bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Luke 19
Luke 19
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 20 →
1
Ac efe a aeth i mewn, ac a ddechreuodd fyned trwy Jericho.
2
Ac wele wr a elwid wrth yr enw Zacchëus; ac yr oedd efe yn brif Drethgasglwr, ac yr oedd yn gyfoethog.
3
Ac yr oedd efe yn ceisio gweled yr Iesu, pwy ydoedd; ac ni allai gan y dyrfa, am ei fod yn fychan o gorffolaeth.
4
Ac efe a redodd o'r blaen, ac a ddringodd i fyny ar sycomorwydden, fel y gwelai efe ef, oblegyd yr oedd efe ar ddyfod y ffordd hono.
5
A phan ddaeth efe at y lle, yr Iesu a edrychodd i fyny,, ac a ddywedodd wrtho, Zacchëus, disgyn ar frys: canys rhaid i mi heddyw aros yn dy dŷ di.
6
Ac efe a ddisgynodd ar frys, ac a'i gwahoddodd ef yn llawen.
7
A phan welsant, grwgnach yn ddirfawr a wnaethant oll, gan ddywedyd, Efe a aeth i mewn i letya gyd â dyn pechadurus!
8
A Zacchëus a safodd i fyny, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, yr haner o'm meddianau, Arglwydd, yr wyf yn eu rhoddi i'r tlodion; ac os cam‐golledais neb, yr wyf yn ei ad‐dalu bedwar cymaint.
9
A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Heddyw y daeth Iachawdwriaeth i'r tŷ hwn, o herwydd ei fod yntau hefyd yn fab Abraham.
10
Canys daeth Mab y Dyn i geisio ac i gadw yr hyn oedd wedi ei golli.
11
Ac a hwy yn gwrando ar y pethau hyn, efe a chwanegodd, ac a ddywedodd ddammeg, am ei fod yn agos i Jerusalem, ac am iddynt dybied fod Teyrnas Dduw ar ymddangos yn eglur yn y man.
12
Efe a ddywedodd gan hyny, Rhyw wr boneddig a aeth i wlad bell i dderbyn Teyrnas iddo ei hun, ac i ddychwelyd.
13
Ac wedi galw ei ddeg gwas, efe a roddodd iddynt ddeg mina, ac a ddywedodd wrthynt, Masnachwch tra fyddwyf yn dyfod.
14
Eithr ei ddinaswyr ef oeddynt yn ei gashâu, ac a ddanfonasant genadaeth ar ei ol ef, gan ddywedyd, Ni fynwn ni hwn i deyrnasu arnom.
15
A bu, pan ddychwelodd drachefn, wedi derbyn y Deyrnas, ddywedyd o hono ef hefyd alw ato y gweision hyn, i'r rhai yr oedd wedi rhoddi yr arian, fel y gwybyddai beth a wnaethent mewn masnach.
16
A'r cyntaf a ddaeth ger ei fron, gan ddywedyd, Arglwydd, dy fina a wnaeth ddeg mina yn ychwaneg.
17
Ac efe a ddywedodd wrtho, Da yn wir, was da: canys ti a fuost yn ffyddlawn yn y lleiaf, bydded i ti awdurdod dros ddeg dinas.
18
A daeth yr ail, gan ddywedyd, Dy fina, Arglwydd, a wnaeth bum mina.
19
Ac efe a ddywedodd wrth hwn hefyd, Bydd dithau hefyd dros bum dinas.
20
A'r un arall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, Wele dy fina di, yr hon oedd genyf wedi ei dodi ymaith mewn napcyn;
21
canys yr oeddwn yn dy ofni di, am dy fod yn wr caled: yr wyt yn cymmeryd i fyny yr hyn ni osodaist i lawr, ac yn medi yr hyn ni heuaist.
22
Ac y mae efe yn dywedyd wrtho, Allan o'th enau dy hun y'th farnaf, O was drwg. A wyddit fy mod i yn wr caled; yn cymmeryd i fyny yr hyn ni osodais i lawr, ac yn medi yr hyn ni heuais?
23
A phaham na roddaist fy arian i'r banc; a minau a ddaethwn ac a'u codwn gyd â llôg?
24
Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll gerllaw, Dygwch oddi arno ef y fina, a rhoddwch i'r hwn y mae deg mina ganddo.
25
A hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ef ddeg mina.
26
Yr wyf yn dywedyd i chwi, I bob un y mae ganddo y rhoddir; eithr oddi ar yr hwn nid oes ganddo, ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir ymaith.
27
Yn mhellach, fy ngelynion hyn, y rhai ni fynasent i mi deyrnasu arnynt, dygwch hwynt yma, a lleddwch hwynt ger fy mron i.
28
Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth o'r blaen, gan fyned i fyny i Jerusalem.
29
A bu, pan neshâodd efe i Bethphage a Bethania, wrth y Mynydd a elwid Olew‐wydd, efe a anfonodd ddau o'i Ddysgyblion,
30
gan ddywedyd, Ewch i'r pentref sydd ar eich cyfer, yn yr hwn pan yr eloch i mewn, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn nid eisteddodd neb dynion erioed; a chan ei ollwng ef yn rhydd, arweiniwch ef yma.
31
Ac os gofyn neb i chwi, Paham yr ydych yn ei ollwng yn rhydd? fel hyn y dywedwch, Y mae ar yr Arglwydd ei eisieu.
32
A'r rhai a ddanfonasid a aethant ymaith, ac a gawsant fel y dywedodd efe wrthynt.
33
A hwy yn gollwng yr ebol yn rhydd, ei berchenogion a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gollwng yr ebol yn rhydd?
34
A hwy a ddywedasant, Y mae ar yr Arglwydd ei eisieu.
35
A hwy a'i harweiniasant ef at yr Iesu; ac wedi iddynt fwrw eu gwisgoedd uchaf ar yr ebol, hwy a osodasant yr Iesu arno.
36
Ac fel yr oedd efe yn myned, yr oeddynt yn taenu eu gwisgoedd uchaf eu hunain ar y ffordd.
37
Ac weithian, ac efe yn neshâu at ddisgynfa Mynydd yr Olew‐wydd, dechreuodd yr holl luaws Dysgyblion lawenhâu a moli Duw gyd â llef uchel am yr holl weithredoedd nerthol a welsant,
38
gan ddywedyd, Bendigedig yw y Brenin sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd! Yn y Nef Tangnefedd, a Gogoniant yn y Goruchafion!
39
A rhai o'r Phariseaid o'r dyrfa a ddywedasant wrtho ef, Athraw, cerydda dy Ddysgyblion.
40
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai y rhai hyn, y cerig a lefant allan.
41
A phan ddaeth efe yn agos, efe a welodd y Ddinas, ac a wylodd allan drosti,
42
gan ddywedyd, O na wybuasit tithau hefyd, yn y dydd hwn, y pethau a berthynant i dy heddwch: eithr yn awr cuddiwyd hwy oddi wrth dy lygaid!
43
Canys daw y dyddiau arnat, a'th elynion a fwriant wrthglawdd o'th amgylch, ac a'th amgylchant yn hollol, ac a'th warchaeant o bob tu,
44
ac a'th fwriant i'r llawr, a'th blant o'th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen: am na wybuaist amser dy Ymweliad.
45
Ac efe a aeth i mewn i'r Deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oeddynt yn gwerthu,
46
gan ddywedyd wrthynt, Y mae yn ysgrifenedig, A bydd fy Nhŷ i yn Dŷ Gweddi: Eithr chwi a'i gwnaethoch yn Ogof Ysbeilwyr.
47
Ac yr oedd efe yn dysgu beunydd yn y Deml: ond yr Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion oeddynt yn ceisio ei ddyfetha ef, fel y gwnai hefyd Benaethiaid y bobl:
48
ac ni chawsant beth a fedrent wneuthur; canys yr holl bobl oeddynt yn crogi wrth ei wefusau, pan yn gwrando.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24