bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Luke 4
Luke 4
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 5 →
1
A'r Iesu yn llawn o'r Yspryd Glân, a ddychwelodd oddiwrth yr Iorddonen, ac a arweiniwyd yn yr Yspryd yn yr Anialwch
2
ddeugain niwrnod, yn cael ei demtio gan y Diafol. Ac ni fwytäodd efe ddim yn y dyddiau hyny, a phan oeddynt ar derfynu, daeth chwant bwyd arno.
3
A'r Diafol a ddywedodd wrtho, Os Mab Duw ydwyt ti, dywed wrth y gareg hon, fel y delo yn fara.
4
A'r Iesu a atebodd iddo,, Y mae yn ysgrifenedig, Nid ar fara yn unig y bydd byw dyn.
5
Ac efe a'i harweiniodd i fyny, ac a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd cyfaneddol mewn eiliad o amser:
6
a'r Diafol a ddywedodd wrtho, I ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll, a'u gogoniant hwynt: canys i mi y mae wedi ei throsglwyddo; ac i bwy bynag yr ewyllysiwyf, y rhoddaf hi.
7
Os tydi, gan hyny, a addoli o fy mlaen i, eiddot ti fydd hi oll.
8
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho,, Y mae yn ysgrifenedig, Yr Arglwydd dy Dduw a addoli, Ac efe yn unig a wasanaethi.
9
Ac efe a'i harweiniodd ef i Jerusalem, ac a'i gosododd ar binacl y Deml, ac a ddywedodd wrtho, Os Mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr oddiyma:
10
canys ysgrifenedig yw, Efe a orchymyn i'w Angelion am danat ti, dy warchod di,
11
Ac, Ar eu dwylaw y'th ddygant, Rhag i ti un amser daro dy droed wrth gareg.
12
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Y mae hyn wedi ei lefaru, Na themtia i'r eithaf yr Arglwydd dy Dduw.
13
Ac wedi i'r Diafol orphen pob temtasiwn, efe a ymadawodd oddiwrtho ef hyd dymhor cyfaddas.
14
A'r Iesu a ddychwelodd yn nerth yr Yspryd i Galilea: a sôn a aeth allan drwy yr holl wlad o amgylch am dano ef.
15
Ac yr oedd efe yn dysgu yn eu Synagogau hwynt, ac yn cael ei ganmol gan bawb.
16
Ac efe a ddaeth i Nazareth, lle yr oedd efe wedi ei ddwyn i fyny: ac efe a aeth, yn ol ei arfer, ar y Sabbath, i'r Synagog, ac a safodd i fyny i ddarllen.
17
A rhoddwyd iddo Lyfr y Proffwyd Esaiah: ac wedi iddo agoryd y Llyfr, efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig,
18
Yspryd yr Arglwydd sydd arnaf fi: O herwydd efe a'm heneiniodd i bregethu Efengyl i dlodion; Y mae wedi fy anfon i gyhoeddi rhyddhâd i gaethion Ac adferiad golwg i ddeillion; I ollwng ymaith mewn rhyddid y rhai oedd wedi tori eu calon,
19
I gyhoeddi blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd.
20
Ac wedi iddo gau y Llyfr, efe a'i rhoddodd yn ol i'r is‐swyddog, ac a eisteddodd, a llygaid pawb yn y Synagog oedd yn craffu arno.
21
Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Heddyw y mae yr Ysgrythyr hon wedi ei chyflawnu yn eich clustiau chwi.
22
Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yn rhyfeddu at y geiriau grasusol a ddeuent allan o'i enau ef; ac yr oeddynt yn dywedyd, Onid hwn yw Mab Joseph?
23
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Er mwyn pob dim chwi a ddywedwch wrthyf y ddammeg hon, Feddyg, iachâ dy hun: pa bethau bynag y clywsom eu gwneuthur yn Capernaum, gwna yma hefyd yn dy wlâd dy hun.
24
Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes un proffwyd yn gymeradwy yn ei wlâd ei hun.
25
Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi, Llawer o wragedd gweddwon oedd yn nyddiau Elias yn yr Israel, pan gauwyd y Nefoedd dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr dros yr holl dir:
26
ac nid at yr un o honynt yr anfonwyd Elias, ond i Sarephtah yn Sidon, at wraig weddw.
27
A llawer o wahan‐gleifion oedd yn yr Israel, yn amser Elisëus y Proffwyd; ond ni lanhâwyd yr un o honynt, ond Naaman y Syriad.
28
A phawb yn y Synagog a lanwyd o gynddaredd pan glywsant y pethau hyn:
29
ac a godasant i fyny, ac a'i bwriasant ef allan o'r Ddinas, ac a'i harweiniasant ef hyd at ael y bryn, ar yr hwn yr oedd eu Dinas hwy wedi ei hadeiladu, fel y bwrient ef i lawr dros y dibyn.
30
Ond efe a aeth drwy eu canol hwynt, ac a aeth ei ffordd.
31
Ac efe a ddaeth i waered i Capernaum, dinas yn Galilea: ac yr oedd efe yn eu dysgu hwy ar y Sabbathau:
32
a hwy a darawyd â syndod mawr wrth ei ddysgeidiaeth ef: canys gyd âg awdurdod yr oedd ei Air ef.
33
Ac yn y Synagog yr oedd dyn a chanddo yspryd cythraul aflan; ac efe a waeddodd â llef uchel,,
34
Ah! Pa beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nazareth? A ddaethost i'n dyfetha ni? Mi a'th adwaen di, pwy ydwyt; un Sanctaidd Duw.
35
A'r Iesu a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Dystawa, a thyred allan o hono. A'r cythraul, wedi ei daflu ef i'r canol, a ddaeth allan o hono, heb wneuthur dim niwed iddo.
36
A syndod a ddaeth ar bawb, a hwy a gyd-ymddiddanasant â'u gilydd, gan ddywedyd, Beth yw y Gair hwn? canys mewn awdurdod a gallu y mae efe yn gorchymyn i'r ysprydion aflan, ac y maent yn dyfod allan.
37
A sôn am dano ef a aeth allan i bob lle o'r wlâd oddi amgylch.
38
A phan gyfododd efe o'r Synagog, efe a aeth i mewn i dŷ Simon. A chwegr Simon oedd yn dyoddef oddiwrth dwymyn galed, a hwy a atolygasant iddo drosti hi.
39
Ac efe a safodd uwch ei phen hi, ac a geryddodd y dwymyn, a hi a'i gadawodd hi: ac yn y fan hi a gyfododd, ac a weinyddodd iddynt.
40
A'r haul yn machlud, pawb a'r oedd ganddynt gleifion o amryw glefydau a'u dygasant ato ef; ac efe, gan roddi ei ddwylaw ar bob un o honynt, a'u hiachâodd hwynt.
41
A chythreuliaid hefyd a aethant allan o lawer, gan waeddi allan, a dywedyd, Ti yw Mab Duw: ac efe a'u ceryddodd, ac ni chaniatâodd iddynt lefaru, canys hwy a wyddent mai efe ei hun oedd y Crist.
42
A phan ddaeth yn ddydd, efe a ddaeth allan, ac a aeth i le anghyfanedd, a'r torfeydd oeddynt yn ei daer‐geisio ef, ac a ddaethant hyd ato, ac a fynent ei atal, fel nad elai efe oddiwrthynt.
43
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae yn rhaid i mi bregethu newyddion da Teyrnas Dduw i ddinasoedd eraill hefyd: canys ar gyfer hyn y'm danfonwyd.
44
Ac yr oedd efe yn pregethu yn Synagogau Galilea.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24