bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Luke 14
Luke 14
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 15 →
1
A phan aeth ef i dŷ un o’r penaethiaid ymhlith y Phariseaid ar y Sabbath i fwyta bara, yr oeddent hwy yn ei wylied ef.
2
Ac wele ger ei fron ryw ddyn a oedd yn glaf o’r dyfrglwyf.
3
Ac atebodd yr Iesu, a dywedyd wrth y cyfreithwyr a’r Phariseaid, “Ai rhydd iacháu ar y Sabbath, ai nid yw?”
4
Tewi a wnaethant hwythau. Gafaelodd yntau ynddo a’i iacháu, a’i ollwng ymaith.
5
A dywedodd wrthynt, “Pwy ohonoch chwi y syrth mab neu ych iddo i bydew, ac nis tyn ef i fyny yn ebrwydd ar y dydd Sabbath?”
6
Ac ni allasant roi ateb i hyn.
7
A dywedodd ddameg i’r gwahoddedigion, wrth sylwi pa fodd yr oeddent yn dewis y prif seddau,
8
gan ddywedyd wrthynt, “Pan wahodder di gan rywun i neithior, nac eistedd yn y brif sedd, rhag ofn bod un anrhydeddusach na thi wedi ei wahodd ganddo,
9
ac i’r hwn a’th wahoddodd di ac yntau ddyfod a dywedyd wrthyt, ‘Rho le i hwn,’ ac yna i tithau fynd a chymryd gyda chywilydd y lle isaf.
10
Ond pan wahodder di, dos ac eistedd yn y lle isaf, fel, pan ddêl yr hwn a’th wahoddodd, y dywedo wrthyt, ‘Gyfaill, tyrd i fyny’n uwch’; yna bydd iti glod yng ngŵydd pawb sy’n cyd-eistedd â thi.
11
Canys pob un sydd yn ei ddyrchafu ei hun a ostyngir, a’r neb sydd yn ei ostwng ei hun a ddyrchefir.”
12
Ac meddai hefyd wrth yr hwn a’i gwahoddodd, “Pan wnelych ginio neu swper, paid â galw dy gyfeillion na’th frodyr na’th geraint na chymdogion cyfoethog, rhag iddynt hwythau yn eu tro dy wahodd di, ac i tithau gael ad-daliad.
13
Ond pan wnelych wledd, galw dlodion, efryddion, cloffion, deillion;
14
a dedwydd fyddi, am nad oes ganddynt fodd i dalu’n ôl i ti; canys telir yn ôl i ti yn atgyfodiad y rhai cyfiawn.”
15
Pan glywodd un o’r rhai oedd yn cyd-eistedd y pethau hyn, fe ddywedodd wrtho, “Gwyn ei fyd y neb a fwytao fara yn nheyrnas Dduw.”
16
Dywedodd yntau wrtho, “Yr oedd rhyw ddyn yn gwneuthur swper mawr, a gwahoddodd lawer;
17
a danfonodd ei was ar awr y swper i ddywedyd wrth y gwahoddedigion, ‘Deuwch, canys y mae’n awr yn barod.’
18
A dechreuasant bawb yn unfryd ymesgusodi. Dywedodd y cyntaf wrtho, ‘Prynais faes, ac y mae’n rhaid i mi fynd a’i weled; atolwg, cymer fi’n esgusodol.’
19
A dywedodd un arall, ‘Prynais bum iau o ychen, ac yr wyf yn mynd i’w profi; atolwg, cymer fi’n esgusodol.’
20
A dywedodd un arall, ‘Priodais wraig, ac am hynny ni allaf ddyfod.’
21
A daeth y gwas, a mynegi hyn i’w arglwydd. Yna ffromodd gŵr y tŷ, a dywedodd wrth ei was, ‘Dos allan ar frys i heolydd a strydoedd y ddinas, a dwg yma’r tlodion a’r efryddion a’r deillion a’r cloffion.’
22
A dywedodd y gwas, ‘Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchmynnaist, ac eto y mae lle.’
23
A dywedodd yr arglwydd wrth y gwas, ‘Dos allan i’r ffyrdd a’r caeau, a chymell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhŷ.’
24
Canys dywedaf i chwi na chaiff yr un o’r gwŷr hynny a wahoddwyd brofi o’m swper i.”
25
Yr oedd tyrfaoedd lawer yn cyd-deithio ag ef, a throes a dywedodd wrthynt,
26
“Os yw neb yn dyfod ataf i, ac nid yw’n casáu ei dad a’i fam a’i wraig a’i blant a’i frodyr a’i chwiorydd, ie, a’i fywyd ei hun, ni all fod yn ddisgybl i mi.
27
Y neb nid yw’n dwyn ei groes ac yn dyfod ar fy ôl i, ni all fod yn ddisgybl i mi.
28
Canys pwy ohonoch, a chanddo chwant adeiladu tŵr, nid eistedd yn gyntaf, a chyfrif y draul, a oes ganddo ddigon i’w ddibennu?
29
Rhag ofn, wedi iddo osod sylfaen a heb allu gorffen, i bawb a’i gwêl ddechrau ei watwar,
30
a dywedyd, ‘Dechreuodd y dyn hwn adeiladu, ac ni allodd orffen.’
31
Neu pa frenin, ar ei hynt i ymladd brwydr yn erbyn brenin arall, nid eistedd yn gyntaf, ac ymgynghori a all ef â deng mil wynebu’r hwn sy’n dyfod yn ei erbyn ag ugain mil?
32
Onid e, ac yntau eto ymhell, fe enfyn genhadau i ofyn am heddwch.
33
Felly, ynteu, pob un ohonoch chwithau nid ymadawo â’i holl eiddo, ni all fod yn ddisgybl i mi.
34
Da, yn wir, yw’r halen; Ond os cyll yr halen yntau ei rin, â pha beth y rhoir blas arno?
35
Nid yw’n addas nac i’r tir nac i’r domen; allan y bwriant ef. Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.”
← Chapter 13
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 15 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24