bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Luke 13
Luke 13
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 14 →
1
A daeth rhywrai’r pryd hwnnw, a mynegi iddo am y Galileaid y cymysgodd Pilat eu gwaed â’u haberthau.
2
Ac atebodd iddynt, “A dybiwch fod y Galileaid hyn yn bechaduriaid mwy na’r Galileaid oll, am iddynt ddioddef y pethau hyn?
3
Na, meddaf i chwi; eithr onid edifarhewch, fe’ch difethir chwi oll yn gyffelyb.
4
Neu’r deunaw hynny y syrthiodd y tŵr yn Siloam arnynt a’u lladd, a dybiwch eu bod hwy’n droseddwyr mwy na’r holl ddynion sy’n trigo yng Nghaersalem?
5
Na, meddaf i chwi; eithr oni bydd edifar gennych, fe’ch difethir chwi oll yr un modd.”
6
A dywedodd y ddameg hon. “Yr oedd gan un ffigysbren wedi ei blannu yn ei winllan, ac fe ddaeth i geisio ffrwyth arno, ac nis cafodd.
7
A dywedodd wrth y gwinllannwr, ‘Ers tair blynedd iti yr wyf yn dyfod i geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn a heb ei gael; tor ef i lawr; i beth hefyd y mae’n diffrwytho’r tir?’
8
Ond atebodd yntau iddo, ‘Arglwydd, gad ef y flwyddyn hon eto, nes imi gloddio o’i gwmpas, a bwrw tail;
9
ac os dwg ffrwyth rhag llaw, da; onid e, gelli ei dorri ef i lawr.’ ”
10
Yr oedd yn dysgu yn un o’r synagogau ar y Sabbath.
11
Ac wele wraig a chanddi ysbryd gwendid ers deunaw mlynedd, ac yr oedd hi yn ei chwman, ac ni allai ymunioni yn hollol.
12
Wedi i’r Iesu ei gweled hi, galwodd arni a dywedodd wrthi, “Wraig, gollyngwyd di o’th wendid”
13
a dododd ei ddwylo arni; ac yn ebrwydd ymsythodd, a dechrau gogoneddu Duw.
14
Ac atebodd y pensynagogydd, yn ffyrnigo am i’r Iesu iacháu ar y Sabbath, a dywedodd wrth y dyrfa, “Chwe diwrnod sydd y dylid gweithio ynddynt; ar y rhain, ynteu, deuwch i gael meddyginiaeth, ac nid ar y dydd Sabbath.”
15
Atebodd yr Arglwydd iddo, “Ragrithwyr, oni ollwng pob un ohonoch ar y Sabbath ei ych neu ei asyn o’r preseb, a mynd ag ef ymaith i gael dŵr?
16
Hon, a hithau’n ferch i Abraham, a rwymodd Satan, ie, ddeunaw mlynedd, oni ddylesid ei gollwng o’r rhwymyn hwn ar y dydd Sabbath?”
17
Ac wrth iddo ddywedyd hyn cywilyddiai pawb a’i gwrthwynebai, a’r holl dyrfa a lawenychai am yr holl bethau gogoneddus a wneid ganddo ef.
18
Felly meddai, “I beth y mae teyrnas Dduw yn gyffelyb, ac i beth y cyffelybaf hi?
19
Cyffelyb yw i ronyn mwstard, a gymerth dyn a’i fwrw i’w ardd, a chynyddodd ac aeth yn bren, ac adar yr awyr a nythodd yn ei gangau.”
20
A dywedodd drachefn, “I beth y cyffelybaf deyrnas Dduw?
21
Cyffelyb yw i surdoes a gymerth gwraig a’i guddio mewn tri phecaid o flawd, hyd oni surodd y cwbl.”
22
A thramwyai trwy ddinasoedd a phentrefi, gan ddysgu, ar ei ffordd tua Chaersalem.
23
A dywedodd rhywun wrtho, o “Arglwydd, ai ychydig yw’r rhai sy’n cael eu cadw?” Dywedodd yntau wrthynt,
24
“Ymdrechwch i fyned i mewn trwy’r drws cul; canys llawer, meddaf i chwi, a gais fyned i mewn, ac ni lwyddant.
25
Wedi i ŵr y tŷ gyfodi a chau’r drws, ac i chwithau ddechrau sefyll oddi allan a churo’r drws gan ddywedyd, ‘Arglwydd, agor i ni’ ac iddo yntau ateb a dywedyd wrthych, ‘Ni’ch adwaen chwi, o ba le yr ydych,’
26
yna chwi ddechreuwch ddywedyd, ‘Bwytasom ac yfasom yn dy ŵydd, a dysgaist yn ein heolydd ni’;
27
ac fe ddywed wrthych, ‘Ni wn o ba le yr ydych; ymadewch oddi wrthyf, holl weithredwyr anghyfiawnder.’
28
Yno y bydd yr wylofain a’r rhincian dannedd, pan welwch Abraham ac Isaac ac Iacob a’r holl broffwydi yn nheyrnas Dduw, a chwithau yn cael eich bwrw allan.
29
A deuant o’r dwyrain a’r gorllewin ac o’r gogledd a’r dehau, ac eisteddant wrth y bwrdd yn nheyrnas Dduw.
30
Ac wele, y mae rhai yn olaf a fydd yn flaenaf, ac y mae rhai yn flaenaf a fydd yn olaf.”
31
Y pryd hwnnw daeth rhai Phariseaid ato, a dywedyd wrtho, “Dos ymaith, a cherdd oddi yma, canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di.”
32
A dywedodd wrthynt, “Ewch a dywedwch wrth y cadno hwnnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid ac yn iacháu cleifion heddiw ac yfory, a’r trydydd dydd fe’m perffeithir.
33
Eithr rhaid i mi deithio heddiw ac yfory a thrennydd, canys ni all y derfydd am broffwyd allan o Gaersalem.
34
Gaersalem, Gaersalem, ti sy’n lladd y proffwydi a llabyddio’r rhai a anfonwyd ati — pa sawl gwaith y mynnais gasglu dy blant ynghyd, fel iâr ei chywion dan ei hadenydd, ac nis mynnech!
35
Wele, eich tŷ chwi a adewir. Ac meddaf i chwi, ni’m gwelwch i nes daw’r amser pan ddywedoch, Bendigedig yw’r un sy’n dyfod yn enw’r Arglwydd.”
← Chapter 12
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 14 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24