bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Luke 24
Luke 24
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
1
Ond ar y Dydd Cyntaf o'r wythnos, gyd â'r wawr gynaraf, hwy a ddaethant at y bedd, gan ddwyn y peraroglau a barotoisant.
2
A hwy a gawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddi wrth y bedd.
3
Ond wedi iddynt fyned i mewn, ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu.
4
A bu, a hwy mewn dyryswch am y peth hwn, wele, dau wr a safasant yn sydyn gerllaw iddynt mewn gwisg lachar.
5
Ac wedi iddynt ddychrynu, a gostwng eu hwynebau i'r ddaear, hwy a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn ceisio yr hwn sydd yn fyw yn mysg y meirw? Nid yw yma: ond efe a gyfododd:
6
cofiwch pa fodd y dywedodd wrthych ac efe eto yn Galilea,
7
gan ddywedyd, Rhaid yw i Fab y Dyn gael ei draddodi i ddwylaw dynion pechadurus, a'i groeshoelio, a'r trydydd dydd adgyfodi.
8
A hwy a gofiasant ei eiriau ef [[9:22; 18:32]],
9
ac a ddychwelasant oddi wrth y bedd, ac a fynegasant yr holl bethau i'r Un‐ar‐Ddeg, ac i'r lleill oll:
10
Mair Magdalen, a Johanna, a Mair mam Iago oeddynt hwy: a'r gwragedd eraill gyd â hwynt a ddywedasant wrth yr Apostolion y pethau hyn.
11
A'r geiriau hyn a ymddangosent yn eu golwg fel ffiloreg; ac nid oeddynt yn eu credu.
12
Eithr Petr a gododd i fyny, ac a redodd at y bedd, ac wedi iddo ymgrymu y mae yn canfod yr amrwymau yn unig: ac efe a aeth ymaith i'w gartref, gan ryfeddu am y peth a ddarfuasai.
13
Ac wele, dau o honynt oedd yn myned yr un dydd i bentref, yr hwn oedd dri‐ugain ystâd o Jerusalem, o'r enw Emmaus.
14
Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â'u gilydd am yr holl bethau hyn a ddygwyddasent.
15
A bu, fel yr oeddynt yn ymddiddan ac yn ymddadleu, yr Iesu ei hun hefyd, gan neshâu, oedd yn rhodio gyd â hwynt:
16
eithr eu llygaid hwynt a rwystrwyd fel nas adwaenent ef.
17
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa eiriau yw y rhai yr ydych yn cyfnewid â'ch gilydd, wrth rodio? A hwy a safasant yn wyneb drist.
18
Ac un, o'r enw Cleopas, gan ateb a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn unig yn byw fel ymdeithydd yn Jerusalem, ac ni wybuost y pethau a ddygwyddasant ynddi hi yn y dyddiau hyn?
19
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fath bethau? A hwy a ddywedasant wrtho, Y pethau am Iesu o Nazareth, yr hwn a ddaeth yn Broffwyd galluog mewn gweithred a gair gerbron Duw a'r holl bobl:
20
a'r modd y traddododd ein Harch‐offeiriaid a'n Llywodraethwyr ni ef i farn marwolaeth, ac a'i croeshoeliasant ef.
21
Ond yr oeddym ni yn gobeithio mai efe ei hun oedd yr hwn oedd ar waredu yr Israel. Ië, yn ddiau, heblaw yr holl bethau hyn, hwn yw y trydydd dydd iddo er pan ddygwyddodd y pethau hyn.
22
Er hyny, hyd y nod rhai gwragedd o honom ni a'n llanwasant â syndod, wedi iddynt fyned gyd â'r wawr at y bedd;
23
a phan na chawsant ei gorff ef, hwy a ddaethant, gan ddywedyd eu bod hyd y nôd wedi gweled gweledigaeth o Angelion, y rhai sydd yn dywedyd ei fod ef yn fyw.
24
A rhai o'r rhai sydd gyd â ni a aethant ymaith at y bedd, ac a gawsant felly, fel y dywedodd y gwragedd, ond ef nis gwelsant.
25
Ac efe a ddywedodd wrthynt, O rai anneallus, ac araf o galon i gredu ar sail yr holl bethau a lefarodd y Proffwydi!
26
Onid y rhai hyn yr oedd yn rhaid i'r Crist ddyoddef, a myned i'w Ogoniant?
27
A chan ddechreu o Moses ac o'r holl Broffwydi, efe a esboniodd yn drwyadl iddynt yn yr holl Ysgrythyrau y pethau am dano ei hun.
28
A hwy a nesasant i'r pentref lle yr oeddynt yn myned: ac efe a ymddangosodd fel pe byddai yn myned yn mhellach.
29
A hwy a'i cymhellasant ef yn daer, gan ddywedyd, Aros gyd â ni: canys y mae hi yn hwyrhâu, a'r dydd weithian wedi darfod: ac efe a aeth i mewn i aros gyd â hwynt.
30
A bu, fel yr oedd efe yn eistedd i lawr i fwyta gyd â hwynt, efe a gymmerodd y bara, ac a'i bendithiodd, ac a'i torodd, ac a roddodd iddynt.
31
A'u llygaid hwy a lawn‐agorwyd, a hwy a'i hadwaenasant ef: ac efe a aeth yn Anweledig oddi wrthynt.
32
A hwy a ddywedasant wrth eu gilydd, Onid oedd ein calon yn llosgi ynom fel yr oedd efe yn llefaru wrthym ar y ffordd pan yr oedd efe yn llwyr-agoryd i ni yr Ysgrythyrau?
33
A hwy a gyfodasant yr awr hono, ac a ddychwelasant i Jerusalem, ac a gawsant yr Un‐ar‐Ddeg wedi ymgasglu ynghyd, a'r sawl oedd gyd â hwynt,
34
yn dywedyd, Yr Arglwydd a gyfododd mewn gwirionedd, ac a ymddangosodd i Simon.
35
A hwy eu hunain oeddynt yn adrodd y pethau a ddygwyddasant ar y ffordd, a'r modd y daeth efe yn adnabyddus iddynt yn nhoriad y bara.
36
Ac fel yr oeddynt yn llefaru y pethau hyn, Efe ei hun a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywed wrthynt, Tangnefedd i chwi.
37
Hwythau, wedi brawychu ac yn llawn ofn, oeddynt yn tybied eu bod yn craffu ar yspryd.
38
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych wedi eich cythryblu, ac o herwydd paham y mae amheuon yn cyfodi yn eich calon?
39
Gwelwch fy nwylaw a'm traed, mai myfi fy hun ydyw: teimlwch fi, a gwelwch: nid oes gan yspryd gnawd ac esgyrn fel y daliwch sylw fod genyf fi.
40
Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylaw a'i draed.
41
Ac a hwy eto heb gredu o lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, A oes genych yma beth a ellir fwyta?
42
A hwy a roisant iddo ran o bysgodyn wedi ei rostio.
43
Ac efe a'i cymmerodd, ac a'i bwytäodd yn eu gŵydd hwynt.
44
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dyma fy ngeiriau a ddywedais i chwi, tra yr oeddwn eto gyd â chwi, bod yn rhaid cyflawnu pob peth sydd wedi ei ysgrifenu yn Nghyfraith Moses, a'r Proffwydi, a'r Salmau, am danaf fi.
45
Yna efe a lwyr‐agorodd eu deall, fel y deallent yr Ysgrythyrau;
46
ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y mae wedi ei ysgrifenu, bod y Crist i ddyoddef, ac i adgyfodi o feirw y trydydd dydd,
47
a bod edifeirwch a maddeuant pechodau i gael eu pregethu ar sail ei enw ef i'r holl genedloedd, gan ddechreu o Jerusalem.
48
Chwychwi ydych dystion o'r pethau hyn.
49
Ac wele, yr wyf yn anfon allan Addewid fy Nhâd arnoch: eithr aroswch yn dawel yn y Ddinas hyd nes y gwisger chwi â gallu o'r Uchelder.
50
Ac efe a'u harweiniodd hwynt allan hyd eu bod gyferbyn a Bethania, ac efe a gododd ei ddwylaw, ac a'u bendithiodd hwynt.
51
A bu, tra yr ydoedd efe yn eu bendithio hwynt, yr oedd efe yn sefyll ar wahân â hwynt, ac a ddygwyd i fyny i'r Nef.
52
A hwy a aethant ar eu gliniau mewn addoliad iddo, ac a ddychwelasant i Jerusalem gyd â llawenydd mawr:
53
ac yr oeddynt yn wastadol yn y Deml yn bendithio Duw.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24