bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Luke 4
Luke 4
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 5 →
1
Ac Iesu’n llawn o’r Ysbryd Glân a ddychwelodd oddi wrth Iorddonen, ac arweiniwyd ef gan yr Ysbryd yn y diffeithwch
2
ddeugain niwrnod, a’r diafol yn ei demtio. Ac ni fwytaodd ddim yn y dyddiau hynny, ac wedi iddynt ddiweddu, daeth arno newyn.
3
A dywedodd y diafol wrtho, “Os Mab Duw wyt, dywed wrth y garreg hon am droi’n fara.”
4
Ac atebodd yr Iesu iddo, “Y mae’n ysgrifenedig, Nid ar fara’n unig y bydd byw dyn.”
5
A dug ef i fyny a dangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd ar amrantiad;
6
a dywedodd y diafol wrtho, “I ti y rhof yr awdurdod hwn oll, a’r gogoniant sydd eiddynt, canys i mi y traddodwyd ef, ac i’r neb y mynnwyf y rhoddaf ef.
7
Os ymgrymi di gan hynny ger fy mron i, bydd y cwbl yn eiddot ti.”
8
Atebodd yr Iesu iddo, “Y mae’n ysgrifenedig, ‘I’r Arglwydd dy Dduw yr ymgrymi, ac ef yn unig a wasanaethi’.”
9
A dug ef i Gaersalem, a gosododd ef ar ganllaw’r deml, a dywedodd wrtho, “Os Mab Duw wyt, bwrw dy hun i lawr oddi yma;
10
canys y mae’n ysgrifenedig, I’w angylion y gorchymyn ef amdanat i’th gadw,
11
a hefyd ar eu dwylo y’th ddaliant, rhag taro ohonot byth dy droed wrth garreg.”
12
Ac atebodd yr Iesu iddo, “Fe ddywedwyd, Na themtia’r Arglwydd dy Dduw.”
13
Ac wedi i’r diafol orffen pob temtiad, ymadawodd ag ef hyd amser cyfaddas.
14
A dychwelodd yr Iesu yng ngrym yr Ysbryd i Galilea; a sôn a aeth allan drwy’r holl gymdogaeth amdano.
15
Ac yr oedd ef yn dysgu yn eu synagogau hwy, a phawb yn ei anrhydeddu.
16
Ac fe ddaeth i Nasara, lle’r oedd wedi ei fagu, ac aeth i mewn yn ôl ei arfer ar ddydd Sabbath i’r synagog, a chododd i ddarllen.
17
A rhoed iddo lyfr y proffwyd Eseia, ac wedi agor y llyfr, fe gafodd y man lle’r oedd yn ysgrifenedig,
18
Ysbryd yr Arglwydd sydd arnaf i, achos eneiniodd fi i fynegi newyddion da i dlodion, danfonodd fi i gyhoeddi i gaethion ryddhâd ac i ddeillion eu golwg, i ollwng rhai ysig yn rhydd,
19
i gyhoeddi blwyddyn gymeradwy’r Arglwydd.
20
Ac wedi cau’r llyfr a’i roi i’r swyddog, fe eisteddodd; a llygaid pawb yn y synagog oedd yn craffu arno.
21
A dechreuodd ddywedyd wrthynt, “Heddiw y cyflawnwyd yr ysgrythur hon yn eich clustiau chwi.”
22
Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yn rhyfeddu at y geiriau o ras a ddeuai allan o’i enau ef, ac yn dywedyd, “Onid mab Ioseff yw hwn?”
23
A dywedodd wrthynt, “Eithaf tebyg y dywedwch wrthyf y ddihareb hon, ‘Y meddyg, iachâ dy hun; y pethau y clywsom eu gwneuthur yng Nghapernaum, gwna hefyd yma yn dy wlad dy hun’.”
24
A dywedodd, “Yn wir meddaf i chwi, Nid oes un proffwyd yn gymeradwy yn ei wlad ei hun.
25
Mewn gwirionedd meddaf i chwi, Yr oedd llawer o weddwon yn nyddiau Elïas yn Israel, pan gaewyd y nef am dair blynedd a chwe mis, pryd y bu newyn mawr dros yr holl dir;
26
ac nid at yr un ohonynt hwy yr anfonwyd Elïas eithr i Sarepta Sidonia at wraig weddw.
27
Ac yr oedd llawer o wahangleifion yn Israel yn amser Eliseus y proffwyd, ac nid yr un ohonynt hwy a lanhawyd, eithr Naiman y Syriad.”
28
A llanwyd o ddigofaint bawb a oedd yn y synagog wrth glywed y pethau hyn,
29
a chodasant a bwriasant ef allan o’r ddinas, a’i ddwyn hyd ael y bryn yr adeiladesid eu dinas arno i’w fwrw dros y dibyn.
30
Yntau a aeth drwy eu canol, ac i ffwrdd.
31
Ac fe ddaeth i lawr i Gapernaum, dinas yng Ngalilea. Ac yr oedd yn eu dysgu hwynt ar y Sabbath;
32
a synnent at ei ddysgeidiaeth, canys llefarai gydag awdurdod.
33
Ac yn y synagog yr oedd dyn a chanddo ysbryd cythraul aflan, ac fe waeddodd â llef uchel,
34
“Och, beth sydd rhyngom ni a thi, Iesu o Nasareth? a ddaethost i’n difetha ni? Mi wn pwy wyt — Sant Duw.”
35
A cheryddodd yr Iesu ef, gan ddywedyd, “Taw, a dos allan ohono.” Ac wedi i’r cythraul ei daflu i’r canol, aeth allan ohono, heb wneuthur dim niwed iddo.
36
A daeth arswyd ar bawb, a siaradent â’i gilydd gan ddywedyd, “Pa fath lefaru yw hyn? canys gydag awdurdod a nerth y gorchymyn ef yr ysbrydion aflan, ac ânt allan.”
37
Ac aeth sôn amdano i bob man drwy’r gymdogaeth.
38
Ac wedi cychwyn o’r synagog fe aeth i dŷ Simon; ac yr oedd chwegr Simon yn dioddef dan dwymyn dost, a deisyfasant arno drosti.
39
Ac fe safodd uwch ei phen, a cheryddu’r dwymyn, a gadawodd y dwymyn hi; cododd hithau ar unwaith, a mynd i weini arnynt.
40
A chyda machlud haul, pawb a chanddynt gleifion dan amrywiol anhwylderau a’u dug hwynt ato; yntau, gan osod ei ddwylo ar bob un ohonynt, a’u hiachâi hwynt.
41
Ac âi cythreuliaid hefyd allan o lawer, dan grochlefain a dywedyd, “Ti yw Mab Duw.” A cheryddodd hwynt, ac ni adai iddynt siarad, gan y gwyddent mai ef oedd y Crist.
42
Ac wedi iddi ddyddio, fe aeth allan a myned i le anghyfannedd; a chwiliai’r tyrfaoedd amdano, a daethant hyd ato; a cheisient ei atal rhag mynd oddi wrthynt.
43
Dywedodd yntau wrthynt, “Rhaid i mi gyhoeddi’r newyddion da am deyrnas Dduw i’r dinasoedd eraill hefyd, canys i hyn y’m danfonwyd.”
44
Ac yr oedd yn pregethu yn synagogau Iwdea.
← Chapter 3
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 5 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24