bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Luke 11
Luke 11
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 12 →
1
A digwyddodd, pan oedd ef mewn rhyw fan yn gweddïo, wedi iddo orffen, i un o’i ddisgyblion ddywedyd wrtho, “Arglwydd, dysg i ni weddïo, fel y dysgodd Ioan i’w ddisgyblion yntau.”
2
A dywedodd wrthynt, “Pan weddïoch, dywedwch, O Dad, santeiddier dy enw; deled dy deyrnas;
3
ein bara beunyddiol rho i ni o ddydd i ddydd;
4
a maddau i ni ein pechodau, canys yr ydym ni yn maddau i bawb sydd yn ein dyled; ac na ddwg ni i demtasiwn.”
5
A dywedodd wrthynt, “Pwy ohonoch fydd ganddo gyfaill, ac a â ato ganol nos, a dywedyd wrtho, ‘Gyfaill, rho’n fenthyg dair torth i mi,
6
achos daeth cyfaill ataf ar ei daith, ac nid oes gennyf ddim i’w osod o’i flaen’;
7
ac yntau’n ateb tu mewn, a dywedyd, ‘Paid â’m poeni; erbyn hyn y mae’r drws wedi ei gloi, ac y mae fy mhlant gyda mi yn y gwely; ni allaf godi a rhoi i ti.’
8
Dywedaf i chwi, hyd yn oed er na chyfyd a rhoddi iddo am ei fod yn gyfaill iddo, eto oherwydd ei daerineb fe gyfyd, a rhoi iddo gymaint ag a fo arno’i eisiau.
9
Ac yr wyf i’n dywedyd wrthych, Gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, a chwi gewch; curwch, ac fe agorir i chwi.
10
Canys pawb a ofyn a dderbyn, a’r neb a gais a gaiff, ac i’r neb a gura yr agorir.
11
Pa un ohonoch, sy’n dad, a’i fab yn gofyn iddo am bysgodyn, a ddyry iddo sarff yn lle pysgodyn?
12
neu yn gofyn am wy, a ddyry iddo sgorpion?
13
Os chwi, ynteu, a chwithau’n ddrwg, a wyddoch sut i roi rhoddion da i’ch plant, pa faint mwy y rhydd y Tad o’r nef yr Ysbryd Glân i’r rhai a ofyn iddo?”
14
Ac yr oedd yn bwrw allan gythraul, a oedd yn fud; ac wedi i’r cythraul fyned allan, llefarodd y mudan. A rhyfeddodd y tyrfaoedd;
15
ond dywedodd rhai ohonynt, “Trwy Feelsebwl, pennaeth y cythreuliaid, y mae’n bwrw allan y cythreuliaid.”
16
Ac eraill, i’w brofi, a geisiai arwydd o’r nef ganddo.
17
Yntau, yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, “Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun a anghyfaneddir, a thŷ yn erbyn tŷ a syrth.
18
Ac os Satan yntau a ymrannodd yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas? — gan eich bod yn dywedyd mai trwy Feelsebwl yr wyf yn bwrw allan y cythreuliaid.
19
Os trwy Feelsebwl y bwriaf i’r cythreuliaid allan, trwy bwy y bwrw eich meibion chwi hwynt allan? Am hynny hwy a fydd farnwyr arnoch.
20
Ond os trwy fys Duw y bwriaf fi’r cythreuliaid allan, yna daeth teyrnas Dduw arnoch.
21
Pan fo’r cryf arfog yn gwarchod ei gyntedd, y mae ei eiddo yn cael llonydd;
22
ond pan ddêl ei gryfach yn ei erbyn a’i orchfygu, fe gymer ymaith ei arfogaeth, yr ymddiriedai ynddi, a rhannu ei arfau.
23
Y neb nid yw gyda mi, yn fy erbyn y mae, a’r neb nid yw’n casglu gyda mi sy’n gwasgaru.
24
Pan êl ysbryd aflan allan o ddyn, fe grwydra drwy leoedd sychion gan geisio egwyl, a chan nad yw’n ei chael, fe ddywed, ‘Dychwelaf i’m tŷ y deuthum allan ohono’;
25
ac wedi dyfod fe’i caiff yn lân ac yn ddestlus.
26
Yna yr â, ac y cymer ysbrydion eraill gwaeth nag ef ei hun, saith ohonynt, ac ânt i mewn a chartrefant yno; ac y mae diwedd y dyn hwnnw yn waeth na’i ddechreuad.”
27
A darfu, pan oedd ef yn dywedyd y pethau hyn, i ryw wraig o’r dyrfa godi ei llais, a dywedyd wrtho, “Gwyn ei byd y groth a’th ddug, a’r bronnau a sugnaist.”
28
Dywedodd yntau, “Ie, ond yn hytrach gwyn eu byd y rhai a wrendy air Duw, ac a’i ceidw.”
29
A’r tyrfaoedd yn ymdyrru ato, dechreuodd ddywedyd, “Cenhedlaeth ddrwg yw’r genhedlaeth hon; y mae’n ceisio arwydd, ac arwydd nis rhoddir iddi onid arwydd Ionas.
30
Canys fel y bu Ionas yn arwydd i’r Ninefeaid, felly y bydd Mab y dyn yntau i’r genhedlaeth hon.
31
Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyda gwŷr y genhedlaeth hon ac a’u condemnia; canys hi ddaeth o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon, ac wele fwy na Solomon yma.
32
Gwŷr o Ninefeaid a saif i fyny yn y farn gyda’r genhedlaeth hon, ac a’i condemnia; canys edifarhasant wrth bregeth Ionas, ac wele fwy nag Ionas yma.
33
Ni oleua neb gannwyll a’i dodi mewn seler nac o dan gelwrn ond ar y canhwyllbren, er mwyn i’r rhai a ddêl i mewn weled y golau.
34
Cannwyll y corff yw dy lygad; pan fo dy lygad yn iach, dy holl gorff sydd yn olau; Ond os bydd yn ddrwg, dy gorff a fydd yn dywyll.
35
Edrych, ynteu, a yw’r goleuni sydd ynot yn dywyllwch.
36
Gan hynny, os yw dy gorff i gyd yn olau, heb un rhan yn dywyll, bydd yn olau i gyd, fel pan fo’r gannwyll â’i llewyrch yn dy oleuo di.”
37
Wedi iddo lefaru, gofyn Pharisead iddo giniawa gydag ef; aeth i mewn ac at y bwrdd.
38
A rhyfeddodd y Pharisead wrth weled nad ymolchodd yn gyntaf cyn cinio.
39
Ond dywedodd yr Arglwydd wrtho, “Yn awr yr ydych chwi’r Phariseaid yn glanhau’r tu allan i’r cwpan a’r ddysgl; ond y tu mewn i chwi sydd lawn o ladrad a drygioni.
40
Ynfydion! onid yr hwn a wnaeth y tu allan a wnaeth y tu mewn hefyd?
41
Eithr, parthed y pethau tu mewn, rhowch elusen, a dyna’r cwbl yn lân gennych.
42
Ond gwae chwi’r Phariseaid, am eich bod yn degymu’r mintys a’r ryw a phob llysieuyn, ac yn troseddu yn erbyn barn a chariad Duw; dylid gwneuthur y naill, heb esgeuluso’r lleill.
43
Gwae chwi’r Phariseaid, am eich bod yn caru’r brif gadair yn y synagogau a’r cyfarchiadau yn y marchnadoedd.
44
Gwae chwi, am eich bod fel y beddau sydd o’r golwg, a’r dynion a gerddo drostynt ni wyddant amdanynt.”
45
Atebodd un o’r cyfreithwyr iddo, “Athro, wrth ddywedyd y pethau hyn yr wyt yn ein sarhau ninnau hefyd.”
46
Dywedodd yntau, “Gwae chwithau’r cyfreithwyr, am eich bod yn beichio dynion â beichiau annioddefol, ac ni chyffyrddwch eich hunain â’r beichiau ag un o’ch bysedd.
47
Gwae chwi, am eich bod yn adeiladu beddau’r proffwydi, a’ch tadau chwi wedi eu lladd hwynt.
48
Yn wir, tystiolaethwch, a bodlonwch i weithredoedd eich tadau, — hwy yn lladd, a chwithau’n adeiladu.
49
Am hynny y dywedodd Doethineb Duw, Anfonaf atynt broffwydi ac apostolion, a rhai ohonynt a laddant ac a erlidiant,
50
fel yr ymofynned gan y genhedlaeth hon am waed yr holl broffwydi a dywalltwyd o seiliad y byd,
51
o waed Abel hyd waed Sacharïas, a laddwyd thwng yr allor a’r Tŷ. Ie, meddaf i chwi, ymofynnir amdano gan y genhedlaeth hon.
52
Gwae chwi’r cyfreithwyr, am i chwi ddwyn allwedd gwybodaeth; nid aethoch i mewn eich hunain, a’r rhai oedd yn ceisio myned i mewn a ataliasoch.”
53
Ac wedi iddo fyned ymaith oddi yno, dechreuodd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid fod yn ddig aruthr wrtho, a’i dynnu i lefaru ar lawer pwnc,
54
gan gynllwyn yn ei erbyn i ddal rhywbeth o’i enau.
← Chapter 10
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 12 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24