bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Luke 14
Luke 14
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 15 →
1
Bu hefyd pan ddaeth efe i dŷ un o Lywodraethwyr y Phariseaid ar y Sabbath, i fwyta bara, hwy eu hunain hefyd oeddynt yn ei wylio ef yn ddyfal.
2
Ac wele, yr oedd ger ei fron ef ryw wr yn glaf o'r dyfr‐glwyf.
3
A'r Iesu gan ateb a lefarodd wrth Ddysgawdwyr y Gyfraith a'r Phariseaid, gan ddywedyd, A ydyw gyfreithlawn gwellhâu ar y Sabbath a'i nad yw?
4
A hwy a gadwasant yn dawel. Ac efe a afaelodd ynddo, ac a'i hiachâodd ef, ac a'i gollyngodd ymaith.
5
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mab neu ŷch pa un o honoch a syrth i bydew, ac yn ebrwydd nis tyn ef i fyny ar y dydd Sabbath?
6
Ac ni allent ateb yn ol i'r pethau hyn.
7
Ac efe a ddywedodd ddammeg wrth y gwahoddedigion, pan y daliodd sylw ar y modd y dewisent allan iddynt eu hunain y prif eistedd‐leoedd, gan ddywedyd wrthynt,
8
Pan y'th wahodder gan neb i briodas‐wledd, nac eistedd i lawr yn y prif eistedd‐le, rhag bod un anrhydeddusach na thydi wedi ei wahodd ganddo;
9
a dyfod o'r hwn a'th wahoddodd di ac yntau, a dywedyd wrthyt, Dyro le i hwn: ac yna dechreu o honot gyd â chywilydd gymmeryd meddiant o'r lle olaf.
10
Ond pan y'th wahodder, dos ac eistedd i lawr yn y lle olaf, fel pan ddelo yr hwn sydd wedi dy wahodd di, y dywed wrthyt, Gyfaill, dos yn uwch i fyny: yna y bydd i ti anrhydedd yn ngŵydd pawb a eisteddant gyd â thi.
11
Canys pob un a ddyrchafo ei hun a ostyngir: a'r hwn sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.
12
Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn oedd wedi ei wahodd, Pan wnelyt giniaw neu swper, na alw dy gyfeillion, na'th frodyr, na'th berthynasau, na chymydogion cyfoethog, rhag unrhyw amser iddynt hwythau hefyd dy wahodd dithau eilchwyl, ac y bydd ad‐daliad i ti.
13
Eithr pan wnelyt wledd, gwahodd dlodion, anafusion, cloffion, deillion:
14
a dedwydd fyddi, am nad oes ganddynt ddim i ad‐dalu i ti: canys fe ad‐delir i ti yn Adgyfodiad y rhai cyfiawn.
15
A phan glywodd rhyw un o'r rhai oedd yn cyd‐eistedd wrth fwyd y pethau hyn, efe a ddywedodd wrtho, Gwyn fyd pwy bynag a fwytâo fara yn Nheyrnas Dduw.
16
Ac efe a ddywedodd wrtho, Rhyw ddyn oedd yn gwneuthur swper mawr, ac a wahoddodd lawer:
17
ac a ddanfonodd ei was ar bryd y swper i ddywedyd wrth y gwahoddedigion, Deuwch, canys y mae pob peth weithian yn barod.
18
A hwy oll a ddechreuasant o un fryd ymesgusodi: y cyntaf a ddywedodd wrtho, Mi a brynais faes, ac y mae angenrhaid arnaf fyned allan i'w weled: yr wyf yn gofyn i ti, cymmer fi yn esgusodol.
19
Ac arall a ddywedodd, Mi a brynais bum iau o ychain, ac yr wyf yn myned i'w profi hwynt: yr wyf yn gofyn i ti, cymmer fi yn esgusodol.
20
Ac arall a ddywedodd, Mi a briodais wraig, ac o herwydd hyn nis gallaf ddyfod.
21
A'r gwas, pan gyrhaeddodd, a fynegodd i'w arglwydd y pethau hyn. Yna Meistr y tŷ a fu ddigllawn, ac a ddywedodd wrth ei was, Dos allan ar frys i'r prif‐ystrydoedd a chul‐heolydd y Ddinas, a dwg i mewn yma y tlodion, a'r anafusion, a'r deillion, a'r cloffion.
22
A'r gwas a ddywedodd, Arglwydd, y peth a orchymynaist sydd wedi ei wneuthur, ac eto y mae lle.
23
A'r arglwydd a ddywedodd wrth y gwas, Dos allan i'r ffyrdd a'r cloddiau, a chymhell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhŷ.
24
Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, Ni cha neb o'r gwyr hyny sydd wedi eu gwahodd brofi o'm swper i.
25
A thorfeydd lawer oeddynt yn myned gyd âg ef: ac efe a drodd, ac a ddywedodd wrthynt,
26
Os oes neb yn dyfod ataf fi, ac nid yw yn cashâu ei dâd, a'i fam, a'i wraig, a'i blant, a'i frodyr, a'i chwiorydd, ie, a'i einioes ei hun hefyd, ni all efe fod yn ddysgybl i mi:
27
a phwy bynag nid yw yn dwyn ei groes ei hun, ac yn dyfod ar fy ol i, ni all efe fod yn ddysgybl i mi.
28
Canys pwy o honoch chwi yn ewyllysio adeiladu tŵr, nid eistedd yn gyntaf a chyfrif y draul, a oes ganddo ddigon i'w orphen?
29
Rhag byth, wedi iddo osod y sylfaen, ac heb allu dwyn i ben yn hollol, ddechreu o bawb a ddaliant sylw ei watwar ef,
30
gan ddywedyd, Y dyn hwn a ddechreuodd adeiladu, ac ni allodd ddwyn i ben yn hollol.
31
Neu pa frenin yn myned allan i wrth‐daraw â brenin arall mewn rhyfel, nid eistedd yn gyntaf ac ymgynghori a all efe â deng mil gyfarfod â'r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef âg ugain mil?
32
Os amgen, tra fyddo efe eto yn mhell, efe a enfyn lys‐genadaeth, ac a ofyna amodau heddwch.
33
Felly, gan hyny, pob un o honoch chwithau nid ymwrthodo a chymaint oll ag a feddo, ni all fod yn ddysgybl i mi.
34
Da gan hyny yw yr halen: eithr os collodd hyd y nod yr halen ei flas, â pha beth yr helltir ef?
35
Nid yw efe gyfaddas nac i'r tir nac i'r domen: y maent yn ei fwrw ef allan. Y neb sydd ganddo glustiau, gan wrando, gwrandawed.
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24