bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Luke 3
Luke 3
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 4 →
1
Yn y bymthegfed flwyddyn o Deyrnasiad Tiberius Cesar, a Phontius Pilat yn Llywodraethwr Judea, a Herod yn Detrarch Galilea, a Philip ei Frawd yn Detrarch gwlad Iturea a Trachonitis, a Lysanias yn Detrarch Abilene,
2
yn Arch‐offeiriadaeth Annas a Chaiaphas, y daeth Gair Duw at Ioan, mab Zechariah, yn y Diffaethwch.
3
Ac efe a ddaeth i bob goror o amgylch yr Iorddonen, gan bregethu Bedydd Edifeirwch er Maddeuant pechodau:
4
fel y mae yn ysgrifenedig yn Llyfr Geiriau Esaiah y Proffwyd, Llef un yn llefain, Yn y Diffaethwch parotowch ffordd yr Arglwydd, Gwnewch ei lwybrau ef yn uniawn;
5
Pob ceunant a lenwir, A phob mynydd a bryn a ostyngir; Y gŵyr‐bethau ydynt i fod yn uniawn, A'r lleoedd geirwon i fod yn ffyrdd gwastad:
6
A phob cnawd a wêl Iachawdwriaeth Duw.
7
Am hyny, efe a ddywedodd wrth y torfeydd sydd yn myned allan i'w bedyddio ganddo, O hiliogaeth gwiberod! Pwy a'ch rhybuddiodd chwi i ffoi oddiwrth y Digofaint sydd ar ddyfod?
8
Dygwch gan hyny ffrwythau teilwng o'r Edifeirwch. Ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae genym ni Abraham yn Dâd: canys yr wyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw allan o'r meini hyn gyfodi plant i Abraham.
9
Ac yr awrhon hefyd y mae y fwyell wedi ei gosod wrth wreiddyn y prenau: pob pren gan hyny a'r nid yw yn dwyn ffrwyth da sydd yn cael ei dori i lawr, ac yn cael ei daflu i dân.
10
A'r torfeydd oeddynt yn gofyn iddo, gan ddywedyd, Pa beth gan hyny a wnawn ni?
11
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd ganddo ddwy o is‐wisgoedd, bydded iddo ranu â'r hwn nid oes ganddo, a'r hwn sydd ganddo fwyd, gwneled yr un modd.
12
A daeth hefyd y Treth‐gasglwyr i'w bedyddio, ac a ddywedasant wrtho, Athraw, Pa beth a wnawn ni?
13
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na chodwch fwy na'r hyn sydd wedi ei drefnu i chwi.
14
A milwyr hefyd a ofynent iddo, gan ddywedyd, A pha beth a wnawn ninau? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na fynwch arian oddiwrth neb trwy ei ddychrynu, na cham‐gyhuddwch, a byddwch foddlawn ar eich cyflogau.
15
Ac fel yr oedd y bobl yn dysgwyl, a phawb yn ymresymu yn eu calonau ynghylch Ioan, rhag ofn mai efe yw y Crist,
16
Ioan a atebodd, gan ddywedyd wrthynt bawb oll, Yr wyf fi yn wir yn eich bedyddio chwi â dwfr; ond y mae Un Cryfach na myfi yn dyfod, yr hwn nid ydwyf fi deilwng i ddatod carai ei sandalau: efe ei hun a'ch bedyddia chwi yn yr Yspryd Glân ac yn tân.
17
Yr hwn y mae ei nith‐raw yn ei law, i lwyr‐lanhâu ei lawr‐dyrnu: ac efe a gasgl yr ŷd i'w ysgubor, ond yr us a lwyr‐losga efe â thân anniffoddadwy.
18
A chyd â llawer o gynghorion eraill gan hyny y pregethodd efe yr Efengyl i'r Bobl.
19
Ond Herod y Tetrarch, pan geryddwyd ef ganddo am Herodias, gwraig ei Frawd, ac am yr holl bethau drwg a wnaeth Herod,
20
a ychwanegodd hyn hefyd uwchlaw yr oll:— hyd y nod efe a gauodd ar Ioan mewn carchar.
21
A bu, pan yr oedd yr holl bobl wedi eu bedyddio, a'r Iesu hefyd wedi ei fedyddio, ac yn gweddïo, agorwyd y Nef,
22
a disgynodd yr Yspryd Glân, mewn llun corfforol, fel colomen, arno ef; a llef a ddaeth allan o'r Nef, Ti wyt fy Anwyl Fab; Ynot ti y'm boddlonwyd.
23
A'r Iesu ei hun oedd, pan ddechreuodd, ynghylch deng mlwydd ar hugain oed, ac yr oedd (fel y tybid) yn Fab Joseph, Fab Eli,
24
Fab Mattathah [Gr. Matthat ], Fab Lefi, Fab Malchiah [Gr. Melchi ], Fab Jannai, Fab Joseph,
25
Fab Mattathiah, Fab Amos, Fab Nahum, Fab Azaliah [Gr. Esli ], Fab Naggai [Neu, Nogah ]
26
Fab Mahath [Gr. Maath ], Fab Mattathiah, Fab Simei [Gr. Semein ] Fab Josech, Fab Juda,
27
Fab Johanah [Gr. Johanan ], Fab Rhesa, Fab Zerubbabel, Fab Salathiel [Neu, Shealtiel ], Fab Neriah [Gr. Neri ],
28
Fab Malchiah [Gr. Melchi ], Fab Adaiah [Gr. Addi ], Fab Cosam, Fab Elmadam, Fab Er,
29
Fab Josaia [Gr. Joses ], Fab Eliezer, Fab Jorim, Fab Mattathah, Fab Lefi,
30
Fab Simeon, Fab Juda [Gr. Judas ] Fab Joseph, Fab Jonam, Fab Eliacim,
31
Fab Melëa, Fab Menna, Fab Mattathah, Fab Nathan, Fab DAFYDD,
32
Fab Jesse, Fab Obed, Fab Boaz, Fab Salma Fab Nason,
33
Fab Amminadab, Fab Ram, Fab Hesron, Fab Phares, Fab Juda,
34
Fab Jacob, Fab Isaac, Fab ABRAHAM, Fab Terah, Fab Nachor,
35
Fab Serug, Fab Reu, Fab Peleg, Fab Heber, Fab Selah,
36
Fab Cenan [Gr. Kainan. Y mae ei enw yn y LXX., ond nid yn yr Heb.], Fab Arphacsad, Fab Shem [Gr. Sem ], Fab NOAH, Fab Lamech,
37
Fab Methuselah, Fab Enoch, Fab Jered, Fab Mahalaleel, Fab Cenan,
38
Fab Enos, Fab Seth, Fab Adda, Fab DUW.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24