydd?
29
A chwychwi, na cheisiwch beth a fwytâoch, a pha beth a yfoch, ac na fyddwch mewn amheuaeth bryderus.
30
Canys y pethau hyn oll y mae cenedloedd y byd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tâd chwi yn gwybod fod arnoch chwi eisieu y pethau hyn.
31
Yn mhellach, ceisiwch ei Deyrnas ef, a'r peth hyn a ychwanegir i chwi.
32
Nac ofna, y praidd bychan; canys rhyngodd bodd i'ch Tâd roddi i chwi y Deyrnas.
33
Gwerthwch eich meddianau, a rhoddwch elusen: gwnewch i chwi eich hunain gôdau ni heneiddiant, trysor diddarfod yn y Nefoedd, lle nad yw lleidr yn agoshâu, na phryfed yn llwyr‐ddifa.
34
Canys lle y mae eich trysor chwi, yno y bydd eich calon hefyd.
35
Bydded eich lwynau wedi eu gwregysu, a'r lampau yn llosgi,
36
a chwithau yn debyg i ddynion yn dysgwyl eu Harglwydd eu hunain, pan yr ymadawo o'r briodas‐wledd; fel, pan ddelo a churo, yn ebrwydd yr agorant iddo.
37
Gwyn fyd y gweision hyny, y rhai a gaiff yr Arglwydd pan ddêl yn gwylio yn ddyfal. Yn wir meddaf i chwi, efe a ymwregysa, ac a wna iddynt eistedd i fwyta; ac efe a ddaw yn mlaen, ac a wasanaetha arnynt.
38
Ac os daw efe yn yr ail, ac os yn y drydedd wyliadwriaeth, a chael felly, gwyn fyd y rhai hyny.
39
A gwybyddwch hyn, pe gwybuasai meistr y tŷ pa awr y mae y lleidr yn dyfod, efe a wyliasai yn ddyfal, ac ni adawsai iddo gloddio trwy ei dŷ ef.
40
A chwithau,, byddwch barod; canys mewn awr ni thybioch y mae Mab y Dyn yn dyfod.
41
A Phetr a ddywedodd, Arglwydd, Ai wrthym ni yr wyt yn dywedyd y ddammeg hon, ai hefyd wrth bawb?
42
A'r Arglwydd a ddywedodd, Pwy yn wir yw y goruchwyliwr ffyddlawn, synwyrol, yr hwn a esyd ei arglwydd dros ei wasanaethyddion, i roddi mewn pryd eu cyfran o fwyd?
43
Gwyn fyd y gwas hwnw, yr hwn y caiff ei arglwydd pan ddêl yn gwneuthur felly.
44
Mewn gwirionedd yr wyf yn dywedyd i chwi, efe a'i gesyd ef dros ei holl eiddo.
45
Ond os dywed y gwas hwnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod, a dechreu curo y gweision a'r morwynion, a bwyta, ac yfed, a meddwi;
46
daw arglwydd y gwas hwnw mewn dydd nad yw efe yn dysgwyl, ac mewn awr nad yw efe yn gwybod; ac efe a'i fflangella yn erwin; ac a esyd ei gyfran gyd â'r anffyddloniaid.
47
A'r gwas hwnw, yr hwn a wybu ewyllys ei arglwydd, ac nid ymbarotôdd, ac ni wnaeth yn unol â'i ewyllys, a gurir â llawer curiad.
48
Eithr yr hwn ni wybu, ond a wnaeth bethau yn haeddu curiadau, a gurir âg ychydig. Ac i bwy bynag y rhoddir llawer, llawer a geisir oddi wrtho: ac i'r hwn yr ymddiriedasant lawer, mwy a ofynant oddi wrtho.
49
Mi a ddaethum i fwrw tân ar y ddaear: a pha beth a ewyllysiaf? O na fyddai wedi ei gyneu eisioes!
50
Y mae genyf Fedydd â'r hwn y'm bedyddir: ac mor gyfyng yw arnaf hyd oni orphener!
51
A ydych chwi yn tybied i mi ddyfod i roddi heddwch ar y ddaear? Naddo, meddaf i chwi, ddim arall ond ymraniad:
52
canys bydd o hyn allan bump mewn un tŷ wedi ymranu: tri yr erbyn dau, a dau yn erbyn tri a ymranant;
53
Tâd yn erbyn mab, a mab yn erbyn tâd; Mam yn erbyn merch, a merch yn erbyn y fam; Chwegr yn erbyn ei gwaudd, a gwaudd yn erbyn y chwegr.
54
Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y torfeydd, Pan weloch gwmwl yn cyfodi o'r Gorllewin, yn ebrwydd chwi a ddywedwch, Y mae gwlaw trwm yn dyfod: ac felly y mae.
55
A phan fo y Deheu‐wynt yn chwythu, chwi a ddywedwch. Poeth‐wynt a fydd: ac y mae.
56
Ragrithwyr, chwi a, wyddoch pa fodd i wneuthur prawf o wyneb‐pryd y ddaear a'r wybr: ond y tymhor hwn, pa fodd na wyddoch sut i wneuthur prawf o hono?
57
A phaham nad ydych hyd y nod o honoch eich hunain yn barnu yr hyn sydd gyfiawn?
58
Canys tra fyddi yn myned gyd â'th wrthwynebwr o flaen y llywodraethwr, ar y ffordd gwna dy oreu i gael myned yn rhydd oddi wrtho; rhag iddo dy lusgo at y Barnwr, a'r Barnwr a'th draddoda at y Dirwywr, a'r Dirwywr a'th dafla i garchar.
59
Yr wyf yn dywedyd i ti, ni ddeui di mewn un modd allan oddi yno, hyd oni thelyt hyd y nod yr hatling olaf.
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24