bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Luke 23
Luke 23
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 24 →
1
A'r holl luaws o honynt a gyfodasant, ac a'i harweinasant ef at Pilat.
2
A hwy a ddechreuasant ei gyhuddo ef, gan ddywedyd, Ni a gawsom hwn yn gŵyr‐droi ein Cenedl, ac yn gwahardd rhoddi teyrnged i Cesar, ac yn dywedyd mai efe ei hun yw Crist Frenin.
3
A Philat a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iuddewon? Ac efe a atebodd, ac a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist.
4
A dywedodd Pilat wrth yr Arch‐offeiriaid a'r torfeydd, Nid wyf fi yn cael bai yn y dyn hwn.
5
Ond hwy a wnaethant ymegnio, gan ddywedyd, Y mae efe yn cynhyrfu y bobl, gan ddysgu trwy holl Judea, a dechreu o Galilea hyd yma.
6
A phan glybu Pilat, efe a ofynodd, Ai Galilead yw y dyn?
7
A phan wybu efe yn hollol ei fod ef o gylch awdurdod Herod, efe a'i danfonodd ef i fyny at Herod, yr hwn hefyd oedd yn Jerusalem yn y dyddiau hyny.
8
A Herod pan welodd yr Iesu, a fu lawen iawn ganddo: canys yr oedd efe yn awyddus er amseroedd meithion ei weled ef, o herwydd iddo glywed am dano, ac yr oedd yn gobeithio gweled rhyw arwydd yn cael ei wneuthur ganddo.
9
Ac efe a'i holodd ef mewn llawer o eiriau; ond efe ei hun nid atebodd ddim iddo.
10
A'r Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion oeddynt yn sefyll gan ei gyhuddo ef â'u holl egni.
11
Eithr Herod gyd a'i finteioedd, wedi ei drin ef gyd â dirmyg, a'i watwar, a'i gwisgodd mewn gwisg ddysglaerwych, ac a'i danfonodd ef i fyny at Pilat.
12
A'r dydd hwnw y daeth Herod a Pilat yn gyfeillion â'u gilydd: canys yr oeddynt o'r blaen mewn gelyniaeth â'u gilydd.
13
A Philat wedi galw ynghyd yr Arch‐offeiriaid a Llywodraethwyr y Bobl,
14
a ddywedodd wrthynt, Chwi a ddygasoch y dyn hwn ataf fi, fel un yn gŵyr‐droi y Bobl; ac wele mi a'i holais ef yn eich gŵydd chwi, ac ni chefais yn y dyn hwn ddim bai o ran y pethau yr ydych yn ei gyhuddo ef am danynt:
15
nac hyd y nod Herod; canys efe a'i hanfonodd ef yn ol atom ni: ac wele dim yn haeddu marwolaeth sydd wedi ei wneuthur ganddo:
16
am hyny, mi a'i cystwyaf ef, ac a'i gollyngaf ef yn rhydd.
18
Ond yr holl luaws ynghyd a waeddasant yn uchel, gan ddywedyd, Cymmer hwn ymaith, a gollwng i ni Barabbas yn rhydd:
19
y fath un am ryw derfysg a gymmerodd le yn y Ddinas, ac am lofruddiaeth, a fwriwyd i'r carchar.
20
A Philat a alwodd arnynt drachefn, gan ewyllysio gollwng yr Iesu yn rhydd.
21
Eithr hwy a barhasant i waeddi, Croeshoelia, Croeshoelia ef.
22
Ac efe a ddywedodd wrthynt y drydedd waith, Canys pa ddrwg a wnaeth efe? Ni chefais achos marwolaeth ynddo: gan hyny mi a'i cystwyaf ef, ac a'i gollyngaf yn rhydd.
23
A hwy a wasgasant arno â llefau uchel, gan ddeisyfu ei groeshoelio ef. A'u llefau hwynt a orfuant;
24
a Philat a ddyfarnodd i'w deisyfiad gael ei wneuthur:
25
ac efe a ollyngodd yn rhydd yr hwn o achos terfysg a llofruddiaeth oedd wedi ei fwrw i garchar, yr hwn a ddeisyfasant; eithr yr Iesu a draddododd efe i fyny i'w hewyllys hwynt.
26
A phan yr oeddynt yn ei arwain ef ymaith, hwy a gymmerasant afael mewn un Simon, O Cyrene, yn dyfod o'r wlad, ac a ddodasant y groes arno ef, i'w dwyn ar ol yr Iesu.
27
Ac yr oedd yn ei ganlyn ef luaws mawr o'r bobl; hefyd o wragedd, y rhai oeddynt yn curo eu bronau, ac yn galaru o'i blegyd.
28
Eithr yr Iesu, gan droi atynt, a ddywedodd, Merched Jerusalem, Na wylwch allan droswyf fi; yn hytrach, wylwch allan drosoch ein hunain a thros eich plant.
29
Canys wele, y mae y dyddiau yn dyfod, yn y rhai y dywedant, Gwyn fyd y gwragedd anmhlantadwy, a'r crothau ni epiliasant, a'r bronau ni roisant faeth.
30
Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom ni, Ac wrth y bryniau, Cuddiwch ni.
31
Canys os ydynt yn gwneuthur y pethau hyn yn y pren îr, pa beth a wneir yn y crin?
32
Ac arweiniwyd gyd âg ef hefyd ddau eraill, drwg‐weithredwyr, i'w rhoddi i farwolaeth.
33
A phan ddaethant at y lle a elwir Penglog, [yn y Lladin, Calfaria], yno y croeshoelisant ef a'r Drwg‐weithredwyr, un ar y llaw ddeheu a'r llall ar yr aswy.
34
Ond yr Iesu a ddywedodd, O Dâd, maddeu iddynt, canys nid ydynt yn gwybod pa beth y maent yn ei wneuthur. A chan ranu yn eu plith ei wisgoedd uchaf, hwy a fwriasant goelbren.
35
A'r bobl a safodd yn edrych yn syn. Ond y Llywodraethwyr hyd y nod a wawdiasant, gan ddywedyd, Eraill a waredodd efe: gwareded ei hun, os hwn yw Crist Duw, ei Etholedig.
36
A'r milwyr hefyd oeddynt yn ei watwar ef, gan ddyfod, a chynyg iddo finegr,
37
a dywedyd, Os tydi yw Brenin yr Iuddewon, gwared dy hun.
38
Ac yr oedd hefyd ar‐ysgrifen uwch ei ben,, Brenin yr Iuddewon yw hwn.
39
Ac un o'r Drwg‐weithredwyr a grogasid oedd yn ei gablu ef, gan ddywedyd, Ai nid tydi yw y Crist? Gwared dy hun a ninau.
40
Ond y llall a atebodd, a chan ei geryddu ef, a ddywedodd, Onid wyt ti hyd y nod yn ofni Duw, gan dy fod yn yr un farnedigaeth?
41
A nyni yn wir yn gyfiawn; canys yr ydym yn derbyn yn ol yr hyn a haeddai y pethau a wnaethom: ond hwn ni wnaeth ddim allan o le.
42
Ac efe a ddywedodd, O Iesu, cofia fi, pan y deui yn dy Deyrnas.
43
Ac efe a ddywedodd wrtho, Yn wir meddaf i ti, Heddyw y byddi gyd â mi yn y Baradwys.
44
Ac yr oedd ynghylch y chweched awr, a daeth tywyllwch dros yr holl dir hyd y nawfed awr,
45
gan fod yr haul yn methu; a llen y Cysegr a rwygwyd yn ei chanol.
46
Ac wedi i'r Iesu lefain â llef uchel, efe a ddywedodd, O Dâd, i'th ddwylaw di y cyflwynaf fy Yspryd: ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd allan ei fywyd.
47
A phan welodd y Canwriad yr hyn a wnaethpwyd, efe a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn sicr yr oedd y gwr hwn yn gyfiawn.
48
A'r holl dorfeydd y rhai a ddaethant ynghyd i'r olygfa hon, wedi edrych yn syn ar y pethau a wnaethpwyd, a ddychwelasant gan guro eu dwyfronau.
49
A'i holl gydnabyddion ef a safasant o hirbell, a'r gwragedd a'i canlynasant ef o Galilea, gan weled y pethau hyn.
50
Ac wele wr o'r enw Joseph, yr hwn oedd Gynghorwr, yn wr da a chyfiawn,
51
(yr hwn ni chydsyniodd â'u cynghor ac a'u gweithred hwynt,) o Arimathea, dinas yr Iuddewon, yr hwn oedd yn dysgwyl Teyrnas Dduw:
52
hwn a aeth at Pilat, ac a geisiodd gorff yr Iesu.
53
Ac efe a'i tynodd i lawr, ac a'i hamdôdd mewn llian main gwerthfawr, ac a'i dododd ef mewn bedd wedi ei naddu mewn craig, yn yr hwn ni roddasid dyn erioed eto.
54
Ac yr oedd yn ddydd y Parotoad, a'r Sabbath oedd yn dynesu.
55
A'r gwragedd, y rhai a ddaethant gyd âg ef o Galilea, a ganlynasant yn dyn ar ol, ac a edrychasant yn graffus ar y bedd, a pha fodd y dodwyd ei gorff ef.
56
A phan ddychwelasant, hwy a barotoisant ber‐aroglau ac enaint. Ac ar y Sabbath hwy a orphwysasant yn ol y Gorchymyn.
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24