bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Luke 19
Luke 19
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 20 →
1
Ac aeth i mewn, ac yn ei flaen trwy Iericho.
2
A dyma ŵr a elwid wrth yr enw Sacheus; yr oedd ef yn brif drethwr, ac yn gyfoethog.
3
Ac yr oedd yn ceisio gweled p’run oedd yr Iesu, ac nis gallai o achos y dyrfa, canys bychan oedd o gorffolaeth.
4
A rhedodd rhagddo yn ei flaen, a dringo sycamorwydden i gael ei weled, canys yr oedd ef i ddyfod y ffordd honno.
5
A phan ddaeth hyd y fan, edrychodd yr Iesu i fyny, a dywedodd wrtho, “Sacheus, disgyn ar frys, canys heddiw rhaid imi aros yn dy dŷ.”
6
A disgynnodd ar frys, a derbyniodd ef yn llawen.
7
A phan welsant, dechreuodd pawb rwgnach, gan ddywedyd, “Aeth i mewn i letya gyda gŵr pechadurus.”
8
A safodd Sacheus, a dywedodd wrth yr Arglwydd, “Dyma fi’n rhoddi hanner fy eiddo i’r tlodion, Arglwydd; ac os dygais ddim oddi ar neb drwy gamachwyn, dyma fi’n dychwelyd cymaint bedair gwaith.”
9
A, dywedodd yr Iesu wrtho, “Heddiw daeth iachawdwriaeth i’r tŷ hwn, gan ei fod yntau’n fab i Abraham;
10
canys daeth Mab y dyn i geisio ac i gadw ’r hyn a gollwyd.”
11
A hwythau’n gwrando ar y pethau hyn, fe aeth rhagddo i ddywedyd dameg, am ei fod yn agos i Gaersalem a’u bod hwy’n tybied bod teyrnas Dduw i ymddangos yn y fan.
12
Dywedodd, ynteu, “Aeth rhyw bendefig i wlad bell i gael brenhiniaeth iddo’i hun, ac i ddychwelyd.
13
A galwodd ddeg o’i weision, a rhoddes iddynt ddeg punt, a dywedodd wrthynt, ‘Marchnatewch hyd oni ddelwyf.’
14
Ond yr oedd ei ddinaswyr yn ei gasáu, ac anfonasant genhadau ar ei ôl, gan ddywedyd, ‘Ni fynnwn ni i hwn ddyfod yn frenin arnom ni.’
15
Ac ar ôl iddo ddychwelyd wedi cael y frenhiniaeth, dywedodd am alw ato’r gweision hynny y rhoesai’r arian iddynt, fel y caffai wybod beth a elwasai pob un wrth farchnata.
16
A daeth y cyntaf gan ddywedyd, ‘Arglwydd, enillodd dy bunt ddeg punt.’
17
A dywedodd wrtho, ‘Campus, was da! Am i ti fod yn ffyddlon mewn ychydig, boed gennyt awdurdod ar ddeg dinas.’
18
A daeth yr ail, gan ddywedyd, ‘Gwnaeth dy bunt, arglwydd, bum punt.’
19
A dywedodd wrtho yntau, ‘Bydd dithau dros bum dinas.’
20
A’r llall a ddaeth, gan ddywedyd, ‘Arglwydd, dyma dy bunt, a oedd gennyf wedi ei dodi mewn napcyn;
21
yr oedd arnaf dy ofn di, am dy fod yn ŵr llym — yr wyt yn codi’r hyn ni osodaist i lawr, ac yn medi’r hyn ni heuaist.’
22
Eb ef wrtho, ‘O’th enau dy hun yr wyf yn dy farnu, was drwg; ti wyddit fy mod yn ŵr llym, yn codi’r hyn ni osodais i lawr ac yn medi’r hyn ni heuais.
23
A phaham na roddaist fy arian mewn ariandy? A minnau, wedi dyfod, cawswn ef allan gyda llog.’
24
A dywedodd wrth y rhai a oedd yn sefyll gerllaw, ‘Cymerwch y bunt oddi arno, a rhowch i’r hwn sydd ganddo’r deg punt.’
25
A dywedasant wrtho, ‘Arglwydd, y mae ganddo ddeg punt.’
26
‘Yr wyf yn dywedyd i chwi, i’r neb sydd ganddo y rhoddir, ond oddi ar yr hwn nid oes ganddo y cymerir hyd yn oed yr hyn sydd ganddo.
27
Eithr am fy ngelynion, y rhai ni fynasent i mi ddyfod yn frenin arnynt, dygwch hwynt yma, a lleddwch hwynt ger fy mron’.”
28
Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn cychwynnodd yn ei flaen, gan fynd i fyny i Gaersalem.
29
A phan nesaodd at Fethphage a Bethania ger y mynydd a elwir Olewydd, anfonodd ddau o’r disgyblion,
30
gan ddywedyd, “Ewch i’r pentref gyferbyn, ac yno wrth fynd i mewn chwi gewch ebol yn rhwym, un nad eisteddodd neb dyn erioed arno, a gollyngwch a dygwch ef.
31
Ac os gofyn neb i chwi, ‘Paham yr ydych yn ei ollwng?’ fel hyn y dywedwch, ‘Mae ar yr Arglwydd ei eisiau’.”
32
Ac aeth y rhai a anfonwyd, a chawsant fel y dywedasai wrthynt.
33
A phan oeddent yn gollwng yr ebol, dywedodd ei berchnogion wrthynt, “Paham y gollyngwch yr ebol?”
34
Dywedasant hwythau, “Mae ar yr Arglwydd ei eisiau.”
35
A dygasant ef at yr Iesu, ac wedi iddynt fwrw eu dillad ar yr ebol, dodasant yr Iesu arno.
36
Ac fel yr oedd ef yn mynd, taenent eu dillad ar y ffordd.
37
A phan oedd bellach yn nesáu, wrth y goriwaered o Fynydd yr Olewydd, dechreuodd yr holl liaws disgyblion glodfori Duw yn llawen â llef uchel am yr holl rymusterau a welsent,
38
gan ddywedyd: “ Bendigedig yw’r un sy’n dyfod,Y Brenin, yn enw’r Arglwydd;Yn y nef tangnefedd A gogoniant yn y goruchafion.”
39
A dywedodd rhai o’r Phariseaid o’r dyrfa wrtho, “Athro, cerydda dy ddisgyblion.”
40
Ac atebodd yntau, “Yr wyf yn dywedyd i chwi, Os bydd y rhain yn ddistaw, gwaedda’r cerrig.”
41
A phan nesaodd a gweled y ddinas, wylodd drosti,
42
gan ddywedyd, “O na wybuasit tithau y dydd hwn y pethau a berthyn i heddwch! Ond yn awr fe’u cuddiwyd o’th olwg.
43
Canys daw arnat ddyddiau pryd y cyfyd dy elynion glawdd i’th erbyn, ac y’th amgylchant, a gwarchae arnat o bobtu,
44
a’th fwrw di i’r llawr a ’th blant o’th fewn, ac ni adawant ynot faen ar faen, am nad adnabuost amser dy ymweliad.”
45
Ac wedi iddo fynd i mewn i’r deml,
46
dechreuodd fwrw allan y gwerthwyr, gan ddywedyd wrthynt, “Y mae’n ysgrifenedig, A bydd fy nhŷ i yn dŷ gweddi, ond gwnaethoch chwi ef yn ogof lladron.”
47
Ac yr oedd yn dysgu beunydd yn y deml; ond ceisiai’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion a’r gwŷr blaenaf o’r bobl ei ddifetha,
48
a methent wybod beth i’w wneud, canys yr oedd yr holl bobl yn dal ar bob gair wrth wrando arno.
← Chapter 18
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 20 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24