bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Luke 3
Luke 3
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 4 →
1
Yn y bymthegfed flwyddyn o lywodraeth Tiberius Cesar, pan oedd Pontius Pilat yn, llywodraethu Iwdea, a Herod yn detrarch Galilea, a Phylip ei frawd yn detrarch gwlad Itwrea a Thrachonitis, a Lysanias yn detrarch Abilene,
2
yn ystod archoffeiriadaeth Annas a Chaiaffas, daeth gair Duw at Ioan fab Sacharïas yn y diffeithwch.
3
Ac fe aeth i holl gyffiniau’r Iorddonen gan gyhoeddi bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau,
4
fel yr ysgrifennwyd yn llyfr geiriau Eseia’r proffwyd: Llef un yn bloeddio yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch ei lwybrau ef.
5
Pob cwm a lenwir, a phob mynydd a bryn a wastateir, a bydd y lleoedd gŵyrgam yn ffyrdd union, a’r ffyrdd geirwon yn llyfn;
6
a gwêl pob cnawd iachawdwriaeth Duw
7
Felly dywedai wrth y tyrfaoedd a âi allan i’w bedyddio ganddo, “Epil gwiberod, pwy a’ch rhybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd?
8
Dygwch, ynteu, ffrwythau teilwng o’ch edifeirwch; ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, ‘Y mae gennym ni Abraham yn dad’; canys meddaf i chwi, fe ddichon Duw o’r cerrig hyn godi plant i Abraham.
9
Eisoes yn wir y mae’r fwyall wedi ei gosod wrth wraidd y prennau; pob pren, ynteu, heb ddwyn ffrwyth da, yr ydys yn ei dorri i lawr a’i daflu yn tân.”
10
A gofynnai’r tyrfaoedd iddo, “Beth, ynteu, a wnawn?”
11
Atebai yntau iddynt, “Y neb sydd ganddo ddwy grysbais, rhanned â’r sawl sydd heb yr un, a’r neb sydd ganddo fwyd, gwnaed yr un modd.”
12
A daeth hefyd drethwyr i’w bedyddio, a dywedasant wrtho, “Athro, beth a wnawn?”
13
Dywedodd yntau wrthynt, “Na chodwch ddim mwy na’r dreth osodedig.”
14
A gofynnai milwyr hefyd iddo, “Beth a wnawn ninnau?” Dywedodd yntau wrthynt, “Na yrrwch ofn ar neb ac na chamachwynwch; a byddwch fodlon ar eich cyflogau.”
15
A’r bobl yn disgwyl, a phawb yn ymresymu yn eu calonnau ynghylch Ioan, ai ef tybed oedd y Crist,
16
atebodd Ioan iddynt oll, “Myfi yn wir sydd yn eich bedyddio â dwfr; ond y mae fy nghryfach yn dyfod, un nad wyf deilwng i ddatod carrai ei esgidiau; ef a’ch bedyddia chwi â’r Ysbryd Glân ac â thân;
17
a’i wyntyll sydd yn ei law, i lwyr-lanhau ei lawr dyrnu, ac i gasglu’r ŷd i’w ysgubor, ond yr us a lysg ef â thân anniffoddadwy.”
18
A chan annog llawer o bethau eraill arnynt, efengylai i’r bobl;
19
ond Herod y tetrarch, a oedd dan gerydd ganddo am Herodias gwraig ei frawd ac am yr holl ddrygau a wnaethai Herod,
20
a chwanegodd hyn hefyd at y cwbl, — carcharodd Ioan.
21
Wedi iddo fedyddio’r holl bobl, ac Iesu hefyd wedi ei fedyddio ac yn gweddïo, agorodd y nef,
22
a disgynnodd yr Ysbryd Glân arno mewn ffurf gorfforol fel colomen; a daeth llef o’r nef, “Ti yw fy Mab annwyl, ynot ti y’m bodlonwyd.”
23
Ac Iesu ei hun, i ddechrau, oedd tua deg ar hugain oed, ac yn fab, fel y tybid, i Ioseff, fab Heli,
24
fab Mathat, fab Lefi, fab Melchi, fab Iannai, fab Ioseff,
25
fab Matathias, fab Amos, fab Nahwm, fab Esli, fab Naggai,
26
fab Maath, fab Matathias, fab Semein, fab Iosech, fab Ioda,
27
fab Ioanan, fab Rhesa, fab Sorobabel, fab Salathiel, fab Neri,
28
fab Melchi, fab Adi, fab Cosam, fab Elmadam, fab Er,
29
fab Iesu, fab Elieser, fab Iorim, fab Mathat, fab Lefi,
30
fab Simeon, fab Iwda, fab Ioseff, fab Ionam, fab Eliacim,
31
fab Melea, fab Menna, fab Matatha, fab Natham, fab Dafydd,
32
fab Iessai, fab Iobed, fab Boos, fab Sala, fab Naasson,
33
fab Aminadab, fab Admin, fab Arni, fab Esrom, fab Phares, fab Iwda,
34
fab Iacob, fab Isaac, fab Abraham, fab Thara, fab Nachor,
35
fab Serwch, fab Rhagaw, fab Phalec, fab Eber, fab Sala,
36
fab Cainam, fab Arffacsad, fab Sem, fab Noe, fab Lamech,
37
fab Mathwsala, fab Enoch, fab Iaret, fab Maleleel, fab Cainam,
38
fab Enos, fab Seth, fab Adda, fab Duw.
← Chapter 2
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 4 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24