bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Luke 6
Luke 6
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 7 →
1
A bu ar ddydd Sabbath iddo fyned drwy y meusydd ŷd, a'i Ddysgyblion a dynasant y tywys, ac a'u bwytasant, gan eu rhuglo â'u dwylaw.
2
A rhai o'r Phariseaid a ddywedasant, Paham yr ydych yn gwneuthur yr hyn nid yw gyfreithlawn ar y Sabbath?
3
A'r Iesu gan ateb iddynt a ddywedodd, Oni ddarllenasoch gymaint a hyn, y peth a wnaeth Dafydd, pan y daeth chwant bwyd arno ef, a'r rhai oedd gyd âg ef?
4
Y modd yr aeth efe i Dŷ Dduw, ac a gymmerodd ac a fwytâodd y Torthau Gosod, ac a roddodd i'r rhai oedd gyd âg ef; y rhai nid ydyw gyfreithlawn eu bwyta ond i'r Offeiriaid yn unig.
5
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae Mab y Dyn yn Arglwydd hefyd ar y Sabbath.
6
A bu ar Sabbath arall iddo fyned i mewn i'r Synagog, a dysgu: ac yr oedd dyn yno a'i law ddeheu wedi gwywo.
7
A'r Ysgrifenyddion a'r Phariseaid a'i gwyliasant ef yn ddyfal, a iachâi efe ar y Sabbath, fel y caffent fodd i'w gyhuddo ef.
8
Ond efe a wybu eu hymresymiadau hwy, ac a ddywedodd wrth y dyn oedd a'r llaw wedi gwywo, Cyfod, a saf yn y canol. Ac efe a gyfododd i fyny, ac a safodd.
9
A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf finau yn gofyn i chwi, Os yw gyfreithlawn ar y Sabbath i wneuthur da, ynte gwneuthur drwg? cadw einioes, neu golli?
10
Ac wedi edrych oddi amgylch arnynt oll, efe a ddywedodd wrtho ef, Estyn allan dy law. Ac efe a wnaeth: a'i law ef a adferwyd.
11
A hwy a lanwyd o wallgofrwydd, ac a gyd-ymddiddanent a'u gilydd, pa beth a wnaent i'r Iesu.
12
A bu yn y dyddiau hyny, fyned o hono allan i'r mynydd i weddio. Ac efe a barhâodd drwy y nos mewn gweddi at Dduw.
13
A phan aeth hi yn ddydd, efe a alwodd ato ei Ddysgyblion: ac efe a etholodd allan o honynt Ddeuddeg, y rhai a gyfenwodd efe yn Apostolion:
14
Simon yr hwn hefyd a gyfenwodd efe Petr, ac Andreas ei frawd; ac Iago, ac Ioan; a Philip, a Bartholomëus;
15
a Matthew, a Thomas; ac Iago mab Alphëus, a Simon, yr hwn a elwir y Zelotiad:
16
a Judas mab Iago, a Judas Iscariot, yr hwn oedd Fradwr.
17
Ac efe a aeth i waered gyd â hwynt, ac a safodd ar le gwastad, a thyrfa o'i Ddysgyblion ef, a lluaws mawr o'r bobl, o holl Judea a Jerusalem, ac o arfordir Tyrus a Sidon,
18
y rhai a ddaethant i wrando arno, ac i'w hiachâu o'u clefydau: a'r rhai a flinid gan ysprydion aflan a iachâwyd.
19
A'r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd âg ef, canys gallu oedd yn myned allan oddiwrtho, ac yn iachâu pawb.
20
Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid ar ei Ddysgyblion, ac a ddywedodd, Gwyn eich byd y tlodion: canys eiddoch chwi yw Teyrnas Dduw.
21
Gwyn eich byd y rhai ydych mewn newyn yr awrhon: canys chwi a a ddigonir. Gwyn eich byd y rhai ydych yn wylo yr awrhon: canys chwi a chwerddwch.
22
Gwyn eich byd pan y cashâo dynion chwi, ac y'ch hesgymunant, ac y'ch gwaradwyddant, ac a daflant allan eich enw fel drwg er mwyn Mab y Dyn.
23
Llawenychwch y dydd hwnw, a llemwch gan lawenydd: canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y Nef: canys yn ol yr un pethau y gwnaeth eu Tadau i'r Prophwydi.
24
Yn mhellach, Gwae chwi y Cyfoethogion, canys yr ydych yn derbyn yn llawn eich diddanwch.
25
Gwae chwi, y rhai ydych lawnion yr awrhon: canys chwi a newynwch. Gwae chwi, y rhai a chwerddwch yr awrhon: canys chwi a alerwch ac a wylwch.
26
Gwae chwi, pan ddywedo pob dynion yn dda am danoch: canys yn ol yr un pethau y gwnaeth eich Tadau i'r Gau‐Brophwydi.
27
Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi y rhai ydych yn gwrando, Cerwch eich gelynion: gwnewch dda i'r rhai a'ch cashânt:
28
bendithiwch y rhai a'ch melldithiant: gweddiwch ar ran y rhai a ymddygant yn faleisus tu ag atoch:
29
i'r hwn a'th darawo ar y gern, cynyg y llall hefyd; ac oddiwrth yr hwn a gymmero ymaith dy wisg‐uchaf, na chadw yn ol dy is‐wisg chwaith.
30
Dyro i bob un a geisio genyt; ac oddiwrth yr hwn a gymmero ymaith dy eiddo, na cheisia ef yn ol.
31
Ac yn y modd yr ewyllysiech i ddynion i wneuthur i chwi, gwnewch chwithau hefyd yr un ffunud.
32
Ac os cerwch y rhai a'ch carant chwithau, pa fath ddiolch sydd i chwi? canys y mae y pechaduriaid hefyd yn caru y rhai a'u carant hwy.
33
Ac os gwnewch dda i'r rhai a wnant dda i chwithau, pa fath ddiolch sydd i chwi? canys y mae hyd y nod y pechaduriaid yn gwneuthur yr un peth.
34
Ac os rhoddwch fenthyg i'r rhai yr ydych chwithau yn gobeithio derbyn oddiwrthynt, pa fath ddiolch sydd i chwi? canys hefyd y mae pechaduriaid yn rhoddi benthyg i bechaduriaid, fel y derbyniont yn ol yr hyn sydd gyfartal.
35
Yn mhellach, Cerwch eich gelynion, a gwnewch dda; a rhoddwch fenthyg, heb anobeithio mewn dim: a'ch gwobr a fydd mawr, a Meibion y Goruchaf a fyddwch: canys cymwynasgar yw efe i'r rhai anniolchgar a drwg.
36
Byddwch dosturiol, yr un modd ag y mae eich Tâd yn dosturiol.
37
Ac na fernwch, ac ni'ch bernir ddim: ac na chondemniwch, ac ni'ch condemnir ddim: gollyngwch yn rhydd, a chwithau a ollyngir yn rhydd:
38
rhoddwch, a rhoddir i chwithau: mesur da, wedi ei wasgu ynghyd, wedi ei ysgwyd ynghyd, yn rhedeg allan drosodd, a roddant i'ch mynwes: canys â'r mesur y mesuroch, yr ad‐fesurir i chwithau.
39
Ac efe a ddywedodd hefyd ddammeg wrthynt, Yn wir a ddichon dyn dall dywys dyn dall? Oni syrthiant ill dau i mewn i'r ffos?
40
Nid ydyw dysgybl uwchlaw yr athraw: ond pob un sydd wedi ei lawn‐gymhwyso a fydd fel ei athraw.
41
A phaham yr wyt yn edrych ar yr asglodyn yn llygad dy frawd, ac nad wyt yn darganfod y trawst yn dy lygad dy hun?
42
Pa fodd y gelli di ddywedyd wrth dy frawd, Frawd, gâd i mi fwrw allan yr asglodyn sydd yn dy lygad, a thithau dy hun heb edrych ar y trawst sydd yn dy lygad? O ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o'th lygad dy hun, ac yna y gweli yn eglur fwrw allan yr asglodyn sydd yn llygad dy frawd.
43
Canys nid oes un pren da sydd yn dwyn ffrwyth gwael, nac ychwaith un pren gwael sydd yn dwyn ffrwyth da.
44
Canys pob pren sydd yn cael ei adwaen wrth ei ffrwyth ei hun: canys nid oddiar ddrain y maent yn casglu ffigys, ac nid ar lwyn mïeri y maent yn casglu yr addfed swp o rawnwin.
45
Y dyn da, allan o drysor da ei galon, a ddwg allan yr hyn sydd dda: a'r dyn drwg allan o'r drwg a ddwg allan yr hyn sydd ddrwg: canys allan o helaethrwydd calon y mae ei enau yn llefaru.
46
A phaham yr ydych yn fy ngalw i, Arglwydd, Arglwydd, ac nad ydych yn gwneuthur yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd?
47
Pwy bynag sydd yn dyfod ataf fi, ac sydd yn gwrando fy ngeiriau, ac yn eu gwneuthur hwynt, mi a ddangosaf i chwi i bwy y mae efe yn gyffelyb:
48
cyffelyb yw i ddyn yn adeiladu tŷ, yr hwn a gloddiodd, ac a aeth yn ddwfn, ac a osododd ei sylfaen ar y graig: a phan ddaeth llifeiriant, y cenllif a dorodd yn erbyn y tŷ hwnw, ac ni allai ei siglo, am ei fod wedi ei adeiladu yn dda.
49
Ond yr hwn a wrendy, ac ni wna, sydd gyffelyb i ddyn yn adeiladu tŷ ar y ddaear heb sylfaen; yn erbyn yr hwn y torodd y cenllif, ac yn ebrwydd y syrthiodd i fewn; a'r niwed i'r tŷ hwnw oedd fawr.
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24