bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Luke 17
Luke 17
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 18 →
1
A dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Ni ddichon na ddêl maglau, eithr gwae’r hwn y deuant drwyddo;
2
buddiol iddo ef fyddai fod maen melin wedi ei ddodi o amgylch ei wddf, a’i fod wedi ei fwrw i’r môr, yn hytrach nag iddo faglu un o’r rhai bychain hyn.
3
Edrychwch atoch eich hunain. Os pecha dy frawd, cerydda ef, ac os edifarhâ, maddau iddo;
4
ac os pecha yn dy erbyn seithwaith yn y dydd a throi atat seithwaith, gan ddywedyd, ‘Mae’n edifar gennyf,’ ti faddeui iddo.”
5
A dywedodd yr apostolion wrth yr Arglwydd, “Chwanega at ein ffydd ni.”
6
A dywedodd yr Arglwydd, “A bwrw bod gennych ffydd megis hedyn mwstard, chwi ddywedech wrth y ferwydden hon, ‘Dadwreiddier di, a phlanner di yn y môr’; a hi ufuddhâi i chwi.
7
Pwy ohonoch, a chanddo was yn aredig neu yn bugeilio, a ddywed wrtho wedi iddo ddyfod i mewn o’r maes, ‘Brysia a thyred ac eistedd wrth y bwrdd’?
8
Eithr oni ddywed wrtho, ‘Hwylia swper i mi ac ymwregysa a gweinydda arnaf nes imi fwyta ac yfed, ac wedi hynny cei dithau fwyta ac yfed’?
9
A yw’n ddiolchgar i’r gwas am iddo wneuthur y pethau a orchmynnwyd?
10
Felly chwithau hefyd, wedi ichwi wneuthur popeth a orchmynnwyd i chwi, dywedwch, ‘Gweision anfuddiol ydym; yr hyn a ddylasem ei wneuthur a wnaethom’.”
11
A digwyddodd, wrth deithio i Gaersalem, iddo dramwy rhwng Samaria a Galilea.
12
Ac wrth iddo fynd i mewn i ryw bentref, cyfarfu ag ef ddeg o wahangleifion, y rhai a safodd o bell;
13
a hwy godasant eu llef, gan ddywedyd, “Iesu Feistr, trugarha wrthym.”
14
Ac wedi iddo’u gweled, fe ddywedodd wrthynt, “Ewch, a dangoswch eich hunain i’r offeiriaid.” A phan oeddent ar y ffordd fe’u glanhawyd.
15
A phan welodd ei fod wedi ei iacháu, fe ddychwelodd un ohonynt dan ogoneddu Duw â llef uchel,
16
a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed, a diolch iddo. A Samariad oedd hwnnw.
17
Atebodd yr Iesu, a dywedyd, “Oni lanhawyd y deg? Ond ple mae’r naw?
18
Oni chafwyd i ddychwelyd i roi gogoniant i Dduw neb oddieithr yr estron hwn?”
19
A dywedodd wrtho, “Cyfod a dos ymaith; dy ffydd a’th iachaodd.”
20
Pan ofynnwyd iddo gan y Phariseaid pa bryd yr oedd teyrnas Dduw yn dyfod, fe atebodd iddynt, “Nid yw teyrnas Dduw yn dyfod pan fo gwylio,
21
ac ni ddywedant, ‘Wele yma!’ neu ‘Acw!’ Canys wele, o’ch mewn chwi y mae teyrnas Dduw.”
22
A dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Daw dyddiau pan fyddwch yn dyheu am weled un o ddyddiau Mab y dyn, ac nis gwelwch.
23
A dywedant wrthych, ‘Dacw! Dyma!’ Nac ewch o’ch ffordd, nac erlid ar eu hôl.
24
Canys fel y mae’r fellten wrth fflachio yn goleuo o’r naill gwr dan y nen i’r llall, felly y bydd Mab y dyn yn ei ddydd ef.
25
Ond yn gyntaf rhaid iddo ddioddef llawer, ai wrthod gan y genhedlaeth hon.
26
Ac fel y bu yn nyddiau Nöe, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y dyn;
27
yr oeddent yn bwyta, yn yfed, yn cymryd gwragedd, yn cymryd gwŷr, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch, a daeth y diluw a’u difetha hwynt oll.
28
Yn gyffelyb i fel y bu yn nyddiau Lot; yr oeddent yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu;
29
a’r dydd yr aeth Lot allan o Sodom, glawiodd dân a brwmstan o’r nef a’u difetha hwynt oll.
30
Felly y bydd yn y dydd y datguddir Mab y dyn.
31
Yn y dydd hwnnw y neb a fyddo ar nen y tŷ, a’i ddodrefn yn y tŷ, na ddisgynned i’w cyrchu, a’r dyn yn y maes yr un modd, na ddychweled yn ei ôl.
32
Cofiwch wraig Lot.
33
Pwy bynnag a geisio gadw ei fywyd, a’i cyll, a phwy bynnag a’i collo, a’i ceidw’n fyw.
34
Meddaf i chwi, y nos honno bydd dau mewn un gwely; y naill a gymerir, a’r llall a adewir.
35
Bydd dwy yn malu gyda’i gilydd; y naill a gymerir, a’r llall a adewir.”
37
Ac atebasant, a dywedyd wrtho, “Pa le, Arglwydd?” Dywedodd yntau wrthynt, “Lle bo’r corff, yno yr ymgasgl y fwlturiaid.”
← Chapter 16
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 18 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24