bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Luke 5
Luke 5
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 6 →
1
A phan oedd y bobl yn gwasgu ato i wrando gair Duw, yr oedd yntau’n sefyll wrth lyn Gennesaret;
2
a gwelodd ddwy long yn sefyll wrth y llyn; yr oedd y pysgodwyr wedi disgyn ohonynt ac yn golchi’r rhwydau.
3
Ac aeth i mewn i un o’r llongau, sef un Simon, a gofynnodd iddo wthio ychydig oddi wrth y tir; ac wedi eistedd, fe ddechreuodd ddysgu’r tyrfaoedd o’r llong.
4
A phan orffennodd lefaru, dywedodd wrth Simon, “Gwthia i’r dwfn; a gollyngwch eich rhwydau am ddalfa.”
5
Ac atebodd Simon, “Meistr, trwy gydol nos y llafuriasom, heb ddal dim; ond ar dy air di, mi ollyngaf y rhwydau.”
6
Ac wedi iddynt wneuthur hyn, caeasant am liaws mawr o bysgod; ac yr oedd eu rhwydau yn rhwygo.
7
Ac amneidiasant ar eu cymdeithion yn y llong arall i ddyfod i’w cynorthwyo; a daethant, a llanwasant y ddwy long, nes eu bod yn dechrau suddo.
8
A phan welodd Simon Pedr, fe syrthiodd wrth liniau Iesu, gan ddywedyd, “Dos ymaith oddi wrthyf i, canys dyn pechadurus wyf, Arglwydd.”
9
Oblegid arswyd a ddaethai arno, ac ar bawb a oedd gydag ef, wrth y ddalfa bysgod a gawsent,
10
a’r un ffunud ar Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, a oedd yn gyfranogion â Simon. A dywedodd Iesu wrth Simon, “Paid ag ofni; o hyn allan, ti fyddi’n dal dynion.”
11
Ac wedi dwyn y llongau i dir, gadawsant y cwbl a’i ddilyn ef.
12
A phan oedd ef yn un o’r dinasoedd, dyma ŵr yn llawn gwahanglwyf; ac wrth weled yr Iesu fe syrthiodd ar ei wyneb, a deisyf arno, gan ddywedyd: “Arglwydd, os mynni, ti elli fy nglanhau.”
13
Ac estynnodd ei law, a chyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, “Mynnaf, glanhaer di.” Ac yn ebrwydd ymadawodd y gwahanglwyf ag ef.
14
Yntau a orchmynnodd iddo na ddywedai wrth neb, “eithr dos ymaith a dangos dy hun i’r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad yn ôl fel yr ordeiniodd Moses, er tystiolaeth iddynt.”
15
Ond ymledodd fwyfwy y sôn amdano, ac ymgasglai tyrfaoedd lawer i wrando, ac i’w hiacháu o’u hafiechydon.
16
Âi yntau o’r neilltu yn y diffeithleoedd a gweddïo.
17
Ac un diwrnod yr oedd ef yn dysgu, ac yn eistedd yno yr oedd Phariseaid ac athrawon y gyfraith, a ddaethai o bob pentref yn Galilea ac Iwdea ac o Gaersalem; ac yr oedd iddo nerth yr Arglwydd i iacháu.
18
A dyma wŷr yn dwyn ar wely ddyn a oedd yn barlysedig, a cheisient ei ddwyn i mewn, a’i osod ger ei fron ef.
19
Ac wedi methu canfod pa ffordd y dygent ef i mewn oherwydd y dyrfa, esgynasant hyd ar nen y tŷ, a thrwy’r priddlechau gollyngasant ef gyda’r gwely i’r canol o flaen yr Iesu.
20
Ac wrth weled eu ffydd hwynt fe ddywedodd, “Ddyn, maddeuwyd i ti dy bechodau.”
21
A dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid feddwl a dywedyd, “Pwy yw hwn sy’n siarad cableddau? Pwy all faddau pechodau ond Duw yn unig?”
22
A phan wybu’r Iesu eu meddyliau hwynt, atebodd iddynt, “Beth a feddyliwch yn eich calonnau?
23
Beth sydd hawsaf, ai dywedyd ‘Maddeuwyd i ti dy bechodau,’ ai dywedyd ‘Cyfod a rhodia’?
24
Ond fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau — ” eb ef wrth y parlysedig, “Wrthyt ti y dywedaf, Cyfod, a chymer dy wely, a dos adref.”
25
Ac ar unwaith fe safodd i fyny ger eu bron, a chodi’r hyn y gorweddai arno, a mynd adref gan ogoneddu Duw.
26
A syfrdandod a ddaeth ar bawb, a gogoneddent Dduw, a llanwyd hwynt o ofn, a dywedasant, “Gwelsom bethau anhygoel heddiw.”
27
Ac ar ôl y pethau hyn, aeth allan a chanfu drethwr o’r enw Lefi yn eistedd wrth y dollfa, a dywedodd wrtho, “Dilyn fi.”
28
Ac fe adawodd bopeth, a chododd, a’i ddilyn ef.
29
A gwnaeth Lefi wledd fawr iddo yn ei dŷ; ac yr oedd tyrfa fawr o drethwyr, ac o rai eraill a oedd gyda hwynt, yn eistedd wrth y bwrdd.
30
A grwgnachai’r Phariseaid a’u hysgrifenyddion wrth ei ddisgyblion, gan ddywedyd, “Paham y bwytewch ac yr yfwch gyda’r trethwyr a’r pechaduriaid?”
31
Ac atebodd yr Iesu iddynt, “Nid rhaid i’r rhai iach wrth feddyg, ond i’r rhai gwael.
32
Ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifeirwch.”
33
Dywedasant hwythau wrtho, “Y mae disgyblion Ioan yn ymprydio’n fynych; ac yn arfer gweddïau, felly hefyd rhai’r Phariseaid, ond mae dy rai di’n bwyta ac yn yfed.”
34
A dywedodd yr Iesu wrthynt, “A ellwch chwi wneuthur i westeion y briodas ymprydio tra fo’r priodfab gyda hwynt?
35
Ond fe ddaw dyddiau, a phan ddygir y priodfab oddi wrthynt, yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny.”
36
Dywedodd hefyd ddameg wrthynt, “Ni thyr neb glwt allan o ddilledyn newydd a’i osod ar hen ddilledyn; onid e, fe fydd yn torri’r newydd, a hefyd ni bydd y clwt allan o’r newydd yn cydweddu â’r hen.
37
Ac ni rydd neb win newydd mewn crwyn hen; onid e, fe rwyga’r gwin newydd y crwyn, ac yntau a red allan a’r crwyn a ddifethir.
38
Ond rhaid rhoi gwin newydd mewn crwyn newydd.
39
Ac nid oes neb wedi iddo yfed hen win yn chwennych newydd; canys, fe ddywed, ‘Yr hen sy dda’;”
← Chapter 4
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 6 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24