bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Luke 22
Luke 22
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 23 →
1
A neshâodd Gwyl y Bara Croyw, yr hon a elwir y Pasc.
2
Ac yr oedd yr Arch‐offeiriaid a'r Ysgrifenyddion yn ceisio pa fodd i wneyd ffwrdd ag ef: canys yr oeddynt yn ofni y bobl.
3
A Satan a aeth i mewn i Judas, yr hwn a elwir Iscariot, er ei fod o nifer y Deuddeg:
4
ac efe a aeth ymaith, ac a ymddiddanodd a'r Arch‐offeiriaid a'r Cad‐flaenoriaid am y modd y traddodai efe ef iddynt.
5
Ac yr oedd yn llawen ganddynt; a hwy a wnaethant gyfamod i roddi arian iddo.
6
Ac efe a gydsyniodd, ac a ddechreuodd geisio cyfleusdra i'w draddodi ef iddynt a'r wahan â'r dyrfa.
7
A daeth dydd y Bara Croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid aberthu y Pasc.
8
Ac efe a anfonodd Petr ac Ioan, gan ddywedyd, Ewch, parotowch i ni y Pasc, fel y bwytâom.
9
A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le yr ewyllysi barotôi o honom?
10
Ac efe ddywedodd wrthynt, Wele, wedi eich myned i mewn i'r Ddinas, cyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: canlynwch ef i'r tŷ, i'r hwn yr êl efe i mewn.
11
A chwi a ddywedwch wrth feistr y tŷ, Y mae yr Athraw yn dywedyd wrthyt, Pa le y mae y west‐ystafell, lle y bwytawyf y Pasc gyd â'm Dysgyblion?
12
Ac efe a ddengys i chwi oruwch‐ystafell fawr wedi ei dodrefnu; yno parotowch.
13
A hwy a aethant ymaith, ac a gawsant fel yr oedd efe wedi dywedyd wrthynt, ac a barotoisant y Pasc.
14
A phan ddaeth yr Awr, efe a eisteddodd i lawr, a'r Apostolion gyd âg ef.
15
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a awyddais yn ddirfawr fwyta y Pasc hwn gyd â chwi cyn dyoddef o honof:
16
canys yr wyf yn dywedyd i chwi, Ni fwytâf fi o hono hyd oni chyflawner ef yn Nheyrnas Dduw.
17
Ac wedi iddo dderbyn cwpan a diolch, efe a ddywedodd, Cymmerwch hwn, a rhenwch yn eich plith:
18
canys yr wyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf fi o gwbl o hyn allan o gynyrch y winwydden, hyd oni ddêl Teyrnas Dduw.
19
Ac efe a gymmerodd fara, ac a ddiolchodd, ac a'i torodd, ac a'i rhoddodd iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorff yr hwn sydd yn cael ei roddi drosoch: gwnewch hyn er coffa am danaf fi.
20
A'r cwpan yr un modd, wedi swperu, gan ddywedyd, Y Cwpan hwn yw y Cyfamod Newydd yn fy ngwaed, yr hwn sydd yn cael ei dywallt allan drosoch.
21
Yn mhellach, wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyd â mi ar y bwrdd.
22
Canys y mae Mab y Dyn yn wir yn myned yn ol yr hyn sydd wedi ei arfaethu: er hyny, gwae y dyn hwnw trwy yr hwn y mae yn cael ei fradychu.
23
A hwy a ddechreuasant ymddadleu yn eu plith eu hunain, pwy yn wir o honynt oedd ar wneuthur hyn.
24
A bu ymryson yn eu plith, pwy o honynt a gyfrifid i fod y mwyaf.
25
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae Breninoedd y Cenedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; y mae y rhai sydd mewn awdurdod arnynt yn cael eu galw, Cymwynaswyr.
26
Ond chwychwi, nid felly; eithr y mwyaf yn eich plith, bydded megys yr ieuengaf; a'r hwn sydd yn arweinydd megys yr hwn sydd yn gweini.
27
Canys pwy sydd fwyaf, ai yr hwn sydd yn eistedd i fwyta, neu yr hwn sydd yn gweini? Onid yr hwn sydd yn eistedd i fwyta? Eithr yr wyf fi yn eich canol chwi fel yr hwn sydd yn gweini.
28
Eithr chwychwi yw y rhai sydd wedi dyfal‐barhâu gyd â mi yn fy mhrofedigaethau.
29
Ac yr wyf yn sicrhâu drwy gyfamod i chwi Deyrnas, fel y sicrhâodd y Tâd drwy gyfamod Deyrnas i mi;
30
fel y bwytâoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy Nheyrnas, ac yr eisteddoch ar orsedd‐feydd yn barnu Deuddeg Llwyth Israel.
31
Simon, Simon, Wele, Satan a'ch ceisiodd chwi iddo ei hun i'ch gogrynu fel gwenith:
32
ond mi a wneuthum ddeisyfiad drosot ti, na ddiffygiai dy ffydd di; a thydi pan y gwnei droi drachefn, cadarnhâ dy Frodyr.
33
Ond efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr wyf yn barod i fyned gyd â thi i garchar, ac hefyd i angeu.
34
Ac efe a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti, Petr, Ni chân y ceiliog heddyw, hyd nes i ti wadu dair gwaith yr adweini fi.
35
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan y'ch anfonais chwi heb gôd, ac ysgrepan, a sandalau, a fu angen dim arnoch? A hwy a ddywedasant, Dim.
36
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eithr yr awrhon yr hwn sydd ganddo gôd, cymmered; yr un modd hefyd, ysgrepan: a'r hwn nid oes ganddo, gwerthed ei wisg uchaf, a phryned gleddyf:
37
canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fod yn rhaid i'r hyn sydd wedi ei ysgrifenu gael ei gyflawnu ynof fi, — A chyd â'r troseddwyr y cyfrifwyd ef,: canys y mae hefyd gyflawniad i'r peth am danaf fi.
38
A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele yma ddau gleddyf. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw.
39
Ac wedi myned allan, efe a a aeth, yn ol ei arfer, i Fynydd yr Olew‐wydd: a'r Dysgyblion hefyd a'i canlynasant ef.
40
Ac wedi dyfod o hono i'r lle, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddïwch nad eloch i brofedigaeth.
41
Ac efe a yrwyd ymaith oddi wrthynt tu ag ergyd careg, ac a aeth ar ei liniau, ac a ddechreuodd weddio,
42
gan ddywedyd, O Dâd, Os yw yn unol a'th gynghor, dwg ymaith y cwpan hwn oddi wrthyf: er hyny, nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler.
43
Ac ymddangosodd iddo Angel o'r Nef yn ei nerthu ef.
44
Ac efe mewn ymdrech enaid oedd yn gweddïo yn daerach. A'i chwys ef oedd fel dyferynau mawrion o waed yn treiglo i lawr ar y ddaear.
45
A phan gyfododd efe o'i weddi, efe a ddaeth at y Dysgyblion, ac a'u cafodd hwynt wedi syrthio i gwsg gan dristwch.
46
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn cysgu? Codwch, a gweddiwch nad eloch i mewn i brofedigaeth.
47
Ac efe eto yn llefaru, wele dyrfa, a'r hwn a elwid Judas, un o'r Deuddeg, oedd yn myned o'u blaen hwynt: ac a neshâodd at yr Iesu i'w gusanu ef.
48
Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho, Judas, ai â chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y Dyn?
49
Ond pan welodd y rhai oedd o'i amgylch yr hyn oedd ar gymmeryd lle, hwy a ddywedasant, Arglwydd a darâwn ni â chleddyf?
50
A rhyw un o honynt a darawodd was yr Arch‐offeiriad, ac a gymmerodd ymaith ei glust ddeheu ef.
51
Eithr yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Goddefwch hyd yn hyn: ac efe gan gyffwrdd â'i glust a'i hiachâodd ef.
52
A'r Iesu a ddywedodd wrth y rhai a ddaethant yn ei erbyn ef, yr Arch‐offeiriaid, a Chad‐flaenoriaid y Deml, a'r Henuriaid, Ai at fel ysbeiliwr y daethoch chwi allan, â chleddyfau a bastynau?
53
Pan oeddwn yn ddyddiol gyd â chwi yn y Deml nid estynasoch eich dwylaw yn fy erbyn i. Eithr hon yw eich Awr chwi, ac Awdurdod y Tywyllwch.
54
Ac wedi iddynt ei ddal ef, hwy a'i harweiniasant ef, ac a'i dygasant ef i mewn i dŷ yr Arch‐offeiriad. A Phetr oedd yn canlyn o hir‐bell.
55
Ac wedi iddynt gyneu tân yn wenfflam yn nghanol y Llys, a chyd‐eistedd, Petr a eisteddodd yn eu canol hwynt.
56
Ond pan welodd rhyw forwynig ef yn eistedd yn y llewyrch, a chraffu arno, hi a ddywedodd, Yr oedd hwn hefyd gyd âg ef.
57
Eithr efe a wadodd, gan ddywedyd, O Ddynes, nid adwaen i ef.
58
Ac yn mhen ychydig, dyn arall a'i gwelodd ef, ac a ddywedodd, A thithau wyt un o honynt. Eithr Petr a ddywedodd, O Ddyn, nid ydwyf.
59
Ac ar ol yspaid megys un awr, rhyw ddyn arall a daerodd yn hŷf, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd yr oedd hwn hefyd gyd âg ef: canys Galilead yw.
60
Eithr Petr a ddywedodd, O Ddyn, nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, ceiliog a ganodd.
61
A'r Arglwydd a drôdd, ac a edrychodd yn daer ar Petr: a Phetr a adgofiwyd o air yr Arglwydd, fel y dywedodd efe wrtho, Cyn canu o'r ceiliog heddyw, y gwedi fi deirgwaith [adn 34].
62
Ac efe a aeth allan, ac a dorodd allan i wylo yn chwerw.
63
A'r gwŷr oedd yn ei ddal ef a'i gwatwarasant, gan ei guro ef.
64
Ac wedi rhoddi gorchudd ar ei wyneb ef, yr oeddynt yn gofyn iddo, gan ddywedyd, Proffwyda, pwy yw yr hwn a roddodd i ti ddyrnod?.
65
A llawer o bethau eraill, gan gablu, hwy a ddywedasant yn ei erbyn ef.
66
A phan aeth hi yn ddydd, Corff Henuriaid y Bobl a ddaeth ynghyd, Arch‐offeiriaid ac hefyd Ysgrifenyddion, ac a'i harweiniasant ef ymaith at eu Huchel Gynghor hwy,
67
gan ddywedyd, Os tydi yw y Crist, dywed i ni. Ac efe ddywedodd wrthynt, Os dywedaf i chwi, ni chredwch ddim:
68
ac os rhoddaf ofyniad i chwi, ni'm hatebwch.
69
Ac o hyn allan y bydd Mab y Dyn yn eistedd ar ddeheulaw Gallu Duw.
70
A hwy oll a ddywedasant, Ai Mab Duw gan hyny ydwyt ti? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr ydych chwi yn ei ddywedyd: canys yr wyf yn Fab Duw.
71
A hwy a ddywedasant, Pa angen sydd i ni mwyach am dystiolaeth? Canys clywsom ein hunain o'i enau ef.
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24