bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Luke 9
Luke 9
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 10 →
1
Wedi: iddo alw’r deuddeg ynghyd, rhoes iddynt allu ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid ac i iacháu clefydon,
2
ac anfonodd hwynt i gyhoeddi teyrnas Dduw ac i iacháu;
3
a dywedodd wrthynt, “Na chymerwch ddim ar gyfer y daith, na ffon na chod na bara nac arian, ac na fydded gennych ddwy grysbais.
4
Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, arhoswch yno, ac oddi yno ymadewch.
5
A pha rai bynnag ni’ch derbyniont, wrth ymadael o’r ddinas honno ysgydwch ymaith y llwch oddi ar eich traed er tystiolaeth yn eu herbyn.”
6
Ac aethant ymaith, a mynd drwy’r pentrefydd gan gyhoeddi’r newyddion da ac iacháu ym mhob man.
7
Clywodd Herod y tetrarch am yr holl bethau a oedd yn digwydd, ac yr oedd mewn penbleth am fod rhywrai’n dywedyd gyfodi o Ioan o feirw, a rhai mai Elïas a ymddangosodd,
8
ac eraill mai un o’r hen broffwydi a atgyfododd.
9
Dywedodd Herod, “Pen Ioan a dorrwyd gennyf i; pwy, ynteu, yw hwn y clywaf y cyfryw bethau amdano?” A cheisiai ei weled ef.
10
A dychwelodd yr apostolion, ac adrodd iddo y cwbl a wnaethant. A chymerth hwynt a chilio o’r neilltu i ddinas a elwid Bethsaida.
11
Ond gwybu’r tyrfaoedd, a’i ddilyn ef. A chroesawodd hwynt, a llefaru wrthynt am deyrnas Dduw, ac iacháu y rhai yr oedd eisiau meddyginiaeth arnynt.
12
A dechreuodd y dydd ballu; a daeth y deuddeg ato; a dywedyd wrtho, “Gollwng y dyrfa, fel yr elont i’r pentrefydd a’r wlad oddi amgylch i letya a chael lluniaeth, canys yr ydym yma mewn lle anghyfannedd.”
13
Dywedodd yntau wrthynt, “Rhowch chwi iddynt beth i’w fwyta.” Dywedasant hwythau; “Nid oes gennym ni fwy na phum torth a dau bysgodyn, heb i ni fynd a phrynu bwyd i’r holl bobl hyn.”
14
Canys yr oeddent tua phum mil o wŷr. Dywedodd wrth ei ddisgyblion, “Perwch iddynt eistedd i lawr yn finteioedd, tua hanner cant yr un.”
15
A gwnaethant felly, a pheri i bawb eistedd i lawr.
16
Wedi iddo gymryd y pum torth a’r ddau bysgodyn, edrychodd i fyny i’r nef a bendithiodd hwynt a’u torri a’u rhoddi i’r disgyblion i’w gosod o flaen y dyrfa.
17
A bwytasant, a, diwallwyd hwynt oll; a chodwyd o’r hyn a weddillasid iddynt o friwfwyd ddeuddeg basgedaid.
18
A digwyddodd, ac yntau yn gweddïo o’r neilltu, fod ei ddisgyblion gydag ef, ac fe ofynnodd iddynt, “Pwy medd y tyrfaoedd ydwyf i?”
19
Atebasant hwythau, “Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elïas, ac eraill mai un o’r hen broffwydi a atgyfododd.”
20
Dywedodd wrthynt, “Ond chwi, pwy meddwch chwi ydwyf?” Atebodd Pedr, “Crist Duw.”
21
Rhybuddiodd yntau hwynt, a gorchymyn na ddywedent hyn wrth neb;
22
a dywedodd, “Rhaid i Fab y dyn ddioddef llawer, a’i wrthod gan yr henuriaid a’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a’i ladd, a’r trydydd dydd ei gyfodi.”
23
Ac meddai wrth bawb, “Os myn neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes beunydd, a dilyned fi.
24
Canys pwy bynnag a fynno gadw ei fywyd, fe’i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei fywyd er fy mwyn i, hwnnw a’i ceidw.
25
Canys pa faint gwell yw dyn o ennill yr holl fyd, a’i golli ei hun, neu ei golledu ei hun?
26
Canys pwy bynnag y bo arno gywilydd ohonof i ac o’m geiriau, bydd ar Fab y dyn gywilydd ohono yntau pan ddêl yn ei ogoniant a gogoniant ei Dad a’r angylion santaidd.
27
Dywedaf wrthych yn wir, y mae rhai o’r sawl sy’n sefyll yma na phrofant flas angau nes gweled teyrnas Dduw.”
28
Oddeutu wyth niwrnod wedi’r geiriau hyn, fe gymerth Bedr ac Ioan ac Iago, ac aeth i fyny i’r mynydd i weddïo.
29
Ac wrth iddo weddïo daeth newid ar wedd ei wyneb, ac aeth ei wisg yn wen lachar.
30
A dyma ddau ŵr yn ymddiddan ag ef, sef Moses ac Elïas;
31
ymddangosasant mewn gogoniant, a sôn am ei ymadawiad ef, a oedd ar fedr ei gyflawni yng Nghaersalem.
32
A Phedr a’r rhai gydag, ef oedd yn drwm o gwsg; a phan ddeffroesant, gwelsant ei ogoniant ef a’r ddau ŵr a oedd yn sefyll gydag ef.
33
A phan oeddent yn ymadael oddi wrtho, dywedodd Pedr wrth yr Iesu, “Meistr, da yw ein bod ni yma, a gwnawn dair pabell — un i ti, ac un i Foses, ac un i Elïas,” heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd.
34
Ac ef yn dywedyd hyn, daeth cwmwl i’w cysgodi hwynt. Ac ofnasant wrth fynd i mewn i’r cwmwl.
35
A llef a ddaeth o’r cwmwl, yn dywedyd, “Hwn yw fy Mab, fy etholedig; gwrandewch arno ef.”
36
Ac wedi’r llef, cafwyd Iesu yn unig. A thewi a wnaethant hwy; ac ni fynegasant i neb yn y dyddiau hynny ddim o’r pethau a welsent.
37
Digwyddodd drannoeth wedi iddynt ddyfod i lawr o’r mynydd i dyrfa fawr gyfarfod ag ef.
38
A dyma ŵr o’r dyrfa yn llefain, gan ddywedyd, “Athro, yr wyf yn erfyn arnat edrych ar fy mab, canys unig blentyn yw i mi;
39
ac wele y mae ysbryd yn ei gymryd, a dolefa yntau yn sydyn; a dirdynna ef, ac yntau’n malu ewyn; a phrin gan ei lethu yr ymedy oddi wrtho.
40
Ac erfyniais ar dy ddisgyblion ei fwrw ef allan, ac nis gallasant.”
41
Atebodd yr Iesu, “O genhedlaeth ddi-ffydd a gŵyrgam, pa hyd y byddaf gyda chwi ac y’ch goddefaf? Dwg yma dy fab.”
42
A phan oedd eto yn dyfod, hyrddiodd y cythraul ef i lawr, a’i ddirdynnu. Ceryddodd yr Iesu yr ysbryd aflan, ac iachaodd y bachgen, a’i roi’n ôl i’w dad.
43
A synnai pawb at fawredd Duw. A phawb yn rhyfeddu at yr holl bethau a wnâi, fe ddywedodd wrth ei ddisgyblion,
44
“Gwrandewch chwi yn ddyfal ar y geiriau hyn: y mae Mab y dyn ar fedr cael ei draddodi i ddwylo dynion.”
45
Nid oeddent hwythau’n deall yr ymadrodd hwn, ac yr oedd yn guddiedig oddi wrthynt fel na allasent ei amgyffred, ac ofnent ei holi am yr ymadrodd hwn.
46
Ac aeth yn ddadl yn eu plith pa un ohonynt a fyddai fwyaf.
47
A’r Iesu, yn gwybod dadl eu calon hwynt, a gymerth blentyn, a’i osod yn ei ymyl;
48
a dywedodd wrthynt, “Pwy bynnag a dderbynio’r plentyn hwn yn fy enw i, y mae’n fy nerbyn i, a phwy bynnag a’m derbynio i, y mae’n derbyn yr hwn a’m hanfonodd i; canys yr hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll, hwnnw sydd fawr.”
49
Atebodd Ioan, “Meistr, gwelsom un yn bwrw cythreuliaid allan yn dy enw di, a cheisiasom wahardd iddo am nad yw yn canlyn gyda ni.”
50
Dywedodd yr Iesu wrtho, “Peidiwch â gwahardd; canys y neb nid yw i’ch erbyn, o’ch plaid y mae.”
51
A chan fod dyddiau ei ddyrchafael yn dirwyn i ben, gosododd ei fryd ar fyned i Gaersalem, ac anfonodd genhadau o’i flaen.
52
Ac aethant, a dyfod i mewn i bentref o Samariaid i baratoi ar ei gyfer,
53
ac nis derbyniasant ef am fod ei fryd ar fynd i Gaersalem.
54
Pan welodd y disgyblion, Iago ac Ioan, dywedasant, “Arglwydd, a gawn ni ddywedyd am i dân ddisgyn o’r nef a’u difa hwynt?”
55
Troes yntau, a’u ceryddu.
56
Ac aethant i bentref arall.
57
A hwy’n myned, ar y ffordd dywedodd rhywun wrtho: “Mi’th ddilynaf, pa le bynnag yr elych.”
58
A dywedodd yr Iesu wrtho, “Mae gan y llwynogod ffeuau a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y dyn nid oes le i roi ei ben i lawr.”
59
Dywedodd wrth un arall, “Dilyn fi.” Dywedodd yntau, “Caniatâ i mi yn gyntaf fynd i gladdu fy nhad.”
60
Dywedodd wrtho, “Gad i’r meirw gladdu eu meirw, a dos dithau a chyhoedda deyrnas Dduw.”
61
Un arall eto a ddywedodd wrtho, “Mi’th ddilynai di, Arglwydd; ond yn gyntaf caniatâ i mi ganu’n iach i’r rhai sydd gartref.”
62
Dywedodd yr Iesu wrtho, “Nid oes neb sy’n rhoi ei law ar aradr ac yn edrych yn wysg ei gefn yn gymwys i deyrnas Dduw.”
← Chapter 8
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 10 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24