bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Luke 9
Luke 9
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 10 →
1
Ac wedi iddo alw ynghyd y Deuddeg, efe a roddodd iddynt allu ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i wella clefydau.
2
Ac efe a'u hanfonodd hwynt i bregethu Teyrnas Dduw, ac i iachâu y cleifion.
3
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na ddygwch ddim ar gyfer y daith, na llaw‐ffon, nac ysgrepan, na bara, nac arian, ac na fydded genych ddwy o is‐wisgoedd.
4
Ac i ba dŷ bynag yr eloch i mewn, aroswch yno, ac oddiyno yr ewch allan.
5
A pha rhai bynag ni'ch derbyniant, fel yr eloch allan o'r Ddinas hono, ysgydwch y llwch oddiwrth eich traed, er tystiolaeth yn eu herbyn.
6
A hwy a aethant allan, ac a aethant drwy y pentrefi, gan efengylu a gwellhâu yn mhob lle.
7
A Herod y Tetrarch a glybu y cwbl oll a wnaethid, ac efe gythryblwyd yn ddirfawr, o herwydd y dywedid gan rai, Ioan a gyfododd o feirw;
8
a chan rai, Elias a ymddangosodd; a chan eraill, Y mae rhyw Broffwyd, un o'r rhai cyntefig, wedi adgyfodi.
9
Ond dywedodd Herod, Ioan y torais i ei ben: ond pwy yw hwn yr wyf yn clywed y cyfryw bethau am dano? Ac yr oedd efe yn ceisio ei weled ef.
10
A'r Apostolion, pan ddychwelasant, a draethasant iddo gymaint âg a wnaethant. Ac efe a'u cymmerodd, ac a ymneillduodd yn ddirgelaidd i Ddinas a elwir Bethsaida.
11
Ond y torfeydd a wybuant, ac a'i canlynasant ef; ac efe a'u croesawodd hwynt, ac a lefarodd wrthynt am Deyrnas Dduw, ac efe a iachâodd y rhai oedd eisieu gwellhâd arnynt.
12
A'r dydd a ddechreuodd dreulio allan: a'r Deuddeg a ddaethant ac a ddywedasant wrtho, Gollwng ymaith y dyrfa, fel yr elont i'r pentrefi, ac i'r lleoedd gwledig oddi amgylch, i letya a chael lluniaeth: canys yr ydym ni yma mewn lle anghyfanedd.
13
Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt beth i'w fwyta. A hwythau a ddywedasant, Nid oes genym ni fwy na phum torth a dau bysgodyn: oni bydd i ni fyned a phrynu bwyd i'r bobl hyn oll.
14
Canys yr oeddynt ynghylch pum mil o wŷr. Ac efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion, Gwnewch iddynt eistedd yn gwmpeini, oddeutu deg a deugain yr un.
15
A hwy a wnaethant felly, ac a wnaethant iddynt oll eistedd.
16
Ac efe a gymmerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r Nef, efe a'u bendithiodd, ac a'u torodd yn ddarnau, ac a'u rhoddodd i'r Dysgyblion i'w gosod gerbron y dyrfa.
17
A hwynt‐hwy oll a fwytasant, ac a ddigonwyd: a chyfodwyd o'r hyn oedd yn ngweddill iddynt o'r briwsion, ddeuddeg basgedaid.
18
A bu, fel yr oedd efe yn gweddio wrtho ei hun, fod ei Ddysgyblion gyd âg ef: ac efe a ofynodd iddynt, gan ddywedyd, Pwy y mae y torfeydd yn dywedyd fy mod i?
19
A hwy a atebasant ac a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr; ac eraill Elias: ac eraill, Prophwyd, rhyw un o'r rhai cyntefig a adgyfododd.
20
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eithr pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phetr a atebodd ac a ddywedodd, Crist Duw.
21
Ond efe a'u rhybuddiodd yn llym, ac a orchymynodd iddynt na ddywedent hyn i neb,
22
gan ddywedyd, Y mae yn rhaid i Fab y Dyn oddef llawer, a'i wrthod o ran yr Henuriaid, a'r Arch‐offeiriaid, a'r Ysgrifenyddion, a'i ladd, a'i gyfodi y trydydd dydd.
23
Ac efe a ddywedodd wrth bawb, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded âg ef ei hun, a chyfoded ei groes beunydd, a chanlyned fi.
24
Canys pwy bynag a ewyllysio gadw ei einioes, a'i cyll hi: a phwy bynag a gollo ei einioes o'm hachos i, hwnw a'i ceidw hi.
25
Canys pa leshâd i ddyn, pan wedi enill yr holl fyd, ac wedi colli neu fforffedu ei hun?
26
Canys pwy bynag y bydd arno gywilydd o honof fi a'm geiriau, bydd ar Fab y Dyn gywilydd o hwnw, pan y daw yn ei Ogoniant ei hun, a'i Dâd, a'r Angelion Sanctaidd.
27
Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, Mewn gwirionedd y mae rhai o'r sawl sydd yn sefyll yma a'r ni phrofant angeu o gwbl, hyd oni welont Deyrnas Dduw.
28
A bu, ynghylch wyth niwrnod wedi y geiriau hyn, efe a gymmerodd gyd âg ef Petr, ac Ioan, ac Iago, ac a aeth i'r Mynydd i weddio.
29
A phan yr oedd efe yn gweddio, ymddangosiad ei wyneb‐pryd ef a aeth yn wahanol, a'i ddillad ef yn wyn ddysglaeriol.
30
Ac wele dau wr oeddynt yn cyd‐ymddiddan âg ef, y rhai oedd Moses ac Elias;
31
y rhai a ymddangosasant mewn Gogoniant, ac a ddywedasant am ei Ymadawiad, yr hwn yr oedd efe ar ei gyflawnu yn Jerusalem.
32
Ond Petr, a'r rhai oedd gyd âg ef, oeddynt wedi trymhâu gan gwsg, ond wedi iddynt aros yn hollol effro, hwy a welsant ei Ogoniant ef, a'r ddau wr oedd yn sefyll gyd âg ef.
33
A bu, fel yr oeddynt yn ymadael oddi wrtho ef, dywedodd Petr wrth yr Iesu, O Feistr, Da yw i ni fod yma; a bydded i ni wneuthur tair pabell, un i ti, ac un i Moses, ac un i Elias: heb wybod pa beth y mae yn ei ddywedyd.
34
Ac efe yn dywedyd y pethau hyn, daeth cwmwl, ac a gysgododd drostynt, a hwy a ofnasant pan yr aethant i mewn i'r cwmwl.
35
A llef a ddaeth allan o'r cwmwl, yn dywedyd, Hwn yw fy Mab, fy Etholedig: gwrandêwch ef.
36
A phan ddarfyddodd y llef, cafwyd yr Iesu yn unig. A hwynt‐hwy a fuant ddystaw, ac ni fynegasant i neb yn y dyddiau hyny ddim o'r pethau yr oeddynt wedi eu gweled.
37
A bu dranoeth, fel yr oeddynt yn dyfod i waered o'r Mynydd, tyrfa fawr a gyfarfu âg ef.
38
Ac wele, gwr o'r dyrfa a waeddodd, gan ddywedyd, Athraw, yr wyf yn deisyf arnat, edrych ar fy mab: canys efe yw fy unig‐anedig.
39
Ac wele, y mae yspryd yn ei gymmeryd ef, ac yn ddisymwth y mae efe yn gwaeddi, ac yn ei ddirdynu, hyd oni falo ewyn, a braidd y mae yn ymadael oddi wrtho, gan ei lethu yn flin.
40
A mi a ddeisyfais ar dy Ddysgyblion di ei fwrw ef allan, ac nis gallasent.
41
A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, O Genedlaeth anffyddiog a throfäus, hyd pa bryd y byddaf gyd â chwi, ac y byddaf ymarhöus wrthych? Dwg yma dy fab.
42
Ac fel yr oedd efe eto yn dyfod, y cythraul a'i taflodd i lawr, ac a'i dirdynodd yn flin. Ond yr Iesu a geryddodd yr yspryd aflan, ac a iachâodd y plentyn, ac a'i rhoddodd ef yn ol i'w dâd.
43
A tharawyd hwynt oll â syndod gan Fawrhydi Duw. Ac fel yr oedd pawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai, efe a ddywedodd wrth ei Ddysgyblion,
44
Gosodwch yn eich clustiau y geiriau hyn: canys Mab y Dyn sydd ar gael ei draddodi i ddwylaw dynion.
45
Eithr hwy oeddynt anwybodus o'r peth hwn, ac yr oedd wedi cael ei guddio oddi wrthynt, fel na chanfyddent ef: a hwy a ofnasant ofyn iddo am y peth hwn.
46
A daeth i mewn ddadl yn eu plith: Pwy fyddai y mwyaf o honynt.
47
A'r Iesu yn gwybod ymresymiad eu calon hwynt, a gymmerodd afael mewn plentyn bychan, ac a'i gosododd ef yn ei ymyl,
48
ac a ddywedodd wrthynt, Pwy bynag a dderbynio y plentyn bychan hwn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i; a phwy bynag a'm derbynio i, sydd yn derbyn yr Hwn a'm hanfonodd i: canys yr hwn sydd o'r dechreu y lleiaf yn eich plith chwi oll, hwn sydd fawr.
49
Ac Ioan a atebodd ac a ddywedodd, O Feistr, Ni a welsom ryw un yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid, ac a waharddasom iddo, am nad oedd yn canlyn gyd â ni.
50
A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Na waherddwch: canys yr hwn nid yw yn eich herbyn, trosoch chwi y mae.
51
A bu, pan yr oedd dyddiau ei Esgyniad yn cael eu cyflawnu, efe a gyfeiriodd ei wyneb yn ddiymod i fyned i Jerusalem.
52
Ac efe a ddanfonodd genadau o flaen ei wyneb; a hwy wedi myned, a aethant i mewn i bentref Samariaid, er parotoi iddo ef.
53
Ac nis derbyniasant hwy ef, oblegyd fod ei wyneb ef yn cyfeirio tua Jerusalem.
54
A'i Ddysgyblion ef, Iago ac Ioan, pan welsant, a ddywedasant, Arglwydd, A ewyllysi di ddywedyd o honom am i dân ddisgyn o'r Nef, a'u difa hwynt?
55
Ond efe a drôdd ac a'u ceryddodd hwynt.
56
A hwy a aethant i bentref gwahanol.
57
Ac fel yr oeddynt yn rhodio yn y ffordd, rhyw un a ddywedodd wrtho, Mi a'th ganlynaf di i ba le bynag yr elych.
58
A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae gan y llwynogod lechfaoedd, a chan ehediaid y Nefoedd drigfanau, ond gan Fab y Dyn nid oes ganddo le i roddi ei ben i lawr.
59
Ac efe a ddywedodd wrth un arall, Canlyn fi. Ond efe a ddywedodd, Caniatâ i mi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhâd.
60
Eithr efe a ddywedodd wrtho, Gâd i'r meirw gladdu eu meirw eu hunain: ond tydi, dos ymaith, a mynega ar led Deyrnas Dduw.
61
Ac arall hefyd a ddywedodd, Mi a'th ganlynaf di, O Arglwydd: ond yn gyntaf caniatâ i mi ganu yn iach i'r rhai sydd yn fy nhŷ.
62
A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Nid oes neb a'r sydd yn rhoddi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o'i ol, yn gymhwys i Deyrnas Dduw.
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24