bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Luke 21
Luke 21
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 22 →
1
A chododd ei lygaid, a gwelodd y cyfoethogion, a oedd yn cyfrannu eu rhoddion i’r drysorfa.
2
A gwelodd ryw weddw dlawd yn cyfrannu yno ddwy hatling;
3
a dywedodd, “Dywedaf wrthych yn wir, y weddw dlawd hon, mwy a gyfrannodd na phawb;
4
canys y rhain oll, o’u gweddill y cyfranasant at y rhoddion; ond hon o’i phrinder a gyfrannodd y cwbl a oedd ganddi at ei byw.”
5
A phan oedd rhai’n dywedyd am y deml, ei bod wedi ei haddurno â meini teg a rhoddion,
6
fe ddywedodd, “Am y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, fe ddaw dyddiau pryd na adewir maen ar faen heb ei ddymchwel.”
7
Gofynasant iddo, “Athro, pa bryd, tybed, y bydd y pethau hyn, a beth fydd yr arwydd pan fo’r pethau hyn ar ddyfod?”
8
Dywedodd yntau, “Edrychwch na’ch twyller chwi; canys llawer a ddaw ar bwys fy enw i, a dywedyd ‘Myfi yw’ â ‘Nesaodd yr amser’; nac ewch ar eu hôl.
9
A phan glywoch am ryfeloedd a therfysgoedd, na ddychrynwch; canys rhaid i’r pethau hyn ddyfod yn gyntaf, eithr nid ar unwaith y daw’r diwedd.”
10
Yna meddai wrthynt, “Cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas,
11
bydd daeargrynfâu mawrion a phlâu a newynau mewn amryw leoedd, bydd dychrynfeydd ac arwyddion mawrion o’r nef.
12
Ond cyn y pethau hyn oll rhoddant eu dwylo arnoch, ac erlidiant chwi, gan eich traddodi i’r synagogau ac i garcharau, a’ch llusgo gerbron brenhinoedd a rhaglawiaid o achos fy enw i;
13
fe dry i chwi yn dystiolaeth.
14
Rhoddwch eich bryd, ynteu, ar beidio â pharatoi ymlaen llaw i’ch amddiffyn eich hunain;
15
canys rhoddaf i i chwi leferydd, a doethineb na fedr eich gwrthwynebwyr ei gwrthsefyll na’i gwrthddywedyd.
16
Bradychir chwi gan rieni a brodyr a cheraint a chyfeillion, a rhoddant rai ohonoch i farwolaeth,
17
a byddwch gas gan bawb oherwydd fy enw i.
18
Ac ni chollir un blewyn o’ch pen.
19
Trwy eich dioddefgarwch bydd i chwi ennill eich eneidiau.
20
Ond pan welwch amgylchu Caersalem gan fyddinoedd, y pryd hwnnw gwybyddwch fod ei difrod hi gerllaw.
21
Yna ffoed y rhai a fydd yn Iwdea i’r mynyddoedd, ac aed y rhai a fydd ynddi hi allan, ac nac aed y rhai a fydd yn y wlad i mewn iddi,
22
canys dyddiau dial yw’r rhain, i gyflawni’r cwbl sy’n ysgrifenedig.
23
Gwae’r rhai beichiog a’r rhai a ro’r fron yn y dyddiau hynny! Canys bydd cyni mawr ar y wlad, a digofaint ar y bobl hyn;
24
a syrthiant trwy fin cleddyf, a chaethgludir hwynt i’r holl genhedloedd, a bydd Caersalem yn fathredig gan genhedloedd, hyd oni chyflawner amserau’r cenhedloedd.
25
A bydd arwyddion yn yr haul a’r lloer a’r sêr, ac ar y ddaear ing cenhedloedd mewn cyfyng-gyngor gan ruad môr a thonnau,
26
dynion yn llewygu gan ofn a disgwyl y pethau sy’n dyfod ar y byd; canys nerthoedd y nefoedd a ysgydwir.
27
A’r pryd hwnnw y gwelant Fab y dyn yn dyfod mewn cwmwl gyda gallu a gogoniant mawr.
28
A phan ddechreuo’r pethau hyn ddyfod, ymsythwch a chodwch eich pennau, am fod eich ymwared yn nesáu.”
29
A dywedodd ddameg wrthynt, “Edrychwch ar y ffigysbren, a’r holl brennau;
30
pan fwriant weithian ddail, chwi welwch a gwyddoch ohonoch eich hunain fod yr haf bellach yn agos.
31
Felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fod teyrnas Dduw yn agos.
32
Yn wir meddaf i chwi, nid â’r genhedlaeth hon ddim heibio hyd oni ddigwyddo’r cwbl oll.
33
Y nef a’r ddaear ânt heibio, ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.
34
Ymogelwch rhag un amser i’ch calonnau gael eu llethu gan syrffed a meddwdod a gofalon bywyd, ac i’r dydd hwnnw ddyfod arnoch yn ddisymwth
35
fel magl; canys fe ddaw ar warthaf pawb sy’n trigo ar wyneb yr holl ddaear.
36
Byddwch effro, gan weddïo bob amser am gael nerth i ddianc rhag y pethau hyn oll sydd i ddigwydd, ac i sefyll gerbron Mab y dyn.”
37
Ac yr oedd yn dysgu yn y deml bob dydd, a phob nos âi allan a’i threulio ar y mynydd a elwir Olewydd.
38
A’r holl bobl a gyrchai ato yn fore i’w glywed yn y deml.
← Chapter 20
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 22 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24