bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Luke 16
Luke 16
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 17 →
1
Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y Dysgyblion, Yr oedd rhyw wr goludog, yr hwn oedd ganddo oruchwyliwr: a hwn a gyhuddwyd wrtho fel yn gwastraffu ei feddianau ef.
2
Ac efe a'i galwodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed am danat? Dyro yn ol y cyfrif o'th oruchwyliaeth: canys ni elli fod mwy yn swydd goruchwyliwr.
3
A'r goruchwyliwr a ddywedodd ynddo ei hun, Pa beth a wnaf, gan fod fy arglwydd yn dwyn yr oruchwyliaeth oddi wrthyf? Nid oes genyf nerth i gloddio; ac y mae arnaf gywilydd i gardota.
4
Mi a wn beth a wnaf, fel pan y'm symuder o'r oruchwyliaeth, y derbyniont fi i'w tai eu hunain.
5
Ac efe a alwodd ato bob un o ddyledwyr ei arglwydd ei hun, ac a ddywedodd wrth y cyntaf, Pa faint o ddyled sydd arnat ti i'm harglwydd?
6
Ac efe a ddywedodd, Can bath o olew. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer dy ddyleb, ac eistedd ar frys, ac ysgrifena ddeg a deugain.
7
Yna y dywedodd wrth arall, A pha faint o ddyled sydd arnat tithau? Ac efe a ddywedodd, Can côr o wenith. Dywed wrtho, Cymmer dy ddyleb, ac ysgrifena bedwar ugain.
8
A'r arglwydd a ganmolodd y goruchwyliwr anghyfiawn am iddo wneuthur yn gall: canys y mae Meibion y byd hwn yn gallach tu ag at eu cenedlaeth eu hun na Meibion y goleuni.
9
Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Gwnewch i chwi eich hunain gyfeillion allan o'r Mamon Anghyfiawn, fel pan y pallo, y'ch derbyniont i'r tragywyddol bebyll.
10
Yr hwn sydd ffyddlawn mewn ychydig sydd hefyd ffyddlawn mewn llawer: a'r hwn sydd anghyfiawn mewn ychydig sydd anghyfiawn hefyd mewn llawer.
11
Os gan hyny ni fuoch ffyddlawn yn y Mamon Anghyfiawn, pwy a ymddiried i chwi yr hyn sydd wirioneddol?
12
Ac os ni fuoch ffyddlawn yn yr hyn sydd eiddo arall, pwy a rydd i chwi eich eiddo eich hun?
13
Ni ddichon un gwas teulu wasanaethu dau arglwydd: canys naill ai efe a gashâ y naill, ac a gâr y llall: neu efe a lŷn wrth y naill, ac a ddirmyga y llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon.
14
A'r Phariseaid, y rhai oeddynt ariangar, a glywsant yr holl bethau hyn, ac a'i gwawdiasant ef.
15
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi yw y rhai sydd yn cyfiawnhâu eich hunain gerbron dynion: ond y mae Duw yn gwybod eich calonau chwi: canys y peth sydd uchel yn mhlith dynion sydd ffieidd‐dra ger bron Duw.
16
Yr oedd y Gyfraith a'r Proffwydi hyd Ioan: o'r pryd hwnw y pregethir Teyrnas Dduw trwy yr Efengyl, ac y mae pob un yn ymwthio â'i holl nerth iddi.
17
Ond hawddach yw i Nef a daear fyned heibio nag i un tipyn o'r Gyfraith syrthio i'r llawr.
18
Pob un o ollyngo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, y mae efe yn godinebu: a'r hwn a briodo yr hon sydd wedi ei gollwng ymaith oddi wrth wr, y mae efe yn godinebu.
19
Ac yr oedd rhyw wr goludog; ac yr oedd yn arfer cael ei wisgo mewn porphor a llian teg gwerthfawr, gan fwynhâu ei hun bob dydd yn ysblenydd.
20
A rhyw ddyn tlawd, o'r enw Lazarus, a fwriwyd wrth ei borth ef yn gornwydlyd,
21
ac yn awyddu cael ei ddigoni â'r pethau a syrthient o fwrdd y goludog: ond hyd y nod y cwn a ddaethant, ac a lyfasant ei gornwydydd ef.
22
A bu i'r dyn tlawd farw, a'i ddwyn ymaith gan yr Angelion i fynwes Abraham. A'r goludog hefyd a fu farw ac a gladdwyd:
23
ac yn Hades efe a gododd ei olwg, ac efe mewn dirboenau, ac y mae yn gweled Abraham o hirbell, a Lazarus yn ei fynwes.
24
Ac efe ei hun a lefodd, ac a ddywedodd, Dâd Abraham, trugarhâ wrthyf, a danfon Lazarus, fel y trocho ben ei fys mewn dwfr, ac oeri fy nhafod, canys yr wyf fi mewn trallod yn y fflam hon.
25
Ond Abraham a ddywedodd, Blentyn, cofia i ti dderbyn dy bethau da yn dy fywyd, a Lazarus yr un modd y pethau drwg: ond yn awr y mae efe yma yn cael ei ddyddanu, ond tithau dy drallodi.
26
Ac heblaw y pethau hyn oll, rhyngom ni a chwithau y mae gagendor mawr wedi ei sicrhâu, fel na allo y rhai a ewyllysient fyned drosodd oddi yma atoch chwi; na'r rhai oddi yna groesi drosodd atom ni.
27
Ond efe a ddywedodd, Yr wyf yn gofyn i ti, gan hyny, O dâd, ei anfon ef i dŷ fy nhâd;
28
canys y mae i mi bump o frodyr: fel y tystiolaetho yn ddifrifol iddynt hwy, fel na ddelont hwythau hefyd i'r lle poenus hwn.
29
Ond Abraham a ddywed, Y mae ganddynt Moses a'r Proffwydi: bydded iddynt wrando arnynt hwy.
30
Ond efe a ddywedodd, Na, Y tâd Abraham: eithr os â rhyw un oddiwrth y meirw atynt, hwy a edifarhânt.
31
Ond efe a ddywedodd wrtho, Os nad ydynt yn gwrando ar Moses a'r Proffwydi, ni ddarbwyllir hwynt ychwaith os adgyfyd un o blith y meirw.
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24