bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Luke 20
Luke 20
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 21 →
1
A bu ar un o'r dyddiau, ac efe yn dysgu y bobl yn y Deml, ac yn efengylu, yr Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion, gyd â'r Henuriaid, a ddaethant yn ddisymwth arno,
2
ac a lefarasant gan ddywedyd wrtho, Dywed i ni trwy ba fath awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? Neu pwy a roddodd i ti yr awdurdod hon?
3
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minau a ofynaf i chwithau air, a dywedwch i mi:
4
Bedydd Ioan, a'i o'r Nef yr ydoedd, ai o ddynion?
5
A hwy a ymresymasant wrthynt eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r Nef, efe a ddywed, Paham na chredasoch iddo?
6
Ond os dywedwn, O ddynion; y bobl oll a'n llabyddiant i farwolaeth: canys y maent wedi eu llwyr‐ddarbwyllo fod Ioan yn Broffwyd.
7
A hwy a atebasant, nas gwyddant o ba le.
8
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Nid wyf finau ychwaith yn dywedyd i chwi drwy ba fath awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
9
Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobl y ddammeg hon: Gwr a blanodd winllan, ac a'i rhoddodd allan i lafurwyr, ac a aeth ymaith o'i wlad ei hun am amser hir.
10
Ac ar adeg briodol efe a anfonodd was at y llafurwyr, fel y rhoddant iddo o ffrwyth y winllan. Ond y llafurwyr a'i curasant ef, ac a'i danfonasant allan ymaith yn wag.
11
Ac efe a chwanegodd anfon gwas arall; a hwn hefyd, wedi ei guro a'i anmharchu, hwy a ddanfonasant allan ymaith yn wag.
12
Ac efe a chwanegodd ddanfon trydydd: a hwn hefyd hwy a glwyfasant, ac a fwriasant allan.
13
A dywedodd arglwydd y winllan, Pa beth a wnaf? Mi a anfonaf fy Mab Anwyl: ond odid y parchant hwn.
14
Eithr pan welodd y llafurwyr ef, hwy a ymresymasant yn ddifrifol yn mhlith eu gilydd, gan ddywedyd, Hwn yw yr etifedd: lladdwn ef, fel y byddo yr etifeddiaeth yn eiddom ni.
15
A hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant. Pa beth gan hyny a wna arglwydd y winllan iddynt hwy?
16
Efe a ddaw ac a ddyfetha y llafurwyr hyn, ac a rydd ei winllan i eraill. Eithr pan glywsant hyn, hwy a ddywedasant, Na fydded hyn.
17
Ac efe a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd, Beth gan hyny yw hyn sydd wedi ei ysgrifenu: Maen a wrthododd yr Adeiladwyr:— Hwn a wnaed yn ben congl?
18
Pob un a syrthio ar y maen hwnw a chwilfriwir yn ddarnau: ond ar bwy bynag y syrthio, efe a'i chwâl ef fel llwch.
19
A'r Ysgrifenyddion a'r Arch‐offeiriaid a geisiasant osod eu dwylaw arno yr awr hono; a hwy a ofnasant y bobl: canys gwybuant mae yn eu herbyn hwy y dywedodd efe y ddammeg hon.
20
A hwy a wyliasant gyfleu, ac a anfonasant allan gynllwynwyr, y rhai a gymmerent arnynt eu bod hwy eu hunain yn gyfiawn, fel y caent afael ar ei ymadrodd ef, i'w draddodi ef i'r Llywodraeth ac i Awdurdod y Llywydd.
21
A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athraw, ni a wyddom dy fod yn dywedyd ac yn dysgu yn uniawn, ac nad wyt yn derbyn wyneb, ond yn dysgu ffordd Duw yn wirioneddol.
22
A ydyw gyfreithlawn i ni roddi teyrnged i Cesar, ai nid yw?
23
Eithr efe yn darganfod eu cyfrwysdra hwynt, a ddywedodd wrthynt,
24
Dangoswch i mi ddenarion. Eiddo pwy yw y ddelw a'r argraff? A hwy gan ateb a ddywedasant, Eiddo Cesar.
25
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yna rhoddwch yn ol bethau Cesar i Cesar, a phethau Duw i Dduw.
26
Ac nis gallasant gymmeryd gafael ar ei air ef gerbron y bobl, a chan ryfeddu wrth ei ateb ef, hwy a dawsant.
27
A daeth ato rai o'r Saduceaid, y rhai sydd yn dywedyd nad oes Adgyfodiad,
28
a hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athraw, Moses a ysgrifenodd i ni:— Os byddai farw brawd neb, ac iddo wraig, a'i fod ef yn ddi‐blentyn, ar gymmeryd o'i frawd ei wraig ef, a chodi hâd i'w frawd.
29
Yr oedd, ynte, saith o frodyr: a'r cyntaf a gymmerodd wraig, ac a fu farw yn ddi‐blentyn.
30
A'r ail,
31
a'r trydydd a'i cymmerodd hi, a'r un modd hefyd y saith ni adawsant blant, ac a fuont feirw.
32
Yn ddiweddaf bu farw y wraig hefyd.
33
Yn yr Adgyfodiad gan hyny, gwraig i bwy un o honynt yw hi? Canys y saith a'i cawsant hi yn wraig.
34
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Plant y byd hwn sydd yn priodi ac yn rhoddi i briodas:
35
ond y rhai a gyfrifir yn deilwng i gyrhaedd nod y byd hwnw, a'r Adgyfodiad o feirw, nid ydynt yn priodi nac yn rhoddi i briodas:
36
canys chwaith nid ydynt yn gallu marw mwy; canys cydradd âg angelion ydynt, ac y maent yn Feibion i Dduw, gan eu bod yn Feibion yr Adgyfodiad.
37
A bod y meirw yn cael eu cyfodi, hyd y nod Moses a awgryma yn yr adran ar y Berth, pan y mae yn galw yr Arglwydd, Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob.
38
Ond nid Duw dynion meirw ydyw ef, ond byw: canys y mae pawb yn fyw iddo ef.
39
A rhai o'r Ysgrifenyddion gan ateb a ddywedasant, Athraw, da y dywedaist.
40
Canys ni feiddiasant o hyn allan ofyn dim iddo ef.
41
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd y maent yn dywedyd fod y Crist yn Fab Dafydd?
42
Ac y mae Dafydd ei hun yn dywedyd yn Llyfr y Salmau, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw,
43
Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i'th draed.
44
Y mae Dafydd gan hyny yn ei alw ef yn Arglwydd; a pha fodd y mae efe yn fab iddo?
45
A'r holl bobl yn gwrando, efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion,
46
Ymogelwch rhag yr Ysgrifenyddion, y rhai ydynt awyddus i rodio mewn llaes‐wisgoedd, ac yn hoffi cyfarchiadau yn y marchnad‐leoedd; a'r brif‐gadair yn y Synagogau, a'r prif‐eistedd‐leoedd yn y Swperau;
47
y rhai sydd yn llwyr‐fwyta tai y gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir‐weddio; y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth lymach.
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24