bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Luke 7
Luke 7
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 8 →
1
Yn gymaint ag iddo orphen ei holl ymadroddion yn nghlyw y Bobl, efe a aeth i mewn i Capernäum.
2
A gwas rhyw ganwriad oedd glaf, yn mron marw, yr hwn oedd werthfawr iawn ganddo.
3
A phan glybu efe am yr Iesu, efe a ddanfonodd ato Henuriaid yr Iuddewon, gan ofyn iddo ddyfod a llwyr‐iachâu ei was ef.
4
A phan gyrhaeddasant at yr Iesu, hwy a atolygasant yn daer arno, gan ddywedyd, Teilwng yw efe wneuthur o honot hyn iddo:
5
canys y mae efe yn caru ein cenedl ni, ac efe ei hun a adeiladodd i ni Synagog.
6
A'r Iesu a aeth gyd â hwynt. Ac efe weithian heb fod yn mhell oddi wrth y tŷ, y Canwriad a anfonodd gyfeillion ato, ac a ddywedodd wrtho, Arglwydd, na flina dy hun: canys nid wyf fi deilwng ddyfod o honot dan fy nghronglwyd:
7
o hewydd paham ni thybiais fy hun yn deilwng i ddyfod atat; ond dywed mewn gair, a bydd iach fy ngwas.
8
Canys dyn wyf finau hefyd yn cael fy ngosod dan awdurdod, a chenyf filwyr danaf; a dywedaf wrth hwn, Dos, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac y mae yn dyfod; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac y mae yn ei wneuthur.
9
A phan glybu yr Iesu y pethau hyn, efe a ryfeddodd wrtho, ac a drôdd, ac a ddywedodd wrth y bobl oedd yn ei ganlyn ef, Yr wyf yn dywedyd i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo, yn yr Israel.
10
A'r rhai a ddanfonasid, wedi iddynt ddychwelyd i'r tŷ, a gawsant y gwas yn holliach.
11
A bu yn fuan ar ol hyn iddo fyned i ddinas a elwid Nain, a'i Ddysgyblion a aethant gyd âg ef, a thyrfa fawr.
12
A phan ddaeth efe yn agos i borth y Ddinas, wele un marw a ddygid allan, unig‐anedig fab i'w fam, a hithau yn weddw; a thyrfa lawer o'r Ddinas oedd gyd â hi.
13
A'r Arglwydd, pan y gwelodd hi, a gymmerodd dosturi arni, ac a ddywedodd wrthi, Nac wyla.
14
Ac efe a ddaeth yn mlaen, ac a gyffyrddodd a'r arch: a'r cludwyr a safasant: ac efe a ddywedodd, Ddyn ieuanc, yr wyf yn dywedyd i ti, Cyfod.
15
A'r marw a eisteddodd i fyny, ac a ddechreuodd lefaru: ac efe a'i rhoddodd ef i'w fam.
16
Ac ofn a'u meddianodd oll, a hwy a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Proffwyd Mawr a gyfododd yn ein plith, ac, Duw a ymwelodd â'i Bobl.
17
A'r gair hwn a aeth allan am dano ef drwy holl Judea, a'r holl wlad oddi amgylch.
18
A'i Ddysgyblion a fynegasant i Ioan yr holl bethau hyn. Ac Ioan, wedi galw ato rhyw ddau o'i Ddysgyblion,
19
a ddanfonodd at yr Arglwydd, gan ddywedyd, Ai ti yw yr Hwn sydd yn dyfod, neu, a ydym yn dysgwyl un gwahanol?
20
A'r gwŷr, pan ddaethant ato, a ddywedasant, Y mae Ioan Fedyddiwr wedi ein danfon ni atat ti, gan ddywedyd, Ai ti yw yr Hwn sydd yn dyfod, neu, a ydym yn dysgwyl un arall?
21
Ac yn yr awr hono efe a wellhâodd lawer o glefydau, a phläau, ac ysprydion drwg; ac i lawer o ddeillion y rhad‐roddodd efe iddynt i weled.
22
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i'ch ffordd, a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch: y mae deillion yn gweled drachefn, a chloffion yn rhodio; rhai gwahan‐glwyfus yn cael eu glanhâu, byddariaid yn clywed, meirwon yn cyfodi, a thlodion yn cael pregethu yr Efengyl iddynt.
23
A gwyn ei fyd yr hwn ni rwystrir ynof fi.
24
Ond wedi i genadon Ioan fyned ymaith, efe a ddechreuodd lefaru wrth y torfeydd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i'r Diffaethwch i ddal sylw arno? Corsen yn cael ei hysgwyd gan wynt?
25
Ond pa beth yr aethoch allan i'w weled? Dyn wedi ei wisgo mewn dillad llaes‐esmwyth? Wele, y rhai sydd mewn dillad gorwych, ac yn byw yn foethus, mewn Palasdai Breninol y maent o'r dechreuad.
26
Ond pa beth yr aethoch allan i'w weled? Proffwyd? Ie, meddaf i chwi, a llawer amgenach na Phroffwyd.
27
Dyma yr un am yr hwn y mae wedi ei ysgrifenu: Wele, yr wyf fi yn anfon fy nghenad o flaen dy wyneb, Yr hwn a barotöa dy ffordd o'th flaen.
28
Yr wyf yn dywedyd i chwi, yn mhlith y rhai a aned o wragedd, nid oes un mwy nag Ioan: eithr yr hwn sydd lai yn Nheyrnas Dduw sydd fwy nag ef.
29
A'r holl bobl, pan glywsant, a'r Treth‐gasglwyr, a gyfiawnhasant Dduw, gwedi eu bedyddio â Bedydd Ioan.
30
Ond y Phariseaid a Deonglwyr y Gyfraith a ddiystyrasant gynghor Duw mewn perthynas iddynt hwy eu hunain, heb eu bedyddio ganddo.
31
I ba beth gan hyny y cyffelybaf ddynion y genedlaeth hon? Ac i ba beth y maent yn debyg?
32
Tebyg ydynt i blant bychain yn eistedd yn y farchnad, ac yn galw ar eu gilydd, gan ddywedyd, Canasom ar bibell i chwi, ac ni ddawnsiasoch: cwynfanasom, ac nid wylasoch.
33
Canys y mae Ioan wedi dyfod heb na bwyta bara nac yfed gwin; a chwi a ddywedwch, Y mae cythraul ganddo.
34
Y mae Mab y Dyn wedi dyfod, yn bwyta ac yn yfed; a chwi a ddywedwch, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill Treth‐gasglwyr a Phechaduriaid!
35
A Doethineb a gyfiawnhâwyd ar ran ei holl blant.
36
A rhyw un o'r Phariseaid a ofynodd iddo i fwyta gyd âg ef: ac efe a aeth i mewn i dŷ y Pharisead ac a eisteddodd i lawr i fwyta.
37
Ac wele yr oedd gwraig, yr hon oedd yn y Ddinas, Pechadures: a phan wybu hi yn sicr fod yr Iesu yn eistedd i fwyta yn nhŷ y Pharisead, hi a ddygodd lestr alabastr o enaint;
38
a chan sefyll o'r tu ol, wrth ei draed ef, yn wylo, hi a ddechreuodd wlychu ei draed ef â dagrau, ac a' u sychodd â gwallt ei phen: ac a gusanodd ei draed ef drachefn a thrachefn, ac a'u heneiniodd â'r enaint.
39
A phan welodd y Pharisead, yr hwn a'i gwahoddasai, efe a ddywedodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Y dyn hwn, pe fyddai Broffwyd, a wybuasai pwy a pha fath un yw y wraig sydd yn cyffwrdd âg ef, canys Pechadures yw.
40
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Simon, y mae genyf beth i ddywedyd wrthyt. Ac efe a ddywed, Athraw, dywed.
41
Yr oedd dau ddyledwr i ryw echwynwr: y naill oedd ddyledus am bum can denarion, a'r llall ddeg a deugain.
42
A chan nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau. Pwy o honynt gan hyny a'i câr ef fwyaf?
43
A Simon a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yr wyf yn tybied mai yr hwn y maddeuodd efe fwyaf iddo. Ac efe a ddywedodd wrtho, Uniawn y bernaist.
44
Ac efe a drôdd at y wraig, ac a ddywedodd wrth Simon, A ddeli di sylw ar y wraig hon? Mi a ddaethum i'th dŷ di: dwfr ni roddaist i mi at fy nhraed: ond hi a wlychodd fy nhraed â'i dagrau, ac a'u sychodd â'i gwallt.
45
Ni roddaist ti i mi gusan; ond hon er pan y daethum i mewn, ni pheidiodd o gwbl a chusanu fy nhraed drachefn a thrachefn.
46
Ni eneiniaist ti fy mhen âg olew; ond hon a eneiniodd fy nhraed âg enaint.
47
Er mwyn hyn, meddaf i ti, y mae ei haml bechodau hi wedi eu maddeu; oblegyd hi a garodd yn fawr: ond i'r hwn y mae ychydig yn cael ei faddeu, efe a gâr ychydig.
48
Ac efe a ddywedodd wrthi, Y mae dy bechodau wedi eu maddeu.
49
A'r rhai oedd yn cyd‐eistedd i fwyta, a ddechreuasant ddywedyd ynddynt eu hunain, Pwy yw hwn sydd hyd y nod yn maddeu pechodau?
50
Ond efe a ddywedodd wrth y wraig, Dy ffydd di sydd wedi dy achub, dos mewn tangnefedd.
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24