bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
/
Luke 15
Luke 15
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 16 →
1
Ac yr oedd yr holl Dreth‐gasglwyr a'r pechaduriaid yn agoshâu ato, i wrando arno.
2
A'r Phariseaid a'r Ysgrifenyddion ynghyd oeddynt yn grwgnach yn ddirfawr, gan ddywedyd, Y mae hwn yn gwahodd pechaduriaid, ac yn bwyta gyd â hwynt.
3
Ac efe lefarodd y ddammeg hon wrthynt, gan ddywedyd,
4
Pa ddyn o honoch, a chanddo gant o ddefaid, ac wedi colli un o honynt, nid yw yn gadael yn gyfangwbl y naw‐deg a naw yn yr anialwch, ac yn myned ar ol yr hon oedd wedi ei cholli, hyd oni chaffo efe hi?
5
Ac wedi iddo ei chael, efe a'i gesyd hi ar ei ysgwyddau gan lawenhâu.
6
A phan ddêl adref, y mae yn galw ynghyd ei gyfeillion a'i gymydogion, gan ddywedyd wrthynt, Cyd‐lawenhêwch â mi, canys cefais fy nafad a gollasid.
7
Yr wyf yn dywedyd i chwi, Felly y bydd llawenydd yn y Nef dros un pechadur yn edifarhâu, mwy na thros naw‐deg a naw o rai cyfiawn, y cyfryw nid oes eisieu edifeirwch arnynt.
8
Neu pa wraig a chanddi ddeg drachma, os cyll hi un drachma, oni oleu lamp, ac ysgubo y tŷ, a cheisio yn ddyfal hyd onis caffo ef?
9
Ac wedi iddi ei gael, y mae yn galw ati ei hun ei chyfeillesau a'i chymydogesau, gan ddywedyd, Cyd‐lawenhêwch â mi, canys cefais y drachma a gollais.
10
Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd yn ngwydd Angelion Duw dros un pechadur yn edifarhâu.
11
Ac efe a ddywedodd, Rhyw wr oedd ganddo ddau fab:
12
a'r ieuengaf o honynt a ddywedodd wrth ei dâd, Fy Nhâd, dyro i mi y gyfran o'r meddianau sydd yn syrthio i mi: ac efe a ranodd iddynt y fywoliaeth.
13
Ac ar ol nid llawer o ddyddiau, y mab ieuengaf a gasglodd bob peth ynghyd, ac a aeth oddi cartref i wlad bell: ac yno efe a wastraffodd ei feddianau, gan fyw yn afradlon.
14
Ac wedi iddo dreulio y cwbl, daeth newyn mawr drwy y wlad hono: ac efe ei hun a ddechreuodd ddyoddef eisieu.
15
Ac efe a aeth ac a lynodd wrth un o ddinaswyr y wlad hono; ac efe a'i hanfonodd ef i'r meusydd i borthi moch.
16
Ac yr oedd efe yn awyddu cael ei ddigoni a'r cibau a fwytäi y moch: ac nid oedd neb yn rhoddi dim iddo.
17
A phan ddaeth ato ei hun, efe a ddywedodd, Pa sawl gwas cyflog o'r eiddo fy nhâd sydd ganddynt gyflawnder o fara, a minau yma ar ddarfod am danaf gan newyn!
18
Mi a godaf, ac a âf at fy nhâd, ac a ddywedaf wrtho, Fy Nhâd, pechais yn erbyn y Nef, ac o'th flaen dithau:
19
mwyach nid ydwyf deilwng i'm galw yn fab i ti: gwna fi fel un o'th weision cyflog.
20
Ac efe a gododd, ac a aeth at ei dâd ei hun. A phan oedd efe eto yn mhell oddi wrtho, ei dâd a'i gwelodd ef, ac a dosturiodd, ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf, ac a'i cusanodd yn wresog.
21
A'r mab a ddywedodd wrtho, Fy Nhâd, pechais yn erbyn y Nef, ac o'th flaen dithau: mwyach nid ydwyf deilwng i'm galw yn fab i ti.
22
Eithr y tâd a ddywedodd wrth y gweision, Dygwch allan ar frys wisg, y goreu, a gwisgwch hi am dano ef, a rhoddwch fodrwy am ei law, a sandalau am ei draed.
23
A dygwch y llô pasgedig, a lleddwch ef, a bwytawn, a byddwn lawen:
24
canys fy mab hwn oedd farw, ac a aeth yn fyw drachefn: yr oedd efe wedi ei golli, ac a gafwyd; a hwy a ddechreuasant fod yn llawen.
25
Ond yr oedd ei fab hynaf ef mewn maes: a phan ddaeth efe a neshâu at y tŷ, efe a glywodd gynghanedd a dawnsio.
26
Ac efe a alwodd ato un o'r gweision, ac a ymofynodd beth allai y pethau hyn fod.
27
Ac efe a ddywedodd wrtho, Dy frawd a ddaeth, a'th dâd a laddodd y llo pasgedig, am iddo ei dderbyn yn ol yn iach.
28
Ond efe a aeth yn ddigllawn, ac nid oedd foddlawn i fyned i mewn. A daeth ei dâd allan, ac a ymbiliodd âg ef.
29
Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrth ei dâd, Wele, cynifer o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di: ac nid esgeulusais i erioed dy orchymyn: ac ni roddaist erioed fyn i mi, fel y byddwn lawen gyd â'm cyfeillion:
30
ond pan ddaeth dy fab hwn, yr hwn a ddifaodd dy fywoliaeth gyd â'r puteiniaid, ti a leddaist iddo ef lô pasgedig.
31
Ond efe a ddywedodd wrtho, Fy Mhlentyn, Yr wyt ti yn wastadol gyd â mi, a'r oll sydd eiddof fi sydd eiddo ti.
32
Ond rhaid oedd mwynhâu a llawenychu; canys dy frawd hwn oedd farw, ac a ddaeth yn fyw, ac a fu golledig, ac a gafwyd.
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24