bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Luke 1
Luke 1
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 2 →
1
Gan ddarfod i lawer geisio cyfansoddi hanes am y pethau sydd wedi eu cyflawni yn ein plith,
2
fel y traddodwyd hwynt i ni gan y rhai oedd o’r dechrau’n llygad-dystion ac a fu’n weinidogion y gair,
3
bu wiw gennyf innau, wedi olrhain o’r cychwyn bob peth yn fanwl, eu hysgrifennu i ti mewn trefn, O ardderchocaf Theophilus,
4
modd y cait wybod sicrwydd am y materion y’th hyfforddwyd ynddynt.
5
Yr oedd yn nyddiau Herod, brenin Iwdea, ryw offeiriad a’i enw Sacharïas o ddosbarth Abïa, ac iddo wraig o ferched Aaron, a’i henw Elisabeth.
6
Yr oeddent yn gyfiawn ill dau ger bron Duw, yn rhodio yn holl orchmynion ac ordeiniadau’r Arglwydd yn ddiargyhoedd.
7
Ac nid oedd iddynt blentyn, canys yr oedd Elisabeth yn amhlantadwy; ac yr oeddent ill dau wedi mynd ymlaen mewn dyddiau.
8
A digwyddodd, fel yr oedd ef yn gweini swydd offeiriad yn nhro ei ddosbarth gerbron Duw,
9
ddyfod i’w ran, yn ôl arfer yr offeiriadaeth, fynd i mewn i gysegr yr Arglwydd i arogldarthu,
10
a holl liaws y bobl oedd yn gweddïo tu allan ar awr yr arogldarth.
11
Ac ymddangosodd iddo angel yr Arglwydd, yn sefyll o’r tu dehau i allor yr arogldarth.
12
A chyffröwyd Sacharïas pan welodd, ac ofn a ddaeth arno.
13
A dywedodd yr angel wrtho, “Paid ag ofni, Sacharïas, canys gwrandawyd dy weddi, a dwg dy wraig Elisabeth fab i ti, a gelwi ei enw ef Ioan;
14
a bydd llawenydd i ti a gorfoledd; a llawer a lawenha am ei eni ef.
15
Canys mawr fydd yng ngolwg yr Arglwydd, a gwin na diod gadarn nid yf, a llenwir ef o’r Ysbryd Glân, ie, o groth ei fam;
16
a llawer o feibion Israel a dry ef at yr Arglwydd eu Duw;
17
ac â rhagddo o’i flaen ef yn ysbryd a nerth Elïas, i droi calonnau tadau at eu plant, a rhai anufudd i fyw yn noethineb y cyfiawn, i baratoi i’r Arglwydd bobl ddarparedig.”
18
A dywedodd Sacharïas wrth yr angel, “Pa fodd y gwybyddaf hyn? canys yr wyf i’n hen ŵr, a’m gwraig wedi mynd ymlaen mewn dyddiau.”
19
Atebodd yr angel iddo, “Myfi yw Gabriel, sy’n sefyll gerbron Duw, ac fe’m danfonwyd i lefaru wrthyt ac i gyhoeddi i ti hyn o newyddion da.
20
Ac wele, ti fyddi fud, a heb allu llefaru hyd y dydd y digwydd y pethau hyn, am na chredaist fy ngeiriau, y rhai er hynny a gyflawnir yn eu hamser.”
21
Ac yr oedd y bobl yn disgwyl am Sacharïas, a rhyfeddent ei fod yn oedi yn y cysegr.
22
Ac wedi iddo ddyfod allan ni allai lefaru wrthynt, a deallasant ei fod wedi gweled gweledigaeth yn y cysegr; ac yr oedd ef yn amneidio arnynt, a pharhau yn fud.
23
Ac yna, pan gyflawnwyd dyddiau ei weinidogaeth, aeth adref.
24
Ar ôl y dyddiau hyn beichiogodd Elisabeth ei wraig ef, ac ymguddiodd bum mis, gan ddywedyd,
25
“Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd â mi yn y dyddiau y gwelodd yn dda dynnu ymaith fy ngwaradwydd ymhlith dynion.”
26
Ac yn y chweched mis danfonwyd yr angel Gabriel gan Dduw i ddinas yng Ngalilea o’r enw Nasareth,
27
at forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr o’r enw Ioseff o dŷ Ddafydd, ac enw’r forwyn oedd Mair.
28
Ac aeth i mewn ati, a dywedodd, “Henffych well, y gyflawn o ras! Yr Arglwydd a fo gyda thi!”
29
Hithau a gyffrowyd drwyddi wrth yr ymadrodd; a meddyliai pa ryw gyfarch a allai hwn fod.
30
A dywedodd yr angel wrthi, “Paid ag ofni, Mair; canys cefaist ffafr gyda Duw.
31
Ac wele, bydd i ti feichiogi ac esgor ar fab, a galw ei enw Iesu.
32
Hwn a fydd mawr, a Mab y Goruchaf y gelwir ef, a rhydd yr Arglwydd Dduw iddo orsedd Dafydd ei dad,
33
a theyrnasa ar dŷ Iacob yn oes oesoedd, ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd.”
34
A dywedodd Mair wrth yr angel, “Pa fodd y bydd hyn, gan nad adwaen i ŵr?”
35
Ac atebodd yr angel iddi, “Yr Ysbryd Glân a ddaw arnat ti, a nerth y Goruchaf a gysgoda drosot; ac am hynny y plentyn a elwir yn santaidd, yn Fab Duw.
36
Ac wele, Elisabeth dy gares, hithau hefyd a feichiogodd, ar fab yn ei henaint, a hwn yw’r chweched mis iddi hi a elwid yn amhlantadwy;
37
canys ni bydd amhosibl gyda Duw un dim.”
38
A dywedodd Mair, “Wele gaethferch yr Arglwydd; bydded i mi yn ôl dy air.” Ac aeth yr angel ymaith oddi wrthi.
39
A chododd Mair yn y dyddiau hynny, a chyrchu i’r mynydd-dir ar frys i ddinas yn Iwda;
40
ac aeth i mewn i dŷ Sacharïas, a chyfarch Elisabeth.
41
A darfu, pan glywodd Elisabeth gyfarchiad Mair, i’r baban lamu yn ei chroth; a llanwyd Elisabeth o’r Ysbryd Glân,
42
a llefodd â bloedd uchel, a dywedyd, “Bendigedig dydi ymhlith gwragedd, a bendigedig ffrwyth dy groth!
43
Ac o ba le y daeth hyn i mi, ddyfod mam fy Arglwydd ataf?
44
Canys, wele, fel y daeth sŵn dy gyfarchiad i’m clustiau y llamodd y plentyn o orfoledd yn fy nghroth.
45
A gwyn ei byd yr hon a gredodd, canys bydd cyflawniad i’r pethau a ddywedwyd wrthi gan yr Arglwydd.”
46
A dywedodd Mair, “Mawryga fy enaid yr Arglwydd,
47
a gorfoleddodd fy ysbryd yn Nuw fy Ngheidwad;
48
Oblegid edrychodd ar iselder ei gaethferch.Canys, wele, o hyn allan gwynfydedig y geilw’r holl genedlaethau fi.
49
Oblegid gwnaeth y Cadarn i mi bethau mawr, A santaidd yw ei enw ef,
50
A’i drugaredd hyd genedlaethau a chenedlaethau I’r rhai a’i hofna ef.
51
Gwnaeth rymuster â’i fraich, Gwasgarodd feilchion ym mryd eu calon;
52
Dymchwelodd lywiawdwyr o’u gorseddau, a dyrchafodd rai isel,
53
Rhai newynog a lanwodd â phethau da, a chyfoethogion a yrrodd ymaith yn weigion.
54
Cynorthwyodd ei was Israel, gan gofio trugaredd,
55
Megis y llefarodd wrth ein tadau, I Abraham a’i had yn dragywydd.”
56
Ac arhosodd Mair gyda hi tua thri mis, a dychwelodd adref.
57
Ac i Elisabeth cyflawnwyd yr amser iddi i esgor, a ganwyd, iddi fab.
58
A chlywodd ei chymdogion a’i cheraint helaethu o’r Arglwydd ei drugaredd iddi, a chydlawenychent â hi.
59
Ac ar yr wythfed dydd daethant i enwaedu ar y plentyn, ac yr oeddent am ei alw ar enw ei dad, yn Sacharïas.
60
Ac atebodd ei fam a dywedodd, “Nage; eithr gelwir ef Ioan.”
61
Dywedasant wrthi, “Nid oes neb o’th dylwyth di a elwir ar yr enw hwn.”
62
Ac amneidient ar ei dad i ofyn pa beth a fynnai ei alw.
63
Ceisiodd yntau lechen, ac ysgrifennydd, “Ioan yw ei enw.” A rhyfeddasant oll.
64
Ac agorwyd ei enau yn y fan, a’i dafod, a dechreuodd lefaru gan fendithio Duw.
65
A daeth braw ar bawb a oedd yn trigo o’u hamgylch, ac yn holl fynydd-dir Iwdea yr oedd trafod ar yr holl bethau hyn,
66
a phawb a’u clywodd a’u gosododd yn eu calon, gan ddywedyd, “Beth, tybed, fydd y plentyn hwn?” Canys yn wir llaw’r Arglwydd oedd gydag ef.
67
A Sacharïas ei dad ef a lanwyd o’r Ysbryd Glân, a phroffwydodd gan ddywedyd,
68
“Bendigedig fo Arglwydd Dduw Israel,canys ymwelodd â hwy, a gwnaeth ymwared i’w bobl,
69
a dyrchafodd gorn iachawdwriaeth inni yn nhŷ Dafydd ei was,
70
megis y llefarodd trwy enau ei santaidd broffwydi erioed, —
71
iachawdwriaeth rhag ein gelynion ac o law ein holl gaseion,
72
gwneuthur trugaredd â’n tadau,a chofio’i gyfamod santaidd,
73
llw a dyngodd wrth Abraham ein tad
74
y rhoddai inni, wedi ein rhyddhau o law ein gelynion, yn ddiofn
75
ei wasanaethu ef mewn santeiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef dros ein holl ddyddiau.
76
A thithau, blentyn, proffwyd y goruchaf y’th elwir; canys cerddi o flaen wyneb yr Arglwydd i baratoi ei ffyrdd ef,
77
i roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i’w bobl ym maddeuant eu pechodau,
78
trwy dosturiaethau trugaredd ein Duw, ac ynddynt yr ymwêl â ni wawr oddi uchod,
79
i lewyrchu i’r rhai a eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau, i gyfeirio’n traed i ffordd tangnefedd.”
80
A’r plentyn a dyfai ac a gryfhâi yn yr ysbryd, a bu yn y diffeithleoedd hyd ddydd ei ymddangos i Israel.
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 2 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24