bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Luke 7
Luke 7
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 8 →
1
Pan orffennodd ei holl ymadroddion yng nghlyw’r bobl, aeth i mewn i Gapernaum.
2
Ac yr oedd gwas i ryw ganwriad yn wael ar fin marw, un oedd werthfawr ganddo.
3
A phan glywodd am yr Iesu, fe ddanfonodd ato henuriaid yr Iddewon, gan ofyn iddo ddyfod i achub bywyd ei was.
4
Ac wedi iddynt ddyfod at yr Iesu, ymbilient arno’n daer, gan ddywedyd, “Teilwng yw ef iti i wneuthur hyn iddo;
5
canys y mae’n caru’n cenedl ni, ac ef ei hun a adeiladodd i ni’r synagog.”
6
Ac yr oedd yr Iesu’n myned gyda hwynt; a phan oedd weithian heb fod nepell oddi wrth y tŷ, anfonodd y canwriad gyfeillion i ddywedyd wrtho, “Arglwydd, na thraffertha; canys nid wyf gymwys i ti i ddyfod dan fy nghronglwyd;
7
dyna hefyd pam na thybiais yn iawn imi ddyfod fy hun atat; eithr dywed air, ac iachaer fy ngwas.
8
Canys dyn yn dal swydd dan awdurdod wyf innau, a chennyf filwyr danaf; a dywedaf wrth hwn, Dos, ac y mae’n mynd, ac wrth arall, Tyred, ac y mae’n dyfod, ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac y mae’n ei wneuthur.”
9
A phan glywodd yr Iesu hyn, rhyfeddodd ato; a chan droi at y dyrfa a’i canlynai, dywedodd, “Meddaf i chwi, hyd yn oed yn Israel ni chefais gymaint ffydd.”
10
Ac wedi i’r rhai a anfonesid ddychwelyd i’r tŷ, cawsant y gwas yn iach.
11
A digwyddodd yn union wedyn iddo fynd i ddinas a elwir Nain, ac yr oedd ei ddisgyblion a thyrfa fawr yn mynd gydag ef.
12
A phan ddaeth yn agos at borth y ddinas, dyma gludo allan un marw, unig fab ei fam, a honno’n weddw; ac yr oedd cryn dorf o’r ddinas gyda hi.
13
A phan welodd yr Arglwydd hi, tosturiodd wrthi, a dywedodd wrthi, “Paid ag wylo.”
14
A chan nesáu, cyffyrddodd â’r elor; a safodd y cludwyr, ac eb ef, “Y llanc, dywedaf wrthyt, cyfod.”
15
A chododd y marw ar ei eistedd, a dechreuodd siarad; ac fe’i rhoes i’w fam.
16
A syrthiodd ofn ar bawb, a gogoneddent Dduw, gan ddywedyd, “Proffwyd mawr a gyfododd yn ein plith,” ac, “Ymwelodd Duw â’i bobl.”
17
Ac aeth yr hanes hwn allan drwy holl Iwdea amdano, a thrwy’r holl gymdogaeth.
18
A mynegodd ei ddisgyblion i Ioan hyn oll.
19
Ac wedi galw rhyw ddau o’i ddisgyblion ato, anfonodd Ioan hwynt at yr Arglwydd, gan ddywedyd, “Ai ti yw’r hwn sy’n dyfod, ai am un arall yr ydym i ddisgwyl?”
20
A phan ddaeth y gwŷr ato, dywedasant, “Ioan Fedyddiwr a’n hanfonodd atat gan ddywedyd, ‘Ai ti yw’r hwn sy’n dyfod, ai am un arall yr ydym i ddisgwyl?’ ”
21
Yr awr honno iachaodd lawer oddi wrth glefydau a phlâu ac ysbrydion drwg, ac i ddeillion lawer y rhoes eu golwg.
22
Ac atebodd iddynt, “Ewch a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch ac a glywsoch: y mae deillion yn cael eu golwg, cloffion yn cerdded, gwahangleifion yn dyfod yn lân, a byddariaid yn clywed, meirw’n cyfodi, i dlodion y cyhoeddir newyddion da.
23
A gwyn ei fyd y neb ni feglir ynof i.”
24
Ac wedi i genhadau Ioan ymadael, dechreuodd ddywedyd wrth y tyrfaoedd am Ioan, “Beth yr aethoch allan i’r diffeithwch i edrych arno? Ai corswellt yn ysgwyd gan wynt?
25
Ond beth yr aethoch allan i’w weled? Ai dyn â gwisgoedd esmwyth amdano? Wele, y rhai sy’n byw mewn dillad gwych a moethau, yn y plasau brenhinol y maent.
26
Ond beth yr aethoch allan i’w weled? Ai proffwyd? Ie, meddaf i chwi, a mwy na phroffwyd.
27
Hwn yw’r un y mae’n ysgrifenedig amdano, Wele’r wyf yn anfon fy nghennad o’th flaen, yr hwn a ddarpar dy ffordd rhagot.
28
Meddaf i chwi, ymhlith plant gwragedd nid oes neb mwy nag Ioan; ond y lleiaf yn nheyrnas Dduw sydd fwy nag ef.”
29
(A’r holl bobl wedi ei glywed, a’r trethwyr a gydnabu gyfiawnder Duw, ac a fedyddiwyd â bedydd Ioan.
30
Ond dirymodd y Phariseaid a’r cyfreithwyr fwriad Duw tuag atynt eu hunain, ac nis bedyddiwyd ganddo.)
31
“I ba beth, gan hynny, y cyffelybaf ddynion y genhedlaeth hon, ac i ba beth y maent yn gyffelyb?
32
Cyffelyb ydynt i blantos sydd yn eistedd mewn marchnadle, ac yn galw ar ei gilydd, a dywedyd, Canasom i chwi bibau, ac ni ddawnsiasoch; Canasom alarnad, ac nid wylasoch.
33
Canys daeth Ioan Fedyddiwr heb fwyta bara nac yfed gwin, ac meddwch chwi, ‘Cythraul sy ganddo.’
34
Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed, ac meddwch chwi, ‘Dyma ddyn glwth a llymeitiwr gwin, cyfaill trethwyr a phechaduriaid.’
35
Eto cyfiawnhawyd doethineb gan bawb o’i phlant.”
36
A gofynnodd un o’r Phariseaid iddo fwyta gydag ef; ac wedi mynd i dŷ’r Pharisead, fe aeth at y bwrdd.
37
Ac wele, yr oedd gwraig yn y ddinas a honno’n bechadures; ac wedi deall ohoni ei fod ef wrth y bwrdd yn nhŷ’r Pharisead, hi ddug flwch alabaster o ennaint;
38
a chan sefyll tu cefn iddo wrth ei draed ac wylo, hi ddechreuodd wlychu ei draed ef â’i dagrau, a’u sychu â gwallt ei phen; a chusanai ei draed ac irai hwynt â’r ennaint.
39
A phan welodd y Pharisead a’i gwahoddasai, fe ddywedodd ynddo’i hun, “Pe bai hwn broffwyd, fe wybyddai pwy a pha fath un yw’r wraig sy’n cyffwrdd ag ef, mai pechadures yw.”
40
Ac atebodd yr Iesu a dywedodd wrtho, “Simon, mae gennyf rywbeth i’w ddywedyd wrthyt.” Medd yntau, “Athro, dywed.”
41
“Dau ddyledwr oedd i ryw echwynnwr; yr oedd y naill yn ei ddyled o bum can swllt, a’r llall o bum deg.
42
Gan nad oedd ganddynt fodd i dalu, maddeuodd iddynt ill dau. Pa un, ynteu, ohonynt a’i câr ef fwyaf?”
43
Atebodd Simon, “Mi dybiaf mai’r un y maddeuodd fwyaf iddo.” Dywedodd yntau wrtho, “Iawn y bernaist.”
44
A chan droi at y wraig, meddai wrth. Simon, “A weli di’r wraig hon? Deuthum i’th dŷ di, dwfr i’m traed ni roddaist imi; ond hon a wlychodd fy nhraed â’i dagrau, ac a’u sychodd â’i gwallt.
45
Cusan i mi ni roddaist; ond hon o’r pryd y deuthum i mewn ni pheidiodd â chusanu fy nhraed.
46
Fy mhen ag olew nid iraist; ond hon a irodd fy nhraed ag ennaint.
47
O achos hyn y dywedaf iti, Maddeuwyd ei haml bechodau, canys hi garodd yn fawr; ond y neb y maddeuir ychydig iddo, ychydig a gâr.”
48
Ac meddai wrthi, “Maddeuwyd dy bechodau.”
49
A dechreuodd y rhai a oedd gydag ef wrth y bwrdd ddywedyd yn eu plith eu hunain, “Pwy yw hwn sydd hyd yn oed yn maddau pechodau?”
50
Ac meddai yntau wrth y wraig, “Dy ffydd a’th iachaodd; dos mewn tangnefedd.”
← Chapter 6
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 8 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24