bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Luke 12
Luke 12
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 13 →
1
Yn y cyfamser, a’r bobl wedi ymgasglu yn eu miloedd nes sathru ar ei gilydd, dechreuodd ddywedyd wrth ei ddisgyblion yn gyntaf, “Ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid, sef rhagrith.
2
Nid oes dim cuddiedig nas datguddir, na dirgel nas gwybyddir.
3
Am hynny popeth a ddywedasoch yn y tywyllwch, clywir ef yn y goleuni, ac a lefarasoch i’r glust yn yr ystafelloedd, cyhoeddir ef ar bennau’r tai.
4
Meddaf i chwi fy nghyfeillion, nac ofnwch rhag y rhai a ladd y corff ac wedyn ni allant wneuthur dim rhagor.
5
Mi ddangosaf i chwi pwy yr ydych i’w ofni; ofnwch yr hwn wedi iddo ladd sydd ganddo awdurdod i fwrw i Gehenna; ie, meddaf i chwi, hwnnw a ofnwch.
6
Oni werthir pump aderyn to am ddwy ffyrling? Ac nid oes un ohonynt yn angof gan Dduw.
7
Ond y mae hyd yn oed gwallt eich pen wedi eu rhifo bob un; peidiwch ag ofni; amgenach ydych na llawer o adar to.
8
Meddaf i chwi, pob un a’m harddelo i yng ngŵydd dynion, Mab y dyn hefyd a’i harddel yntau yng ngŵydd angylion Duw;
9
ond y neb a’m gwado i gerbron dynion, gwedir yntau gerbron angylion Duw.
10
A phawb a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe faddeuir iddo; ond i’r hwn a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni faddeuir.
11
Pan ddygont chwi gerbron y synagogau a’r llywodraethwyr a’r awdurdodau, na phryderwch pa fodd yr amddiffynnwch eich hunain, neu beth a ddywedwch;
12
canys yr Ysbryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr honno beth a ddylech ei ddywedyd.”
13
Dywedodd un o’r dyrfa wrtho, “Athro, dywed wrth fy mrawd am rannu’r etifeddiaeth gyda mi.”
14
Dywedodd yntau wrtho, “Ddyn, pwy a’m gosododd i yn farnwr neu’n ddosbarthwr arnoch chwi?”
15
A dywedodd wrthynt, “Edrychwch a gwyliwch rhag pob trachwant, canys nid yn yr helaethrwydd sydd i neb y mae ei fywyd, nid o’r pethau a, fedd.”
16
A thraethodd ddameg wrthynt, gan ddywedyd, “Tir rhyw ddyn cyfoethog a gnydiodd yn dda,
17
Ac ymresymai ynddo’i hun, gan ddywedyd, ‘Beth a wnaf, gan nad oes gennyf le i gasglu fy ffrwythau?’
18
Ac meddai, ‘Hyn a wnaf: mi dynnaf fy ysguboriau i lawr, a rhai mwy a adeiladaf, a chasglaf yno fy holl ŷd a’m da,
19
a dywedaf wrth fy enaid, Enaid, y mae gennyt lawer o dda wedi ei ystorio dros flynyddoedd lawer; gorffwys, bwyta, yf, bydd lawen.’
20
Ond dywedodd Duw wrtho, ‘Ynfytyn! heno gofynnant dy enaid gennyt; a’r hyn a baratoaist, ai i bwy y bydd?’
21
Felly’r neb a drysoro iddo’i hun, ac nid yw’n gyfoethog i Dduw.”
22
Dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Am hynny meddaf i chwi, na phryderwch am eich bywyd, beth a fwytewch, nac am eich corff, beth a wisgwch.
23
Canys y mae’r bywyd yn fwy na’r bwyd, a’r corff na’r wisg.
24
Sylwch ar y brain; nid ydynt yn hau nac yn medi, ac nid oes iddynt ystordy nac ysgubor, ac eto y mae Duw yn eu porthi. Gymaint amgenach ydych chwi na’r adar!
25
A phwy ohonoch drwy bryderu a ddichon chwanegu at hyd ei einioes hanner llath?
26
Felly, oni ellwch hyd yn oed y lleiaf oll, paham y pryderwch am y rhelyw?
27
Sylwch ar y liliau pa fodd nad ydynt yn nyddu nac yn gwau; ond meddaf i chwi, hyd yn oed Solomon yn ei holl ogoniant nid ymwisgodd fel un o’r rhain.
28
Ac os dillada Duw felly’r gwellt sydd heddiw yn y maes, ac yfory a fwrir i’r ffwrn, pa faint mwy chwychwi, O rai bychain eu ffydd?
29
Ac na cheisiwch chwi beth a fwytewch neu beth a yfwch, ac na chynhyrfwch;
30
canys yr holl bethau hyn y mae cenhedloedd y byd yn eu ceisio, ond gŵyr eich Tad fod arnoch chwithau eisiau’r pethau hyn.
31
Eithr ceisiwch ei deyrnas ef, a’r pethau hyn a roddir i chwi’n ychwaneg.
32
Nac ofna, braidd bychan, canys gwelodd eich Tad yn dda roddi i chwi’r deyrnas.
33
Gwerthwch eich eiddo, a rhowch elusen; gwnewch i chwi byrsau na heneiddiant, trysor anniflanedig yn y nefoedd, lle ni ddaw lleidr yn agos, ac ni ddifetha gwyfyn;
34
canys lle mae eich trysor, yno y bydd eich calon hefyd.
35
Bydded eich lwynau chwi wedi eu hymwregysu a’ch canhwyllau yn llosgi,
36
a chwithau yn debyg i ddynion yn disgwyl eu harglwydd, pa bryd y dychwel o’r neithior, fel pan ddêl a churo yr agoront iddo yn union.
37
Gwyn eu byd y gweision hynny, a gaiff eu harglwydd, pan ddêl, yn effro; yn wir, meddaf i chwi, fe ymwregysa a pheri iddynt eistedd wrth y bwrdd, a daw a gweini arnynt.
38
Ac os ar yr ail neu ar y drydedd wyliadwriaeth y daw, a’u cael felly, gwyn eu byd y rhain.
39
Gwybyddwch hyn: pe gwybuasai’r pen teulu pa awr y deuai’r lleidr, buasai’n effro, ac ni adasai gloddio’i dŷ trwodd.
40
A chwithau, byddwch barod, canys yr awr ni thybioch y daw Mab y Dyn.”
41
Dywedodd Pedr, “Arglwydd, ai amdanom ni y dywedi’r ddameg hon, ai yntau am bawb?”
42
A dywedodd yr Arglwydd, “Pwy, tybed, yw’r goruchwyliwr ffyddlon, pwyllog, a esyd yr arglwydd dros ei deulu i roddi’r dogn bwyd yn ei bryd?
43
Gwyn ei fyd y gwas hwnnw, y caiff ei arglwydd, pan ddêl, ei fod yn gwneuthur felly;
44
dywedaf wrthych yn wir, fe’i gesyd ef dros ei holl eiddo.
45
Ond os dywed y gwas hwnnw yn ei galon, ‘Mae f’arglwydd yn oedi dyfod,’ a dechrau curo’r gweision a’r morynion, a bwyta ac yfed a meddwi,
46
fe ddaw arglwydd y gwas hwnnw ar ddydd nad yw’n disgwyl ac ar awr nad yw’n gwybod, a’i dorri’n ddau, ai rifo gyda’r anffyddloniaid.
47
Y gwas hwnnw, a wybu ewyllys ei arglwydd heb hwylio i wneud yn ôl ei ewyllys, a gaiff wialenodiau lawer;
48
ond yr hwn ni wybu, ac a wnaeth bethau’n haeddu curfa, a gaiff ychydig. Pob un y rhoddwyd llawer iddo, llawer a ofynnir ganddo, a’r neb yr ymddiriedasant lawer iddo, mwy a geisiant ganddo.
49
Tân a ddeuthum i’w fwrw ar y ddaear; a balched fuaswn pes cyneuasid eisoes!
50
Mae gennyf fedydd i’m bedyddio ag ef; ac mor gyfyng yw arnaf hyd onis gorffenner!
51
A dybiwch mai tangnefedd a ddeuthum i’w roddi ar y ddaear? Nag e, meddaf i chwi, ond ymraniad.
52
Canys bydd o hyn allan bump mewn un tŷ wedi ymrannu, tri yn erbyn dau a dau yn erbyn tri;
53
ymranna tad yn erbyn mab a mab yn erbyn tad, mam yn erbyn merch a merch yn erbyn ei mam, chwegr yn erbyn ei gwaudd a gwaudd yn erbyn ei chwegr.”
54
Ac meddai wrth y tyrfaoedd, “Pan welwch gwmwl yn codi yn y gorllewin, yn y fan chwi ddywedwch, ‘Mae cawod yn dyfod’; ac felly y bydd.
55
A phan glywch ddeheuwynt yn chwythu, chwi ddywedwch, ‘Mae hi am wres’; ac fe fydd.
56
Ragrithwyr, gwyddoch sut i farnu wyneb y ddaear a’r awyr; pa fodd na ddeallwch y cyfnod hwn?
57
Paham hyd yn oed ohonoch eich hunain na fernwch yn deg?
58
Pan ei o flaen ynad gyda’th wrthwynebwr, gwna dy orau ar y ffordd i gael gwared ohono, rhag iddo dy lusgo di gerbron y barnwr; a’r barnwr a’th draddoda di i’r rhingyll, a’r rhingyll a’th fwrw di yng ngharchar.
59
Meddaf i ti, ni ddoi di ddim allan oddi yno nes iti dalu’r hatling eithaf.”
← Chapter 11
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 13 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24