bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Luke 8
Luke 8
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 9 →
1
A bu yn fuan ar ol hyn, efe ei hun hefyd a ymdeithiodd drwy bob dinas a phentref, gan bregethu a mynegi newyddion da Teyrnas Dduw, a'r Deuddeg gyd âg ef;
2
a rhai gwragedd oedd wedi eu hiachâu oddiwrth ysprydion drwg a gwendidau: Mair, yr hon a elwid Magdalen, o'r hon yr oedd saith cythraul wedi myned allan,
3
a Johanna, gwraig Chuzas, Gweinyddwr Herod, a Susannah, a llawer eraill, y rhai oeddynt yn gweini iddynt o'u heiddo.
4
A thyrfa fawr wedi ymgynull ynghyd, a hwy o bob dinas yn cyrchu ato ef, efe a ddywedodd trwy ddammeg:
5
Yr Hauwr a aeth allan i hau ei hâd. Ac wrth hau, peth a syrthiodd ar hyd y ffordd, ac a fathrwyd dan draed, ac ehediaid y Nef a'i bwytasant i fyny.
6
Ac arall a syrthiodd i lawr ar y graig; ac wedi egino, efe a wywodd allan, am nad oedd iddo leithder.
7
A pheth arall a syrthiodd i ganol y drain; a'r drain a gyd‐dyfasant âg ef, ac a'i tagasant.
8
A pheth arall a syrthiodd i dir da, ac a eginodd, ac a ddug ffrwyth gàn cymaint. Wrth ddywedyd y pethau hyn, efe a lefodd, Yr hwn sydd ganddo glustiau, gan wrando, gwrandawed.
9
A'i Ddysgyblion a ofynasant iddo, Pa beth a all y ddammeg hon fod?
10
Ac efe a ddywedodd, I chwi y mae gwybod dirgelion Teyrnas Dduw wedi ei roddi, eithr i'r gweddill mewn dammegion; fel Yn gweled na welant, Ac yn clywed na ddeallant.
11
A dyma y ddammeg: Yr hâd ydyw Gair Duw.
12
A'r rhai ar hyd y ffordd ydyw y rhai a wrandawsant; yna y mae y Diafol yn dyfod, ac yn dwyn ymaith y Gair o'u calon hwynt, rhag iddynt gredu a bod yn gadwedig.
13
A'r rhai ar y graig yw y rhai pan glywant ydynt yn derbyn y Gair gyd â llawenydd; a'r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn; y rhai ydynt yn credu am dymhor, ac yn adeg profedigaeth yn cadw draw.
14
A'r hyn a syrthiodd i'r drain, y rhai hyn yw y rhai a glywsant, ac fel y maent yn myned yn mlaen, y maent yn cael eu tagu ynghyd gan bryderon, a golud, a phleserau y bywyd hwn, ac nid ydynt yn dwyn dim i addfedrwydd.
15
A'r hyn yn y tir da yw y cyfryw, wedi gwrando y Gair, a'i cadwant yn ddyogel mewn calon rinweddol a da, ac a ddygant ffrwyth mewn dyfal‐barhâd amyneddgar.
16
Ac nid yw neb, wedi goleu llusern, yn ei chuddio hi â llestr, neu yn ei gosod dan wely, ond yn ei gosod ar ddaliadyr, fel y gwelo y rhai sydd yn dyfod i mewn y goleuni.
17
Canys nid oes cuddiedig a'r ni wneir yn amlwg, na dirgel yr hwn nis gwybyddir yn hollol, ac ni ddaw i'r amlwg.
18
Edrychwch gan hyny pa fodd yr ydych yn gwrando: canys pwy bynag y mae ganddo, y rhoddir iddo: a'r hwn nid oes ganddo, hyd y nod yr hyn a dybia fod ganddo a gymmerir oddiwrtho.
19
A daeth ato ei Fam a'i Frodyr: ac nis gallent ddyfod hyd ato o achos y dyrfa.
20
A mynegwyd iddo, Y mae dy Fam a'th Frodyr yn sefyll oddiallan, yn ewyllysio dy weled di.
21
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Fy Mam a'm Brodyr i yw y rhai sydd yn gwrando ac yn gwneuthur Gair Duw.
22
A bu ar un o'r dyddiau, efe ei hun a aeth i mewn i gwch, a'i Ddysgyblion: ac efe a ddywedodd wrthynt, Awn trosodd i'r tu arall i'r Llyn; a hwy a gychwynasant.
23
Ac fel yr oeddynt yn hwylio, efe a hunodd: a thymestl o wynt a ddisgynodd i'r Llyn, ac yr oeddynt yn llanw gan ddwfr, ac mewn perygl.
24
A hwy a aethant ato, ac a'i deffroisant ef, gan ddywedyd, O Feistr, Feistr, darfu am danom. Ac efe, wedi ei lwyr‐ddeffroi, a geryddodd y gwynt a chynddeiriogrwydd y dwfr: a hwy a beidiasant, a bu tawelwch.
25
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le y mae eich ffydd chwi? A hwy a ofnasant ac a ryfeddasant, gan ddywedyd wrth eu gilydd, Pwy ynte yw hwn, gan ei fod yn gorchymyn i'r gwynt ac i'r dwfr, ac y maent yn ufuddhâu iddo.
26
A hwy a gyrhaeddasant i wlad y Geraseniaid, yr hon sydd o'r tu arall gyferbyn a Galilea.
27
Ac wedi iddo ddyfod allan ar y tir, rhyw wr o'r Ddinas a gyfarfu âg ef, yr hwn oedd ganddo gythreuliaid, ac am hir amser ni wisgai ei wisg am dano, ac nid arosai mewn tŷ, ond yn y beddau.
28
A phan welodd efe yr Iesu, efe a lefodd allan, ac a syrthiodd i lawr ger ei fron, ac a ddywedodd â llef uchel, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, Iesu, Mab y Duw Goruchaf? Yr wyf yn deisyf arnat, Na phoena fi:
29
canys yr oedd efe yn gorchymyn i'r yspryd aflan i ddyfod allan o'r dyn: canys am yspaid amser maith yr oedd wedi ei gipio ymaith; a rhwymid ef â chadwynau ac â llyffetheiriau, gan ei gadw dan wyliadwriaeth; a chan ddryllio yn ddarnau y rhwymau, efe a yrwyd gan y cythraul i'r diffeith‐leoedd.
30
A'r Iesu a ofynodd iddo, gan ddywedyd, Pa beth yw dy enw di? Ac yntau a ddywedodd, Lleng: canys llawer o gythreuliaid a aethant iddo ef.
31
A hwy a ymbiliasant âg ef na orchymynai iddynt fyned i'r Llyngclyn Diwaelod.
32
Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer yn ymborthi ar y mynydd, a hwy a ymbiliasant âg ef adael o hono iddynt fyned i mewn i'r rhai hyny. Ac efe a adawodd iddynt.
33
A'r cythreuliaid a aethant allan o'r dyn, ac a aethant i mewn i'r moch: a'r genfaint a ruthrodd i lawr ar hyd y dibyn i'r Llyn, ac a dagwyd.
34
A phan welodd y rhai a'u porthent hwy yr hyn oedd wedi dygwydd, hwy a ffoisant, ac a fynegasant yn y Ddinas, ac yn y lleoedd gwledig.
35
A daethant allan i weled yr hyn oedd wedi dygwydd. A hwy a ddaethant at yr Iesu, ac a gawsant y dyn o'r hwn yr oedd y cythreuliaid wedi myned allan, yn eistedd wrth draed yr Iesu, wedi ei ddilladu, ac yn ei iawn bwyll: a hwy a ofnasant.
36
A'r rhai a welsant, a fynegasant iddynt pa fodd yr achubwyd y cythreulig.
37
Ar holl luaws o'r wlad o amgylch y Geraseniaid a ofynasant iddo fyned ymaith oddiwrthynt: canys yr oedd ofn mawr wedi eu goddiweddyd. Ac efe ei hun a aeth i mewn i'r cwch, ac a ddychwelodd.
38
A'r dyn o'r hwn yr oedd y cythreuliaid wedi myned allan, oedd yn deisyf arno i fod gyd âg ef: ond yr Iesu a'i gollyngodd ef ymaith, gan ddywedyd,
39
Dychwel i'th dŷ, a thraetha faint o bethau a wnaeth Duw i ti. Ac efe a aeth ymaith, gan bregethu drwy yr holl Ddinas faint a wnaeth yr Iesu iddo.
40
Ac fel yr oedd yr Iesu yn dychwelyd, y dyrfa a'i croesawasant ef: canys yr oeddynt oll yn ei ddysgwyl ef.
41
Ac wele daeth gwr o'r enw Jairus, ac yr oedd efe ei hun yn Lywodraethwr y Synagog; a chan syrthio wrth draed yr Iesu, efe a atolygodd iddo ddyfod i'w dŷ ef:
42
oblegyd yr oedd iddo ferch unig‐anedig, ynghylch deuddeg mlwydd oed, ac yr oedd hi yn marw. Ac fel yr oedd efe yn myned, y torfeydd a gyd‐wasgent arno ef.
43
A gwraig, yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deuddeg mlynedd, yr hon a dreuliodd yn ychwanegol ei holl fywoliaeth ar feddygon, ac nis gallai gael ei hiachâu gan neb.
44
A hi a ddaeth yn mlaen, o'r tu cefn, ac a gyffyrddodd âg ymyl‐waith ei wisg ef: ac yn y fan y peidiodd diferlif ei gwaed hi.
45
A dywedodd yr Iesu, Pwy yw a gyffyrddodd a mi? Ac a phawb yn gwadu, dywedodd Petr, a'r rhai oedd gyd âg ef, O Feistr, y mae y torfeydd yn cyfyngu arnat, ac yn dy wasgu.
46
A'r Iesu a ddywedodd, Rhywun a gyffyrddodd, â mi: canys mi a wybyddais fod gallu wedi myned allan o honof.
47
A phan welodd y wraig nad oedd hi guddiedig, hi a ddaeth dan grynu, ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a fynegodd yn ngŵydd yr holl bobl, am ba achos y cyffyrddodd hi âg ef, a'r modd yr iachâwyd hi yn y man.
48
Ac efe a ddywedodd wrthi, O Ferch, y mae dy ffydd wedi dy achub: dos mewn tangnefedd.
49
Ac efe eto yn llefaru, y mae rhywun yn dyfod o dŷ Llywodraethwr y Synagog, gan ddywedyd, Y mae dy ferch wedi marw: na flina yr Athraw yn mhellach.
50
A'r Iesu pan glybu a'i hatebodd ef, Nac ofna: cred yn unig, a hi a fydd iach.
51
Ac wedi ei ddyfod ef i'r tŷ, ni adawodd i neb ddyfod i mewn gyd âg ef, ond Petr, ac Ioan, ac Iago, a thâd y plentyn, a'i mam.
52
Ac yr oeddynt oll yn wylo, ac yn cwynfan am dani hi. Eithr efe a ddywedodd, Nac wylwch: canys ni fu farw, ond huno y mae.
53
A hwy a'i dirmygasant ef, gan wybod ei marw hi.
54
Ac efe a gydiodd yn ei llaw hi, ac a lefodd, gan ddywedyd, Blentyn, Cyfod.
55
A'i hyspryd hi a ddychwelodd, a hi a safodd i fyny yn y man: ac efe a orchymynodd roddi iddi beth i'w fwyta.
56
A'i Rhieni hi a ryfeddasant yn ddirfawr: ond efe a orchymynodd iddynt na ddywedent i neb yr hyn oedd wedi ei wneuthur.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24