bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Luke 5
Luke 5
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 6 →
1
A bu, a'r bobl yn gwasgu arno, ac yn gwrando Gair Duw, yr oedd efe ei hun hefyd yn sefyll wrth Lyn Gennesaret:
2
ac efe a welodd ddau gwch yn sefyll wrth y Llyn: ond y pysgodwyr, wedi myned allan o honynt, oeddynt yn golchi eu rhwydau.
3
Ac efe a aeth i mewn i un o'r cychod, yr hwn oedd eiddo Simon, ac a ofynodd iddo i wthio ychydig oddiwrth y tir. Ac efe a eisteddodd ac a ddysgodd y torfeydd allan o'r cwch.
4
A phan beidiodd â llefaru, efe a ddywedodd wrth Simon, Gwthia i'r dyfnder, a gollyngwch chwi i lawr eich rhwydau am ddalfa.
5
A Simon a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O Feistr, ar ol ymboeni drwy y nos i gyd, ni ddaliasom ni ddim: ond ar dy air di, mi a ollyngaf i lawr y rhwydau.
6
Ac wedi iddynt wneuthur hyn, hwy a amgauasant luaws mawr o bysgod, ac yr oedd eu rhwydau hwynt yn dechreu rhwygo.
7
A hwy a amneidiasant ar y rhai oeddynt gyfranogion â hwynt yn y cwch arall, i ddyfod i'w cynorthwyo hwynt: a hwy a ddaethant, ac a lanwasant y ddau gwch, fel ag yr oeddynt ar soddi.
8
A Simon Petr, pan welodd, a syrthiodd wrth liniau yr Iesu, gan ddywedyd, Dos allan ymaith oddiwrthyf fi; canys dyn pechadurus wyf, O Arglwydd:
9
canys syndod a'i meddianodd ef a phawb oedd gyd âg ef, ar y ddalfa o bysgod a ddaliasent;
10
a'r un modd hefyd Iago ac Ioan, meibion Zebedëus, y rhai oeddynt gyd‐gyfranogion â Simon. A dywedodd yr Iesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan ti a fyddi yn dala dynion.
11
Ac wedi iddynt ddwyn y cychod at y tir, hwy a adawsant bob peth, ac a'i dylynasant ef.
12
A bu, tra yr oedd efe yn un o'r dinasoedd, wele hefyd ddyn yn llawn o wahan‐glwyf: ac efe a welodd yr Iesu, ac a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd âg ef, gan ddywedyd, O Arglwydd, os ewyllysi, ti a elli fy nglanhâu.
13
Ac yntau a estynodd ei law, ac a gyffyrddodd âg ef, gan ddywedyd, Yr wyf yn ewyllysio: bydd lân. Ac yn ebrwydd y gwahan‐glwyf a aeth ymaith oddiwrtho.
14
Ac efe a orchymynodd iddo na ddywedai wrth neb: ond, Ar ol myned ymaith, dangos dy hun i'r Offeiriad, a dwg dy offrwm am dy lanhâd, fel yr ordeiniodd Moses, er tystiolaeth iddynt.
15
Ond y gair am dano ef a aeth fwy‐fwy ar led; a thyrfaoedd lawer a ddaethant ynghyd i'w glywed ef, ac i'w hiachâu o'u gwendidau.
16
Ond efe ei hun oedd yn ymneillduo i'r lleoedd anial, ac yn gweddïo.
17
A bu ar un o'r dyddiau, ac efe yn dysgu, yr oedd Phariseaid a Dysgawdwyr y Gyfraith hefyd yn eistedd: yr oeddynt wedi dyfod allan o bob pentref yn Galilea, a Judea, ac o Jerusalem: ac yr oedd gallu yr Arglwydd ganddo er iachâu.
18
Ac wele wŷr yn dwyn ar wely ddyn ag oedd wedi ei daro â'r parlys, ac yr oeddynt yn ceisio ei ddwyn ef i mewn, a'i osod o'i flaen ef.
19
A phan na chawsant allan pa fodd y dygent ef i mewn o achos y dyrfa, hwy a aethant i fyny ar nen y tŷ, ac a'i gollyngasant ef i waered gyd â'i wely bychan drwy y pridd‐lechau i'r canol gerbron yr Iesu.
20
A phan welodd efe eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd, Y dyn, Y mae dy bechodau wedi eu maddeu i ti.
21
A'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid a ddechreuasant ymresymu, gan ddywedyd, Pwy yw hwn sydd yn llefaru cableddau? Pwy a ddichon faddeu pechodau, ond Duw yn unig?
22
A'r Iesu yn gwybod yn hollol eu hymresymiadau hwynt, a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ymresymu yn eich calonau?
23
Pa un sydd hawddaf, ai dywedyd, Y mae dy bechodau wedi eu maddeu i ti, ai dywedyd, Cyfod a rhodia?
24
Ond fel y gwypoch fod gan Fab y Dyn awdurdod ar y ddaear i faddeu pechodau, efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd wedi ei daro â'r parlys, Yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod a chymmer i fyny dy wely bychan, a dos i'th dŷ.
25
Ac yn y fan efe a gyfododd i fyny yn eu gŵydd hwynt: ac a gymmerodd i fyny yr hyn y gorweddai arno, ac a aeth ymaith i'w dŷ ei hun, gan ogoneddu Duw.
26
A syndod a gymmerodd afael yn mhawb, a hwy a ogoneddasant Dduw, ac a lanwyd o ofn, gan ddywedyd, Ni a welsom bethau anhygoel heddyw.
27
Ac ar ol y pethau hyn yr aeth efe allan, ac efe a ganfyddodd Dreth‐gasglwr, a'i enw Lefi, yn eistedd wrth y Dollfa: ac efe a ddywedodd wrtho, Canlyn fi.
28
Ac efe a lwyr‐adawodd bob peth, ac a gyfododd, ac a'i canlynodd ef.
29
A Lefi a wnaeth wledd roesawol fawr iddo yn ei dŷ, ac yr oedd tyrfa fawr o Dreth‐gasglwyr ac eraill, y rhai oeddynt yn eistedd wrth fwyd gyd â hwynt.
30
A grwgnach wnaeth y Phariseaid a'u Hysgrifenyddion hwynt wrth ei Ddysgyblion ef, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi yn bwyta ac yn yfed gyd â'r Treth‐gasglwyr â'r Pechaduriaid?
31
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg; ond i'r rhai cleifion.
32
Nid wyf wedi dyfod i alw rhai cyfiawn ond pechaduriaid i edifeirwch.
33
Ond hwy a ddywedasant wrtho, Y mae Dysgyblion Ioan yn ymprydio yn fynych, ac yn gwneuthur deisyfiadau; a'r un modd hefyd Dysgyblion y Phariseaid; ond y mae dy Ddysgyblion di yn bwyta ac yn yfed.
34
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, A ellwch chwi beri i Feibion yr Ystafell Briodas ymprydio, tra y mae y Priodas‐fab gyd â hwynt.
35
Ond dyddiau a ddeuant; a phan gymmerir ymaith y Priodas‐fab oddiarnynt, yna yr ymprydiant yn y dyddiau hyny.
36
Ac efe hefyd a ddywedodd ddammeg wrthynt, Ni wna neb rwygo dernyn oddiwrth ddilledyn newydd, a'i osod ar hen ddilledyn: os amgen, efe a rwyga y newydd, ac hefyd ni wna y dernyn oddiwrth y newydd gytuno a'r hen.
37
Ac nid oes neb yn tywallt gwin newydd i hen gostrelau lledr; os amgen, y gwin newydd a rwyga yr hen gostrelau lledr, ac efe a red allan, a'r costrelau lledr a ddinystrir.
38
Eithr gwin newydd raid ei dywallt i gostrelau lledr newyddion.
39
Ac nid oes neb, gwedi iddo yfed yr hen, a chwenycha win newydd, canys y mae yn dywedyd, Hyfryd yw yr hen.
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24