bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Luke 21
Luke 21
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 22 →
1
Ac efe a edrychodd i fyny, ac a welodd y rhai goludog yn bwrw eu rhoddion i'r Drysorfa.
2
Ac efe a welodd ryw wraig weddw dlawd iawn yn bwrw yno ddwy hatling.
3
Ac efe a ddywedodd, Mewn gwirionedd yr wyf yn dywedyd i chwi, y wraig weddw dlawd hon a fwriodd i mewn fwy na hwynt oll.
4
Canys y rhai hyn oll o'r gorlawnder sydd ganddynt a fwriasant at y rhoddion; eithr hon o'i phrinder a fwriodd yr holl fodd i fyw oedd ganddi.
5
Ac fel yr oedd rhai yn dywedyd am y Deml, ei bod wedi ei haddurno â meini prydferth ac offrymau cysegredig, efe a ddywedodd,
6
O berthynas i'r pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, y dyddiau a ddeuant yn y rhai ni adewir yma faen ar faen, a'r nis datodir yn hollol.
7
A hwy, a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athraw, Pa bryd gan hyny y bydd y pethau hyn? A pha arwydd fydd pan fyddo y pethau hyn ar ddyfod?
8
Ac efe a ddywedodd, Edrychwch na'ch cam‐arweinier chwi: canys llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw, ac, Y mae yr Adeg wedi neshâu: nac ewch ar eu hol hwynt.
9
Eithr pan glywoch am ryfeloedd a therfysgoedd, na frawycher chwi; canys rhaid i'r pethau hyn fod yn gyntaf: ond nid yw y diwedd yn y man.
10
Yna y dywedodd efe wrthynt, Cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas:
11
a bydd hefyd ddaear‐grynfäau mawrion, ac mewn manau newynau a heintiau; ac ymddangosiadau echrydus, ac hefyd arwyddion mawrion a fydd o'r Nef.
12
Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant arnoch eu dwylaw, ac a'ch erlidiant, ac a'ch traddodant i'r Synagogau a charcharau, wedi eich arwain ymaith o flaen Breninoedd a Llywodraethwyr, er mwyn fy enw i.
13
Hyn a dry allan i chwi yn dystiolaeth.
14
Gosodwch hyn gan hyny yn eich calonau: i beidio rhagfyfyrio i amddiffyn eich hun.
15
Canys Myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr ei gwrth‐sefyll na'i gwrth‐ddywedyd.
16
A chwi a draddodir i fyny hyd y nôd gan rieni, a brodyr, a pherthynasau, a chyfeillion; a hwy a roddant rai o honoch i farwolaeth.
17
A chwi a fyddwch gas gan bawb o herwydd fy enw i.
18
Ac eto blewyn o'ch pen chwi ni chollir ddim:
19
yn eich dyfal‐barhâd amyneddgar chwi a enillwch eich eneidiau.
20
Ond pan weloch Jerusalem yn cael ei hamgylchu gan fyddinoedd, yna gwybyddwch fod ei Hanghyfanedd‐dra hi wedi neshâu.
21
Yna bydded i'r rhai a fyddant yn Judea ffoi i'r mynyddoedd: a bydded i'r rhai a fyddant yn ei chanol hi ymadael allan o honi; ac na fydded i'r rhai a fyddant yn y wlad fyned i mewn iddi.
22
Canys dyddiau cyfiawn daledigaeth yw y rhai hyn, i gyflawnu yr holl bethau sydd wedi eu hysgrifenu.
23
Gwae y rhai beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronau yn y dyddiau hyny! Canys bydd cyfyngder mawr ar y ddaear, a digofaint ar y bobl hyn.
24
A hwy a syrthiant trwy fin y cleddyf, a chaethgludir hwynt i bob cenedl: a Jerusalem a fydd yn cael ei mathru gan Genedloedd, hyd oni chyflawner amseroedd y Cenedloedd.
25
A bydd arwyddion mewn haul, a lleuad, a sêr; ac ar y ddaear gyfyngder Cenedloedd mewn dyryswch wrth ruad y môr a'i ymchwydd:
26
dynion yn llewygu ymaith gan ofn a dysgwyliad o'r pethau sydd yn dyfod ar y byd trigianol: oblegyd Galluoedd y Nefoedd a ysgydwir.
27
Ac yna y gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cwmwl gyd â gallu a gogoniant mawr,.
28
Ond pan ddechreuo y pethau hyn ddyfod, sefwch yn union‐syth, a chodwch eich penau, canys y mae eich gwaredigaeth yn neshâu.
29
Ac efe a lefarodd ddammeg wrthynt: Gwelwch y ffigys‐bren a'r holl brenau:
30
pan ddeiliant hwy weithian, wrth ddal sylw yr ydych yn gwybod o honoch eich hunain fod yr hâf yn agos.
31
Felly chwithau hefyd, pan weloch y pethau hyn yn dygwydd, gwybyddwch fod Teyrnas Dduw yn agos.
32
Yn wir, meddaf i chwi, nid â y genedlaeth hon heibio ddim, hyd oni ddêl y cwbl i ben.
33
Y Nef a'r ddaear a ânt heibio: ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.
34
Ond ystyriwch arnoch chwi eich hunain, rhag un amser i'ch calonau gael eu gorlwytho âg effeithiau glythineb, a meddwdod, a phryderon bywyd, a'r Dydd hwnw ddyfod arnoch yn ddisymwth, fel magl;
35
canys felly y daw efe i mewn ar bawb a'r sydd yn eistedd yn dawel dros wyneb yr holl ddaear.
36
Eithr gwyliwch chwi yn mhob tymhôr, gan wneyd deisyfiadau, fel y caffoch nerth i ddianc rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac i sefyll ger bron Mab y Dyn.
37
Ac yr oedd efe ar hyd y dyddiau hyny yn dysgu yn y Deml: ond y nosweithiau yr oedd efe yn myned allan i dreulio y nos yn y Mynydd a elwir Olew‐wydd.
38
A'r holl bobl a gyrchent gyd â'r wawr ato yn y Deml, i wrando arno.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24