bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Luke 13
Luke 13
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 14 →
1
A chyrhaeddodd rhai yn y cyfamser hwnw, gan fynegi iddo am y Galileaid, gwaed y rhai a gymysgodd Pilat â'u haberthau.
2
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, A ydych chwi yn tybied fod y Galileaid hyn yn bechaduriaid tu hwnt i'r holl Galileaid, am eu bod wedi dyoddef y pethau hyn?
3
Na, meddaf i chwi; eithr onid edifarhêwch, chwi oll a ddyfethir yn yr un modd.
4
Neu y deunaw hyny, ar y rhai y syrthiodd y Twr yn Siloam, ac a'u lladdodd hwynt: a ydych chwi yn tybied fod y rhai hyn eu hunain yn ddyledwyr tu hwnt i'r holl ddynion oedd yn trigo yn Jerusalem?
5
Na, meddaf i chwi, eithr onid edifarhêwch, chwi a ddyfethir oll yr un modd yn hollol.
6
Ac efe a ddywedodd y ddammeg hon: Yr oedd gan un ffigysbren wedi ei blanu yn ei winllan: ac efe a ddaeth gan geisio ffrwyth arno, ac ni chafodd.
7
Ac efe a ddywedodd wrth y gwinllanydd, Wele, y mae tair blynedd o'r adeg yr wyf yn dyfod gan geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn, ac nid wyf yn cael: tor ef allan: paham y mae efe hefyd yn diffrwytho y tir?
8
Ac efe gan ateb a ddywed wrtho, Arglwydd, gâd ef y flwyddyn hon hefyd, hyd oni chloddiaf o'i amgylch a'i achlesu:
9
ac os dwg ffrwyth am y dyfodol, da: ond os na wna, yn wir, ti a'i tori ef allan.
10
Ac yr oedd efe yn dysgu yn un o'r Synagogau ar y Sabbath.
11
Ac wele wraig ag ynddi yspryd gwendid ddeunaw mlynedd, ac yr oedd wedi cyd‐grymu, ac ni allai ymuniawni o gwbl.
12
A'r Iesu a'i gwelodd hi, ac a'i galwodd ato, ac a ddywedodd wrthi, Wraig, yr wyt wedi dy ryddhâu oddiwrth dy wendid.
13
Ac efe a osododd ei ddwylaw arni, ac yn y man hi a uniawnwyd, ac yr oedd yn gogoneddu Duw.
14
A Llywodraethwr y Synagog a ffromodd yn aruthr am i'r Iesu wellhâu ar y Sabbath, ac a atebodd ac a ddywedodd wrth y dyrfa, Y mae chwe diwrnod yn y rhai y dylid gweithio; yn y rhai hyn gan hyny deuwch a gwellhâer chwi, ac nid ar y dydd Sabbath.
15
Ond yr Arglwydd a atebodd iddo ac a ddywedodd, O ragrithwyr, Onid yw pob un o honoch yn gollwng ar y Sabbath ei ych neu ei asyn o'r preseb, a'i arwain ymaith i'r dwfr?
16
Ond hon, yn ferch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan, wele, ddeunaw mlynedd; oni ddylai gael ei rhyddhâu oddiwrth y rhwymyn hwn ar y dydd Sabbath?
17
Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn, ei holl wrthwynebwyr a gywilyddiasant; a'r holl dyrfa oedd yn llawenhâu am yr holl bethau gogoneddus a wnaid ganddo.
18
Efe a ddywedodd gan hyny, I ba beth y mae Teyrnas Dduw yn debyg, ac i ba beth y cyffelybaf hi?
19
Tebyg yw i ronyn mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn, ac a fwriodd i'w ardd ei hun; ac efe a dyfodd, ac a ddaeth i fod yn bren, ac ehediaid y Nefoedd a ymlochesasant yn ei gangau ef.
20
A thrachefn efe a ddywedodd, I ba beth y cyffelybaf Deyrnas Dduw?
21
Tebyg yw i lefain, yr hwn a gymmerodd gwraig, ac a'i cuddiodd mewn tri mesur o flawd, hyd oni lefeiniwyd y cwbl oll.
22
Ac efe a ymdeithiodd drwy ddinasoedd a phentrefi, gan ddysgu, a gwneyd ei ffordd i Jerusalem.
23
A rhyw un a ddywedodd wrtho, Ai ychydig yw y rhai sydd yn cael eu cadw? Ac efe a ddywedodd wrthynt,
24
Ymorchestwch i fyned i mewn drwy y drws cyfyng: canys llawer, meddaf i chwi, a geisiant fyned i mewn, ac ni fyddant alluog —
25
o'r adeg y cyfodo meistr y tŷ, a chau y drws, a dechreu o honoch sefyll y tu allan a churo y drws, gan ddywedyd, Arglwydd, agor i ni, ac yntau gan ateb a ddywed, Nid adwaen chwi, o ba le yr ydych.
26
Yna y dechreuwch ddywedyd, Ni a fwytasom ac a yfasom yn dy ŵydd di, a thi a ddysgaist yn ein prif‐heolydd.
27
Ac efe a ddywed, Yr wyf yn dywedyd i chwi, nid adwaen o ba le yr ydych: ewch ymaith oddi wrthyf, holl weithredwyr anghyfiawnder.
28
Yno y bydd yr wylofain a'r rhingcian danedd, pan welwch Abraham, ac Isaac, a Jacob, a'r holl Broffwydi, yn Nheyrnas Dduw, ond chwithau wedi eich bwrw i'r tu allan.
29
A deuant o'r Dwyrain, ac o'r Gorllewin, o'r Gogledd, ac o'r Deheu, ac a eisteddant i lawr i'r wledd yn Nheyrnas Dduw.
30
Ac wele, y mae rhai olaf a fyddant flaenaf, a blaenaf a fyddant olaf.
31
Yr awr hono daeth ato ryw Pharisead, ac a ddywedodd wrtho, Dos allan a cherdda oddi yma, canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di.
32
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch a dywedwch wrth y cadnaw hwnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn cyflawnu gweithredoedd o iachâd heddyw ac yfory, a'r trydydd dydd yr wyf yn cyrhaedd y diwedd.
33
Yn mhellach, rhaid i mi ymdaith heddyw, ac yfory, a threnydd: canys ni chaniateir i Broffwyd gael ei ddyfetha tu allan i Jerusalem.
34
O Jerusalem, Jerusalem, yr hon wyt yn lladd y Proffwydi, ac yn llabyddio y rhai a ddanfonwyd atat, pa mor fynych yr ewyllysiais gasglu dy blant ynghyd, y modd y casgl yr iar ei chywion dan ei hadenydd; ac nid ewyllysiech chwi!
35
Wele, y mae eich Tŷ yn cael ei adael i chwi. Ond meddaf i chwi, Ni welwch fi o gwbl, hyd nes y dywedwch, Bendigedig yw yr Hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24