bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Luke 18
Luke 18
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 19 →
1
Ac efe a lefarodd dammeg wrthynt i'r dyben fod yn rhaid iddynt weddïo yn wastad ac heb ddigaloni:
2
gan ddywedyd, Yr oedd rhyw Farnwr mewn rhyw Ddinas, yr hwn nid ofnai Dduw, ac ni pharchai ddyn.
3
Ac yr oedd gwraig weddw yn y Ddinas hono; a hi a barhâodd i ddyfod ato ef, gan ddywedyd, Amddiffyn fi drwy ddedfryd rhag fy ngwrthwynebwr.
4
Ac efe nid ewyllysiai am amser: ond wedi hyn efe a ddywedodd ynddo ei hun, Er nad wyf yn ofni Duw, nac yn parchu dyn,
5
o herwydd yn wir fod y weddw hon yn peri i mi flinder, mi a'i hamddiffynaf drwy ddedfryd, rhag iddi ddyfod yn y diwedd a'm taro yn fy ngwyneb.
6
A dywedodd yr Arglwydd, Gwrandêwch beth y mae y Barnwr Anghyfiawn yn ei ddywedyd.
7
Ac oni effeithia Duw lwyr‐amddiffyniad i'w Etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos: ac eto y mae efe yn hir‐ymarhous ar eu rhan?
8
Yr wyf yn dywedyd i chwi, yr effeithia efe lwyr‐amddiffyniad iddynt ar frys. Yn mhellach, Mab y Dyn pan ddêl, a gaiff efe yn wir y fath ffydd ar y ddaear?
9
Ac efe a ddywedodd y ddammeg hon hefyd wrth rai hyderus ynddynt eu hunain eu bod yn gyfiawn, ac yn gwneuthur dim cyfrif o bawb eraill:
10
Dau wr a aethant i fyny i'r Deml i weddio; un yn Pharisead, a'r llall yn Drethgasglwr.
11
Y Pharisead a safodd i fyny, ac a barhâodd i weddio y pethau hyn wrtho ei hun, O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyf fi fel pawb eraill o ddynion, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwyr, neu hefyd fel y Treth‐gasglwr hwn:
12
yr wyf yn ymprydio ddwywaith yn yr wythnos; yr wyf yn rhoddi degwm o gymaint oll a enillwyf.
13
A'r Treth‐gasglwr, gan sefyll o hirbell, ni fynai gymaint a chodi ei olygon tua'r Nef, eithr a barhâodd i guro ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd gymodlawn â mi, y pechadur.
14
Yr wyf yn dywedyd i chwi, Aeth hwn i waered i'w dŷ wedi ei gyfiawnhâu yn hytrach na'r llall. Canys pob un a ddyrchafo ei hun a ostyngir; eithr yr hwn a ostyngo ei hun a ddyrchefir.
15
A hwy a ddygasant ato ef y babanod hefyd, fel y cyffyrddai efe â hwynt: ond pan welodd y Dysgyblion, hwy a'u ceryddasant.
16
Eithr yr Iesu a'u galwodd hwynt ato, gan ddywedyd, Gadêwch i blant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch hwynt: canys eiddo cyfryw rai yw Teyrnas Dduw.
17
Yn wir meddaf i chwi, pwy bynag ni dderbynio Deyrnas Dduw fel plentyn bach, nid â i mewn o gwbl iddi.
18
A rhyw Lywodraethwr a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Athraw Da, Pa beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragywyddol?
19
Ond yr Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y'm gelwi i yn dda? Nid oes neb da ond Un, sef Duw.
20
Ti a wyddost y gorchymynion: Na odineba: Na lofruddia: Na ladrata: Na cham‐dystiolaetha: Anrhydedda dy dâd a'th fam.
21
Eithr efe a ddywedodd, Y pethau hyn oll a gedwais yn ddyfal o'm hieuenctyd.
22
A'r Iesu pan glybu, a ddywedodd wrtho, Eto y mae un peth yn ddiffygiol ynot: gwerth yr hyn oll sydd genyt, a rhana rhwng tlodion, a thi a gei drysor yn y Nefoedd: a thyred, canlyn fi.
23
Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist iawn: canys yr oedd efe yn gyfoethog ryfeddol.
24
A'r Iesu wrth ei weled ef a ddywedodd, Gyd â y fath anhawsder y mae y rhai y mae golud ganddynt yn myned i mewn i Deyrnas Dduw!
25
Canys hawddach yw i gamel fyned trwy grai nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i Deyrnas Dduw.
26
A'r rhai a glywsant a ddywedasant, A phwy a all fod yn gadwedig?
27
Ac efe a ddywedodd, Y pethau sydd anmhosibl gyd â dynion sydd bosibl gyd â Duw.
28
Eithr Petr a ddywedodd, Wele, ni a adawsom ein heiddo ein hunain, ac a'th ganlynasom di.
29
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu rieni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn Teyrnas Dduw,
30
a'r nis derbyn yn ol lawer mwy yn y pryd hwn, ac yn y byd sydd yn dyfod, fywyd tragywyddol.
31
Ac efe a gymmerodd y Deuddeg ato, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydym yn myned i fyny i Jerusalem, a'r holl bethau sydd wedi eu hysgrifenu trwy y Proffwydi am Fab y Dyn a ddygir i ben.
32
Canys efe draddodir i'r Cenedloedd, ac a watwerir, ac a drinir yn warthus, ac a boerir arno;
33
a hwy a'i fflangellant, ac a'i lladdant ef; a'r trydydd dydd efe a adgyfyd.
34
A hwy ni ddeallasant ddim o'r pethau hyn; a'r peth oedd wedi ei guddio oddi wrthynt, ac ni ddaethant i wybod y pethau a ddywedwyd.
35
A bu, ac efe yn neshâu at Jericho, yr oedd rhyw ddyn dall yn eistedd ar ymyl y ffordd, yn cardota:
36
a chan glywed tyrfa yn myned trwodd, efe a ymofynodd beth oedd hyn.
37
A hwy a fynegasant iddo, Iesu o Nazareth sydd yn myned heibio.
38
Ac efe a waeddodd, gan ddywedyd, Iesu, Fab Dafydd, trugarhâ wrthyf.
39
A'r rhai oedd yn myned o'r blaen oeddynt yn ei geryddu ef, fel y tawai: ond efe ei hun a lefodd yn fwy o lawer, Fab Dafydd, trugarhâ wrthyf.
40
A'r Iesu a safodd, ac a orchymynodd ei arwain ef ato: a phan ddaeth efe yn agos, efe a ofynodd iddo,,
41
Pa beth a fyni di i mi ei wneuthur i ti? Yntau a ddywedodd, Arglwydd, cael o honof fy ngolwg.
42
A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Cymmer dy olwg: y mae dy ffydd wedi dy achub.
43
Ac yn y man efe a gafodd ei olwg, ac a'i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw. A'r holl bobl pan welsant, a roisant foliant i Dduw.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24