bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Luke 6
Luke 6
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 7 →
1
A digwyddodd ar ryw Sabbath ei fod yn tramwy drwy feysydd ŷd, ac yr oedd ei ddisgyblion yn tynnu ac yn bwyta’r tywys, gan eu rhwbio â’u dwylo.
2
A dywedodd rhai o’r Phariseaid, “Paham y gwnewch yr hyn ni ddylid ar y Sabbath?”
3
Ac atebodd yr Iesu iddynt, “Oni ddarllenasoch yr hyn a wnaeth i Dafydd, pan ddaeth eisiau bwyd arno ef a’r rhai a oedd gydag ef?
4
y modd yr aeth i mewn i dŷ Dduw, a chymryd y torthau gosod, a’u bwyta, a’u rhoi i’r rhai a oedd gydag ef, pethau na ddylai neb eu bwyta ond yr offeiriaid yn unig?”
5
Ac meddai wrthynt, “Arglwydd y Sabbath yw Mab y dyn.”
6
A digwyddodd ar Sabbath arall iddo fyned i’r synagog a dysgu; ac yr oedd dyn yno, a’i law ddehau yn wywedig;
7
a gwyliai’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid ef, a iachâi ef ar y Sabbath, fel y caffent ei gyhuddo.
8
Ond gwyddai ef eu meddyliau hwynt, a dywedodd wrth y dyn a oedd â’i law’n wywedig, “Cyfod, a saf yn y canol”; ac fe gyfododd, a safodd.
9
A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Gofynnaf i chwi, a ddylid ar y Sabbath wneuthur da ai gwneuthur drwg, cadw einioes ai colli?”
10
Ac wedi syllu ogylch arnynt oll, dywedodd wrtho, “Estyn dy law.” Gwnaeth yntau, ac adferwyd ei law.
11
A llanwyd hwynt o wallgofrwydd, a siaradent â’i gilydd beth a wnaent i’r Iesu.
12
A digwyddodd yn y dyddiau hyn iddo fyned i’r mynydd i weddïo, ac yr oedd trwy gydol nos mewn gweddi ar Dduw.
13
A phan aeth hi yn ddydd, galwodd ei ddisgyblion ato, a detholodd ohonynt ddeuddeg, ac enwodd hwynt hefyd yn apostolion: Simon,
14
a enwodd hefyd yn Bedr, ac Andreas ei frawd, ac Iago, ac Ioan, a Phylip a Bartholomeus,
15
a Mathew a Thomas, ac Iago fab Alpheus, a Simon a elwid Selot,
16
ac Iwdas fab Iago, ac Iwdas Iscariot, a drodd yn fradwr.
17
A disgynnodd gyda hwynt, a safodd ar wastatir, ac yr oedd tyrfa fawr o’i ddisgyblion, a lliaws mawr o’r bobl o holl Iwdea a Chaersalem ac arfordir Tyrus a Sidon, a ddaethai i’w glywed ac i’w hiacháu o’u hanhwylderau;
18
ac iachawyd y sawl a flinid gan ysbrydion aflan.
19
A’r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd ag ef, am fod nerth yn myned allan ohono, ac yn iacháu pawb.
20
Ac yntau gan godi ei lygaid i edrych ar ei ddisgyblion a ddywedodd: “Gwyn eich byd y tlodion, canys eiddoch chwi yw teyrnas Dduw.
21
Gwyn eich byd sy’n newynu’n awr, canys chwi a ddiwellir. Gwyn eich byd sy’n wylo’n awr, canys chwi a chwerddwch.
22
Gwyn eich byd pan gasao dynion chwi, a phan esgymunont chwi, a’ch gwaradwyddo a bwrw allan eich enw fel peth drwg o achos Mab y dyn.
23
Byddwch lawen yn y dydd hwnnw, a llemwch; canys wele, eich gwobr sy fawr yn y nef; oblegid yr un modd y gwnâi eu tadau i’r proffwydi.
24
Eithr gwae chwi’r cyfoethogion, canys cawsoch eich diddanwch.
25
Gwae chwi sy’n llawn yn awr, canys daw newyn arnoch. Gwae chwi sy’n chwerthin yn awr, canys galaru ac wylo y byddwch.
26
Gwae chwi pan ddywedo pob dyn yn dda amdanoch, canys yr un modd y gwnâi eu tadau i’r gau-broffwydi.
27
Eithr dywedaf wrthych chwi sy’n gwrando, Cerwch eich gelynion, gwnewch dda i’ch caseion,
28
bendithiwch eich melltithwyr, gweddïwch dros y rhai a’ch sarhânt.
29
I’r neb a’th drawo ar dy gern cynnig hefyd y llall, ac i’r neb a ddygo dy fantell na warafun dy grysbais hefyd.
30
I bob un a geisio gennyt, dyro; a chan y neb a ddygo’r eiddot, na chais yn ôl.
31
Ac fel y mynnoch wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch iddynt yr un ffunud.
32
Ac os cerwch y rhai a’ch câr, pa ddiolch sydd i chwi? canys y mae hyd yn oed y pechaduriaid yn caru’r rhai a’u câr.
33
Ie, ac os gwnewch dda i’r rhai a wna dda i chwi, pa ddiolch sydd i chwi? y mae hyd yn oed y pechaduriaid yn gwneuthur yr un peth.
34
Ac os rhowch fenthyg i’r rhai y disgwyliwch gael ganddynt, pa ddiolch sydd i chwi? y mae hyd yn oed bechaduriaid yn rhoi benthyg i bechaduriaid er mwyn cael yr un faint yn ôl.
35
Yn hytrach, cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a rhowch fenthyg heb ddisgwyl dim yn ôl; a bydd eich gwobr yn helaeth, a byddwch yn feibion y Goruchaf, canys tirion yw ef wrth yr anniolchgar a’r drwg.
36
Byddwch dosturiol, megis y mae eich Tad yn dosturiol.
37
Ac na fernwch, ac ni’ch bernir ddim; ac na chondemniwch, ac ni’ch condemnir ddim. Maddeuwch, a maddeuir i chwi.
38
Rhoddwch, a rhoddir i chwi; mesur da, wedi ei wasgu i lawr, a’i ysgwyd, ac yn colli drosodd, a roddant yn eich arffed; canys â’r mesur y mesuroch yr adfesurir i chwi.”
39
A dywedodd hefyd ddameg wrthynt, “A ddichon dall dywys dall? oni syrthiant ill dau i bwll?
40
Nid yw disgybl uwchlaw yr athro; ond wedi ei gymhwyso, bydd pob un fel ei athro.
41
A pham y sylwi ar y fflewyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ystyri’r trawst sydd yn dy lygad dy hun?
42
Pa fodd y medri ddywedyd wrth dy frawd, ‘Fy mrawd, gad i mi dynnu’r fflewyn sydd yn dy lygad,’ a thithau heb sylwi ar y trawst sydd yn dy lygad di? Y rhagrithiwr, tyn yn gyntaf y trawst o’th lygad, ac yna y gweli’n glir i dynnu’r fflewyn sydd yn llygad dy frawd.
43
Canys nid yw pren da yn dwyn ffrwyth sâl, na thrachefn bren sâl yn dwyn ffrwyth da.
44
Canys pob pren a adweinir wrth ei ffrwyth ei hun; canys nid oddi ar ddrain y casglant ffigys, nac oddi ar lwyn mieri yr heliant rawnwin.
45
Y dyn da o drysor da ei galon a gynhyrcha’r da, a’r drwg o’r drwg a gynhyrcha’r drwg; canys o orlawnder calon y llefara ei enau.
46
Paham y gelwch fi Arglwydd, Arglwydd, ac ni wnewch y pethau a ddywedaf?
47
Pob un sy’n dyfod ataf, ac yn gwrando fy ngeiriau, ac yn eu gwneuthur, mi ddangosaf i chwi i bwy y mae’n debyg.
48
Tebyg yw i ddyn yn adeiladu tŷ; cloddiodd, ac aeth yn ddwfn, a gosododd sylfaen ar y graig; a phan ddaeth rhyferthwy, curodd y llifeiriant ar y tŷ hwnnw, ac ni allodd ei ysgwyd, gan mor dda yr adeiladesid ef.
49
Ond y neb a wrendy ac ni wna, tebyg yw i ddyn a adeiladodd dŷ ar y ddaear heb sylfaen; curodd y llifeiriant arno, ac yn y fan cwympodd, a bu chwalfa’r tŷ hwnnw’n fawr.”
← Chapter 5
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 7 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24