bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Luke 16
Luke 16
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 17 →
1
Ac meddai hefyd wrth ei ddisgyblion, “Yr oedd rhyw ddyn cyfoethog, a chanddo oruchwyliwr; a chyhuddwyd hwn wrtho ei fod yn gwastraffu ei eiddo.
2
Ac fe’i galwodd a dywedodd wrtho, ‘Beth yw hyn a glywaf amdanat ti? Dyro gyfrif o’th orchwyliaeth, canys ni elli fod yn oruchwyliwr mwyach.’
3
A dywedodd y goruchwyliwr ynddo’i hun, ‘Beth a wnaf, gan fod fy arglwydd yn dwyn yr oruchwyliaeth oddi arnaf? Cloddio nis gallaf, ac mae arnaf gywilydd cardota.
4
Mi wn beth a wnaf, fel, pan ddiswyddir fi o’r orchwyliaeth, y’m derbyniont i’w tai.’
5
A galwodd ato bob un o ddyledwyr ei arglwydd, ac meddai wrth y cyntaf, ‘Pa faint sydd arnat i’m harglwydd?’
6
Dywedodd yntau, ‘Can barilaid o olew.’ Dywedodd wrtho, ‘Cymer dy ymrwymiad, ac eistedd ac ysgrifenna ar unwaith hanner cant.’
7
Yna dywedodd wrth un arall, ‘A thithau, pa faint sydd arnat?’ Dywedodd yntau, ‘Can pegaid o ŷd.’ Dywedodd wrtho, ‘Cymer dy ymrwymiad, ac ysgrifenna bedwar ugain.’
8
A chanmolodd yr arglwydd y goruchwyliwr anghyfiawn, am iddo wneuthur yn gall; canys y mae plant yr oes hon yn gallach na phlant y goleuni tuag at eu cenhedlaeth, eu hunain.
9
Ac yr wyf innau’n dywedyd i chwi, Gwnewch i chwi eich hunain gyfeillion trwy’r mamon anghyfiawn, fel pan ballo y’ch derbynier chwi i’r tragwyddol bebyll.
10
Yr hwn sydd ffyddlon mewn ychydig, ffyddlon ydyw hefyd mewn llawer, a’r hwn sydd anghyfiawn mewn ychydig, anghyfiawn ydyw hefyd mewn llawer.
11
Felly, oni buoch ffyddlon gyda’r mamon anghyfiawn, pwy a ymddiried y gwir olud i chwi?
12
Ac oni buoch ffyddlon gydag eiddo arall, pwy a rydd i chwi yr eiddom ni?
13
Ni ddichon gwas wasanaethu dau arglwydd; canys un ai casâ’r naill a châr y llall, neu fe lŷn wrth y naill a dirmyga’r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mamon.”
14
Yr oedd y Phariseaid, dynion ariangar, yn clywed yr holl bethau hyn, a gwawdient ef.
15
A dywedodd wrthynt, “Chwychwi yw’r rhai sydd yn eich cyfiawnhau eich hunain gerbron dynion, ond gŵyr Duw eich calonnau; canys yr hyn sydd mewn bri ymhlith dynion, ffieiddbeth yw gerbron Duw.
16
Y gyfraith a’r proffwydi, hyd Ioan yr oeddent; oddi ar hynny teyrnas Dduw a bregethir, ac y mae pawb yn ymwthio i mewn iddi.
17
Eithr haws yw i’r nef a’r ddaear fyned heibio nag i un fachell o’r gyfraith syrthio.
18
Pob un a ysgaro’i wraig ac a briodo un arall, y mae yn godinebu, a’r hwn a briodo wraig a ysgarwyd oddi wrth ŵr, y mae yn godinebu.
19
Yr oedd rhyw ddyn yn gyfoethog, a gwisgai amdano borffor a lliain main, gan fwynhau byd da yn helaethwych beunydd.
20
A rhyw dlotyn, a’i enw Lasarus, oedd yn gorwedd wrth ei borth, yn gornwydlyd,
21
ac yn chwennych ymborthi ar yr hyn a syrthiai oddi ar fwrdd y dyn cyfoethog. A’r cŵn hwythau a ddeuai i lyfu ei gornwydydd.
22
A digwyddodd i’r tlotyn farw, a’i ddwyn ymaith gan yr angylion i fynwes Abraham; bu farw’r cyfoethog yntau, a chladdwyd ef.
23
A phan gododd ei lygaid yn Annwn, ac yntau mewn arteithiau, fe wêl Abraham o bell, a Lasarus yn ei fynwes.
24
A llefodd, ‘Dad Abraham, trugarha wrthyf, a danfon Lasarus i wlychu blaen ei fys mewn dŵr, ac oeri fy nhafod, canys fe’m dirboenir yn y fflam hon.’
25
A dywedodd Abraham, ‘Fy mhlentyn, cofia i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, a Lasarus yr un modd ei adfyd; ond yn awr fe’i diddenir ef yma, a’th ddirboeni dithau:
26
Ac ar ben hyn oll, y mae bwlch mawr wedi ei osod rhyngom ni a chwithau, fel na alle’r rhai a’i mynnai fynd trwodd oddi yma atoch chwi, na chroesi chwaith oddi yna atom ni.’
27
Dywedodd yntau, ‘Gan hynny gofynnaf iti, dad, a anfoni di ef i dŷ fy nhad
28
— y mae gennyf bump o frodyr — fel y tystiolaetho iddynt, rhag iddynt hwythau ddyfod i’r arteithfa hon.’
29
Medd Abraham, ‘Mae ganddynt Foses a’r proffwydi; gwrandawant arnynt hwy.’
30
Dywedodd yntau, ‘Nag e, dad Abraham, ond os â rhywun atynt oddi wrth y meirw, edifarhânt.’
31
A dywedodd wrtho, ‘Oni wrandawant ar Foses a’r proffwydi, nis perswedir, hyd yn oed os cyfyd un oddi wrth y meirw’.”
← Chapter 15
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 17 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24