bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Luke 18
Luke 18
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 19 →
1
A llefarodd ddameg wrthynt ar fod rhaid iddynt weddïo’n wastad, a pheidio â llwfrhau.
2
Dywedodd, “Yr oedd rhyw farnwr mewn rhyw ddinas, nad ofnai Dduw ac na pharchai ddyn.
3
Ac yr oedd gweddw yn y ddinas honno, a hi ddeuai ato, gan ddywedyd, ‘Amddiffyn fi rhag fy ngwrthwynebwr.’
4
Ac ni fynnai ef dros amser, ond wedyn fe ddywedodd ynddo’i hun, ‘Er nad ofnaf Dduw ac na pharchaf ddyn chwaith,
5
eto am fod y weddw hon yn peri blinder imi fe’i hamddiffynnaf hi, rhag iddi ddyfod o hyd a’m byddaru’.”
6
A dywedodd yr Arglwydd, “Clywch beth a ddywed y barnwr anghyfiawn.
7
Oni ddyry Duw amddiffyn i’w etholedigion sy’n llefain arno ddydd a nos, ac a oeda ef yn eu hachos?
8
Dywedaf i chwi y dyry amddiffyn iddynt yn ebrwydd. Eithr Mab y dyn, pan ddêl, a gaiff ef ffydd ar y ddaear?”
9
A dywedodd hefyd y ddameg hon am rai a oedd yn hyderus eu bod hwy yn gyfiawn, ac yn diystyru’r lleill.
10
“Aeth dau ddyn i fyny i’r deml i weddïo, un yn Pharisead a’r llall yn drethwr.
11
Safodd y Pharisead, a gweddïo fel hyn wrtho’i hun: ‘O Dduw, yr wyf yn diolch iti nad wyf fel y gweddill o ddynion, yn gribddeilwyr, yn anghyfiawn, yn odinebwyr, neu fel y trethwr hwn chwaith.
12
Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yr wythnos, yr wyf yn degymu cymaint oll ag a dderbyniaf.’
13
Ond safai’r trethwr o bell, ac ni fynnai hyd yn oed godi ei lygaid tua’r nef, ond curai ei ddwyfron, gan ddywedyd, ‘O Dduw, trugarha wrthyf i’r pechadur.’
14
Dywedaf i chwi, aeth hwn i lawr i’w dŷ wedi ei gyfiawnhau, yn hytrach na hwnacw. Canys pob un sy’n ei ddyrchafu ei hun a ostyngir, a’r hwn sy’n ei ostwng ei hun a ddyrchefir.”
15
A dygent ato hefyd eu babanod, fel y cyffyrddai â hwynt; ac yr oedd y disgyblion, pan welsant, yn eu ceryddu hwynt.
16
Ond galwodd yr Iesu hwynt ato, gan ddywedyd, “Gedwch i’r plant bach ddyfod ataf i, a pheidiwch â’u rhwystro; canys rhai fel hwy biau deyrnas Dduw.
17
Yn wir meddaf i chwi, pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel plentyn bach, nid â byth i mewn iddi.”
18
A gofynnodd rhyw lywodraethwr iddo, “Athro da, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?”
19
Dywedodd yr Iesu wrtho, “Paham y gelwi fi’n dda? Nid da neb ond un — Duw.
20
Gwyddost y gorchmynion. ‘Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na chamdystiolaetha, Anrhydedda dy dad a’th fam.’ ”
21
Dywedodd yntau, “Y rhain oll a gedwais o’m hieuenctid.”
22
A phan glywodd yr Iesu, dywedodd wrtho, “Y mae un peth eto’n eisiau i ti; gwerth bopeth sy gennyt, a rhanna i dlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyred, dilyn fi.”
23
Ac yntau, pan glywodd hyn, aeth yn athrist, canys yr oedd yn gyfoethog iawn.
24
A phan welodd yr Iesu ef, fe ddywedodd, “Mor anodd yr â’r rhai ag arian ganddynt i mewn i deyrnas Dduw!
25
Canys haws yw i gamel fynd trwy grau nodwydd nag i oludog fynd i mewn i deyrnas Dduw.”
26
A dywedodd y rhai a glywodd, “Wel, pwy all gael ei gadw?”
27
Dywedodd yntau, “Y pethau sydd amhosibl gyda dynion sy bosibl gyda Duw.”
28
Dywedodd Pedr, “Dyma ni wedi gadael ein heiddo, a’th ddilyn di.”
29
Dywedodd yntau wrthynt, “Yn wir meddaf i chwi, nid oes neb a adawodd dŷ neu wraig neu frodyr neu rieni neu blant er mwyn teyrnas Dduw,
30
na dderbyn lawer gwaith cymaint yn yr amser hwn, ac yn yr oes sy’n dyfod fywyd tragwyddol.”
31
Ac fe gymerth y deuddeg ato, a dywedodd wrthynt, “Dyma ni’n mynd i fyny i Gaersalem, a’r holl bethau a ysgrifennwyd trwy’r proffwydi a gyflawnir i Fab y dyn.
32
Canys fe’i traddodir i’r cenhedloedd, a’i watwar a’i sarhau a phoeri arno,
33
ac wedi ei ffrewyllu fe’i lladdant; a’r trydydd dydd fe atgyfyd.”
34
Ac ni ddeallasant hwy ddim o’r pethau hyn, ac yr oedd y gair hwn yn guddiedig oddi wrthynt, ac ni wyddent am y pethau a ddywedid.
35
A digwyddodd, pan oedd ef yn nesáu at Iericho, fod rhyw ddyn dall yn eistedd ar fin y ffordd yn cardota.
36
A phan glywodd dyrfa’n mynd heibio, gofynnai beth oedd hyn;
37
a mynegasant iddo fod Iesu o Nasareth yn mynd heibio.
38
A llefodd, “Iesu, Fab Dafydd, tosturia wrthyf.”
39
A’r rhai oedd ar y blaen a’i rhybuddiai ef i dewi; ond mwy o lawer y gwaeddai ef, “Fab Dafydd, tosturia wrthyf.”
40
A safodd yr Iesu, a gorchymyn, ei ddwyn ef ato. Wedi iddo ddyfod yn agos, gofynnodd iddo,
41
“Beth a fynni i mi ei wneuthur iti?” Dywedodd yntau, “Arglwydd, cael fy ngolwg.”
42
A dywedodd yr Iesu wrtho, “Cymer dy olwg; dy ffydd a’th iachaodd.”
43
Ac yn union cafodd ei olwg, ac aeth i’w ddilyn ef dan ogoneddu Duw. A’r holl bobl, pan welsant, rhoesant glod i Dduw.
← Chapter 17
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 19 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24