bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Luke 11
Luke 11
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 12 →
1
A bu, ac efe mewn rhyw fan yn gweddïo, pan orphenodd, rhyw un o'r Dysgyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, dysg ni i weddïo, yr un modd ag y dysgodd Ioan ei Ddysgyblion.
2
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan weddioch, dywedwch, O Dâd, Sancteiddier dy enw. Deled dy Deyrnas.
3
Dyro i ni o ddydd i ddydd ein bara cyfreidiol.
4
A maddeu i ni ein pechodau: canys yr ydym ni ein hunain hefyd yn maddeu i bob un sydd yn ein dyled ni. Ac na ddwg ni i brofedigaeth.
5
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy o honoch chwi fydd iddo gyfaill, ac a â ato haner nos, ac a ddywed wrtho, Gyfaill, dyro yn fenthyg i mi dair torth:
6
canys cyfaill i mi a ddaeth ataf o daith, ac nid oes genyf beth i'w osod ger ei fron ef.
7
Ac yntau oddi mewn a etyb ac a ddywed, Na flina fi: y mae y drws yn barod wedi ei gau; ac y mae fy mhlant bychain gyd â mi yn y gwely: nid wyf yn gallu codi drachefn a rhoddi i ti.
8
Yr wyf yn dywedyd i chwi, Os hyd y nod na rodda efe iddo gan gyfodi drachefn, o herwydd ei fod ef yn gyfaill iddo, eto o herwydd ei daerni digywilydd, efe a gyfyd, ac a rydd iddo gynifer ag sydd arno eu heisieu.
9
Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe a agorir i chwi:
10
canys pob un sydd yn gofyn sydd yn derbyn; a'r hwn sydd yn ceisio sydd yn cael, ac i'r hwn sydd yn curo yr agorir.
11
Ac i bwy o honoch chwi sydd dâd y gofyn ei fab dorth, ac a rydd gareg iddo yn ei lle? neu hefyd bysgodyn, ac a rydd iddo sarff yn lle pysgodyn?
12
Neu hefyd a ofyn efe ŵy, a ddyry efe iddo ysgorpion yn ei le?
13
Os chwi gan hyny, y rhai ydych ddrwg o'r dechreu, a wyddoch pa fodd i roddi rhoddion da i'ch plant, pa faint mwy y rhydd eich Tâd o'r Nef yr Yspryd Glân i'r rhai a ofynant ganddo?
14
Ac yr oedd efe yn bwrw allan gythraul mud. A bu, wedi i'r cythraul fyned allan, i'r mudan lefaru: a'r torfeydd a ryfeddasant.
15
Ond rhai o honynt a ddywedasant, Trwy Beelzebwl, Penaeth y cythreuliaid, y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid.
16
Ac yr oedd eraill, gan ei demtio ef, yn ceisio arwydd allan o'r Nef ganddo.
17
Yntau, yn gwybod eu meddyliau hwynt, a ddywedodd wrthynt, Pob Teyrnas wedi ymranu yn ei herbyn ei hun sydd anghyfanedd; a phob tŷ yn erbyn tŷ sydd yn syrthio:
18
ac os ydyw Satan hefyd wedi ymranu yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei Deyrnas ef? Canys chwi a ddywedwch mai trwy Beelzebwl, yr wyf fi yn bwrw allan y cythreuliaid.
19
Ond os wyf fi trwy Beelzebwl yn bwrw allan y cythreuliaid, trwy bwy y mae eich Meibion chwi yn eu bwrw allan? O herwydd hyn, hwynt‐hwy fyddant eich barnwyr chwi.
20
Ond os trwy fys Duw yr wyf yn bwrw allan y cythreuliaid, Teyrnas Dduw yn wir a'ch goddiweddodd.
21
Pan fyddo y cryf wedi ei lawn arfogi yn gwylied ei anedd, y mae ei eiddo ef mewn heddwch.
22
Ond pan ddêl un cryfach nag ef arno, a'i orchfygu, efe a ddwg ymaith ei holl arfogaeth, yn yr hon yr oedd wedi ymddiried, ac y mae yn rhanu ei anrheithion ef.
23
Yr hwn nid yw gyd â mi sydd yn fy erbyn; a'r hwn nid yw yn casglu gyd â mi sydd yn gwasgaru.
24
Pan yr êl yr yspryd aflan allan o'r dyn, y mae efe yn myned trwy leoedd diddwfr, gan geisio gorphwysdra; a phan nad yw yn ei gael, efe a ddywed, Mi a ddychwelaf i'm tŷ o'r hwn y daethum allan.
25
A phan ddêl, y mae yn ei gael wedi ei ysgubo a'i drwsio.
26
Yna y mae yn myned, ac yn cymmeryd ato saith yspryd arall, gwaeth nag ef ei hun: ac y maent hwy, wedi myned i mewn, yn trigo yno. Ac y mae cyflwr diweddaf y dyn hwnw yn waeth na'r cyntaf.
27
A bu, pan yr oedd efe yn llefaru y pethau hyn, rhyw wraig o'r dyrfa a gododd ei llef, ac a ddywedodd wrtho, Gwyn fyd y grôth a'th ddug di, a'r bronau a sugnaist.
28
Ond efe a ddywedodd, Felly, yn wir, gwyn fyd y rhai sydd yn gwrando Gair Duw, ac yn ei gadw.
29
Ac fel yr oedd y torfeydd yn ymdyru ynghyd ato ef, efe a ddechreuodd ddywedyd, Y Genedlaeth hon, cenedlaeth ddrwg ydyw: y mae yn ceisio arwydd: ac arwydd ni roddir iddi, ond arwydd Jonah.
30
Canys fel y bu Jonah yn arwydd i'r Ninifëaid; felly y bydd Mab y Dyn hefyd i'r genedlaeth hon.
31
Brenines y Deheu a gyfyd yn y Farn gyd â gwŷr y genedlaeth hon, ac a'u condemnia hwynt; canys hi a ddaeth o eithafoedd y ddaear i wrando doethineb Solomon: ac wele, fwy na Solomon yma.
32
Gwyr o Ninifëaid a gyfodant i fyny yn y Farn gyd â'r genedlaeth hon, ac a'i condemniant hi: canys hwy a edifarhasant wrth bregeth Jonah; ac wele fwy na Jonah yma.
33
Ni wna neb, wedi goleuo lamp, ei gosod mewn cudd‐gell, neu o dan y mesur‐lestr, ond ar y daliadyr, fel y gwelo y rhai a ddelo i mewn y goleuni.
34
Lamp y corff yw dy lygad. Pan fyddo dy lygad yn syml, dy holl gorff hefyd fydd ddysglaer: ond pan fyddo yn ddrwg, dy gorff hefyd fydd yn dywyllwch.
35
Edrych gan hyny rhag i'r goleuni sydd ynot fod yn dywyllwch.
36
Os dy holl gorff gan hyny sydd ddysglaer, heb fod un rhan yn dywyll, bydd yr oll yn ddysglaer, fel pan y mae y lamp yn ei dysglaerdeb llachar yn dy oleuo di.
37
Ac fel yr oedd efe yn llefaru, Pharisead a ofynodd iddo giniawa gyd âg ef; ac efe a aeth i mewn, ac a eisteddodd i lawr wrth y bwrdd.
38
A'r Pharisead pan welodd, a ryfeddodd nad ymdrochasai efe yn gyntaf cyn ciniaw.
39
A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Yn awr chwychwi y Phariseaid ydych yn glanhâu y tu allan i'r cwpan a'r ddysgl: ond eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni.
40
O rai anystyriol! Onid yr hwn a wnaeth yr hyn sydd oddi allan a wnaeth yr hyn sydd oddi fewn hefyd?
41
Yn mhellach, rhoddwch y pethau sydd tu fewn fel elusen, ac wele, y mae pob peth yn lân i chwi.
42
Ond gwae chwi, Y Phariseaid, canys yr ydych yn talu degwm o'r mintys, a'r ryw, a phob llysieuyn, ac yn myned heibio i'r Farn a Chariad Duw: ond y pethau hyn a ddylasech eu gwneuthur, heb fyned heibio y lleill.
43
Gwae chwi, y Phariseaid, canys yr ydych yn caru y brif gadair yn y Synagogau, a'r cyfarchiadau yn y marchnad‐leoedd.
44
Gwae chwi, canys yr ydych fel beddau anamlwg, a'r dynion a gerddant drostynt heb wybod hyny.
45
Ac un o Ddysgawdwyr y Gyfraith gan ateb a ddywed wrtho, Athraw, wrth ddywedyd hyn yr wyt yn dirmygu hyd y nod nyni.
46
Ond efe a ddywedodd, gwae hefyd chwi, Ddysgawdwyr y Gyfraith, canys yr ydych chwi yn beichio y bobl â beichiau anhawdd eu dwyn, a chwychwi nid ydych yn cyffwrdd â'r beichiau âg un o'ch bysedd.
47
Gwae chwi! canys yr ydych yn adeiladu beddau y Proffwydi, a'ch Tâdau chwi a'u lladdasant hwynt.
48
Felly yr ydych chwi yn dystion, ac yn cymeradwyo yn hollol weithredoedd eich Tâdau; canys hwynt‐hwy a'u lladdasant, a chwithau sydd yn adeiladu eu beddau.
49
O herwydd hyn hefyd Doethineb Duw a ddywedodd, Mi a anfonaf atynt Broffwydi ac Apostolion, A rhai o honynt hwy a laddant ac a erlidiant.
50
Fel y gofyner gwaed yr holl Broffwydi a dywalltwyd, O seiliad y byd, oddiar law y Genedlaeth hon;
51
O waed Abel hyd waed Zechariah, yr hwn a ddyfethwyd rhwng yr Allor a'r Tŷ. Ie, meddaf i chwi, gofynir ef oddiar law y Genedlaeth hon.
52
Gwae chwi! Ddysgawdwyr y Gyfraith, canys chwi a ddygasoch ymaith allwedd gwybodaeth: chwychwi eich hunain nid aethoch i mewn; a chwi a waharddasoch i eraill fyned i mewn.
53
Ac wedi iddo ddyfod allan oddiyno, yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid a ddechreuasant ymosod yn angerddol arno ef, a'i groes‐holi ynghylch mwy a mwy o bethau:
54
gan osod cynllwyn iddo, a dal ar rywbeth o'i enau ef.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24