bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Luke 10
Luke 10
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 11 →
1
Wedi y pethau hyn, penododd yr Arglwydd Ddeg‐a‐Thri‐ugain eraill, ac a'u danfonodd hwy bob yn ddau o flaen ei wyneb i bob Dinas a man, lle yr oedd efe ei hun ar fedr dyfod.
2
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y Cynhauaf yn wir sydd fawr, ond y gweithwyr yn ychydig: deisyfwch, gan hyny, ar Arglwydd y Cynhauaf i yru allan weithwyr i'w Gynhauaf.
3
Ewch: wele yr wyf yn eich danfon chwi fel wyn yn nghanol bleiddiaid.
4
Na ddygwch gôd, nac ysgrepan, na sandalau, ac na chyferchwch neb ar hyd y ffordd.
5
Ac i ba dŷ bynag yr eloch i mewn gyntaf, dywedwch, Tangnefedd i'r tŷ hwn.
6
Ac os bydd mab tangnefedd yno, eich tangnefedd a orphwys arno, ond os nad ydyw, efe a ddychwel arnoch chwi.
7
Ac yn y tŷ hwn aroswch, gan fwyta ac yfed y pethau a roddir ganddynt. Canys teilwng y gweithiwr ei gyflog. Na symudwch o dŷ i dŷ.
8
Ac i ba Ddinas bynag yr eloch i mewn, ac y derbyniont chwi, bwytêwch y pethau a osodir ger eich bron.
9
A gwellhêwch y cleifion a fyddo ynddi, a dywedwch wrthynt, Y mae Teyrnas Dduw wedi neshâu atoch chwi.
10
Eithr i ba Ddinas bynag yr eloch, ac nis derbyniant chwi, ewch allan i'w phrif heolydd, a dywedwch,
11
Hyd y nod y llwch, yr hwn a lynodd wrthym ar ein traed o'ch Dinas chwi, yr ydym yn ei sychu ymaith yn eich herbyn chwi: er hyny, gwybyddwch hyn: Y mae Teyrnas Dduw wedi agoshâu.
12
Yr wyf yn dywedyd i chwi, y bydd yn fwy goddefadwy i Sodom yn y dydd hwnw, nag i'r Ddinas hono.
13
Gwae i ti, Chorazin; gwae i ti, Bethsaida: canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynoch chwi, hwy a edifarhasent er ys talm, gan eistedd mewn sach‐lian a lludw.
14
Bellach, bydd yn fwy goddefadwy i Tyrus a Sidon yn y Farn, nag i chwi.
15
A thithau Capernäum, a ddyrchefir di hyd y Nef? Ti a ddisgyni hyd Hades.
16
Y neb sydd yn eich gwrando chwi sydd yn fy ngwrando i; a'r neb sydd yn eich dibrisio chwi sydd yn fy nibrisio i; a'r neb sydd yn fy nibrisio i sydd yn dibrisio yr hwn a'm danfonodd i.
17
A dychwelodd y Deg a Thri‐ugain gyd â llawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd, y mae hyd y nod y cythreuliaid yn ddarostyngedig i ni yn dy enw di.
18
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr oeddwn yn syllu ar Satan, megis mellten wedi syrthio allan o'r Nef.
19
Wele yr ydwyf wedi rhoddi i chwi yr awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau; a thros holl allu y Gelyn; ac ni wna dim niwed o gwbl i chwi.
20
Er hyny, yn hyn na lawenhêwch am fod yr ysprydion yn ddarostyngedig i chwi; ond llawenhêwch am fod eich enwau wedi eu hysgrifenu yn y Nefoedd.
21
Yn yr awr hono, efe a ymorfoleddodd yn yr Yspryd Glân, ac a ddywedodd, Yr wyf yn cydnabod yn ddiolchgar i ti, O Dâd, Arglwydd y Nef a'r ddaear, am guddio o honot y pethau hyn oddiwrth ddoethion a rhai deallus, a'u dadguddio i fabanod: ie, O Dâd, canys gwneuthur felly oedd dy ewyllys da.
22
Pob peth a roddwyd i fyny i mi gan fy Nhâd: ac ni ŵyr neb pwy yw y Mab, ond y Tâd; a phwy yw y Tâd, ond y Mab, a'r hwn yr ewyllysio y Mab ei ddadguddio iddo.
23
Ac efe a drôdd at ei Ddysgyblion, ac a ddywedodd o'r neilldu, Gwyn fyd y llygaid sydd yn gweled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled:
24
canys yr wyf yn dywedyd i chwi, Llawer o Broffwydi a Breninoedd a chwenychasant weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled, ac nis gwelsant; a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.
25
Ac wele, rhyw Ddysgawdwr y Gyfraith a gododd i fyny gan ei brofi ef i'r eithaf, a dywedyd, Athraw, pa beth a wnaf i etifeddu bywyd Tragywyddol?
26
Ac efe a ddywedodd wrtho, Pa beth sydd wedi ei ysgrifenu yn y Gyfraith? pa fodd y darlleni?
27
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw, o'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl nerth, ac â'th holl feddwl: a'th gymydog fel ti dy hun.
28
Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a atebaist yn gywir: gwna hyn a byw fyddi.
29
Ond efe yn benderfynol i gyfiawnhâu ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, A phwy yw fy nghymydog?
30
Ac efe gan ateb a ddywedodd, Rhyw ddyn oedd yn myned i waered o Jerusalem i Jericho, ac a syrthiodd yn mysg ysbeilwyr, y rhai a'i diosgasant ef, ac a'i curasant ef, ac a aethant ymaith, ac a'i gadawsant yn haner marw.
31
Ac ar gyd‐ddygwyddiad, rhyw Offeiriad oedd yn myned i waered y ffordd hono; a phan y gwelodd ef, efe a aeth heibio o'r tu arall.
32
Ac yn gyffelyb Lefiad hefyd, wedi dyfod i waered i'r lle, a gweled, a aeth heibio o'r tu arall.
33
Ond rhyw Samariad, yn ymdeithio, a ddaeth i waered ato ef; a phan y gwelodd, efe a dosturiodd,
34
ac a ddaeth ato, ac a rwymodd ei archollion ef, gan barhâu i dywallt arnynt olew a gwin, ac a'i gosododd ef ar ei anifail ei hun, ac a'i harweiniodd ef i'r Gwest‐dy, ac a gymmerodd ofal am dano.
35
A thua thranoeth, efe a dynodd allan ddwy ddenarion, ac a'u rhoddodd i berchenog y gwest‐dŷ, ac a ddywedodd, Gofala am dano, a pha beth bynag a dreuli yn ychwaneg, myfi, pan ddychwelwyf, a dalaf yn ol i ti.
36
Pwy o'r tri hyn, a ymddengys i ti sydd wedi bod yn gymydog i'r hwn a syrthiodd i blith ysbeilwyr?
37
Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drugaredd âg ef. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Dos, a gwna dithau yr un modd.
38
Pan yr oeddynt hwy yn ymdeithio, efe a ddaeth i mewn i ryw bentref; a rhyw wraig o'r enw Martha a'i croesawodd ef i'w thŷ.
39
Ac i hon yr oedd chwaer a'i henw Mair, yr hon hefyd a eisteddodd yn ymyl wrth draed yr Arglwydd, ac a wrandawodd ei air ef.
40
A Martha a drallodwyd ynghylch gweini llawer arno: a hi gan sefyll i fyny a ddywedodd, Arglwydd, Ai nid wyt ti yn gofalu fod fy chwaer wedi fy ngadael i yn hollol wrthyf fy hun i wasanaethu? Gan hyny, dywed wrthi, am gymmeryd ei rhan gyd â mi.
41
A'r Arglwydd a atebodd ac a ddywedodd wrthi, Martha, Martha, yr wyt ti yn bryderus a chythryblus ynghylch llawer o bethau:
42
ond am un y mae angen: a Mair a ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddiarni.
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24