bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Luke 22
Luke 22
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 23 →
1
Yr oedd gŵyl y bara croyw, a elwir Pasg, yn nesau.
2
A cheisiai’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion ffordd i’w ladd, canys yr oedd arnynt ofn y bobl.
3
Ac aeth Satan i mewn i Iwdas, a elwid Iscariot, a oedd o nifer y deuddeg;
4
ac aeth ymaith, ac ymgynghori â’r archoffeiriaid a’r penaethiaid am y ffordd i’w draddodi ef iddynt.
5
A bu lawen ganddynt, a chytunasant ag ef i roi arian iddo.
6
A chydsyniodd, a cheisiai gyfle i’w draddodi iddynt heb fod tyrfa.
7
A daeth dydd y bara croyw, pryd yr oedd rhaid lladd oen y pasg.
8
Ac anfonodd Bedr ac Ioan, gan ddywedyd, “Ewch a pharatowch i ni’r pasg i’w fwyta.”
9
Dywedasant hwythau wrtho, “Pa le y mynni i ni ei baratoi?”
10
Dywedodd yntau wrthynt, “Wele, wedi i chwi fynd i mewn i’r ddinas, fe gyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystên o ddŵr; dilynwch ef i’r tŷ yr â i mewn iddo.
11
A chwi ddywedwch wrth ŵr y tŷ, ‘Y mae’r Athro yn dywedyd wrthyt, P’le mae’r llety lle caf fwyta’r pasg gyda’m disgyblion?’
12
A dengys hwnnw i chwi lofft fawr wedi ei threfnu; yno paratowch.”
13
Ac aethant ymaith, a chawsant fel y dywedasai wrthynt, a pharatoesant y pasg.
14
A phan ddaeth yr awr, eisteddodd wrth y bwrdd, a’r apostolion gydag ef.
15
A dywedodd wrthynt, “Mawr y chwenychais fwyta’r pasg hwn gyda chwi cyn dioddef ohonof.
16
Canys yr wyf yn dywedyd i chwi nas bwytâf ef ddim eto hyd onis cyflawner ef yn nheyrnas Dduw.”
17
A chafodd gwpan, ac wedi diolch fe ddywedodd, “Cymerwch hwn, a rhennwch yn eich plith;
18
canys yr wyf yn dywedyd i chwi, nid yfaf o hyn allan o ffrwyth y winwydden hyd oni ddêl teyrnas Dduw.”
19
A chymerth fara, ac wedi diolch torrodd ef a’i roddi iddynt, gan ddywedyd, “Hwn yw fy nghorff [yr ydys yn ei roi drosoch chwi; gwnewch hyn er cof amdanaf i.”
20
A’r cwpan yr un modd wedi swper, gan ddywedyd, “Y cwpan hwn, y cyfamod newydd ydyw yn fy ngwaed, yr ydys yn ei dywallt drosoch chwi.]
21
Eithr dyma law fy mradychwr gyda mi ar y bwrdd.
22
Canys Mab y dyn yn wir sy’n myned yn ôl a benderfynwyd; eithr gwae’r dyn hwnnw y bradychir ef trwyddo.”
23
A dechreuasant ymholi yn eu plith eu hunain pwy ohonynt tybed oedd yr un a oedd ar fedr gwneuthur hyn.
24
A bu ymryson hefyd yn eu plith pwy ohonynt a gyfrifid ei fod yn fwyaf.
25
Dywedodd yntau wrthynt, “Y mae brenhinoedd y cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a gelwir y rhai sy’n awdurdodi arnynt yn gymwynaswyr.
26
Nid felly chwychwi; ond bydded y mwyaf yn eich plith megis yr ieuangaf, a’r arweinydd megis y gwas.
27
Canys pwy sydd fwyaf, yr un sydd wrth y bwrdd ai’r un sy’n gweini? Onid yr un sydd wrth y bwrdd? Ond yr wyf i yn eich mysg chwi fel yr un sy’n gweini.
28
Chwi yw’r rhai sydd wedi aros gyda mi yn fy mhrofedigaethau;
29
ac megis y trefnodd fy Nhad i mi deyrnas, yr wyf innau yn trefnu i chwi
30
gael bwyta ac yfed wrth fy mwrdd yn fy nheyrnas, a chael eistedd ar orseddau a barnu deuddeg llwyth yr Israel.
31
Simon, Simon, wele fe’ch mynnodd Satan chwi i’ch nithio fel gwenith;
32
ond gweddïais i drosot ti na fethai dy ffydd di. A thithau, wedi iti droi, cynnal dy frodyr.”
33
Dywedodd yntau wrtho, “Arglwydd, gyda thi parod wyf i fynd i garchar ac i farwolaeth.”
34
Dywedodd yntau, “Meddaf i ti, Pedr, ni chân y ceiliog heddiw nes i ti wadu deirgwaith dy fod yn f’adnabod.”
35
A dywedodd wrthynt, “Pan anfonais chwi heb bwrs na chod nac esgidiau, a fu arnoch eisiau dim?” Dywedasant hwythau, “Naddo ddim.”
36
Dywedodd wrthynt, “Ond yn awr yr hwn sydd ganddo bwrs, cymered ef, a’r un modd god hefyd; a’r hwn sydd heb yr un, gwerthed ei fantell a phryned gleddyf.
37
Canys yr wyf yn dywedyd i chwi fod yn rhaid cyflawni’r ysgrythur hon ynof i: A chyda throseddwyr y cyfrifwyd ef. Oes, y mae cyflawniad i’r gair amdanaf i.”
38
Dywedasant hwythau, “Arglwydd, dyma ddau gleddyf.” Dywedodd yntau wrthynt, “Digon yw.”
39
Ac aeth allan, a myned yn ôl ei arfer i Fynydd yr Olewydd; a dilynodd ei ddisgyblion ef.
40
Ac wedi dyfod i’r fan, fe ddywedodd wrthynt, “Gweddïwch nad eloch i demtasiwn.”
41
Ac ymneilltuodd ef oddi wrthynt tuag ergyd carreg, ac wedi penlinio gweddïai
42
gan ddywedyd, “Dad, os mynni, tro heibio’r cwpan hwn oddi wrthyf; eithr nid fy ewyllys i a wneler, ond yr eiddot ti.”
43
[Ac ymddangosodd iddo angel o’r nef, yn ei nerthu.
44
Ac aeth yn gyfyng arno, a gweddïai’n ddyfalach; ac yr oedd ei chwys fel dafnau gwaed yn disgyn ar y ddaear.]
45
Ac wedi iddo godi o’i weddi, aeth at y disgyblion, a chafodd hwynt yn cysgu gan dristwch;
46
a dywedodd wrthynt, “Paham y cysgwch? Codwch a gweddïwch nad eloch i demtasiwn.”
47
Ac ef eto’n llefaru dyma dyrfa, a’r hwn a elwid Iwdas, un o’r deuddeg, oedd yn eu harwain, a dynesodd at yr Iesu i’w gusanu.
48
A dywedodd Iesu wrtho, “Iwdas, ai â chusan yr wyt yn bradychu Mab y dyn?”
49
A phan welodd y rhai o’i gylch y peth oedd ar ddyfod, dywedasant, “Arglwydd, a ydym i daro â chleddyf?”
50
A thrawodd rhyw un ohonynt was yr archoffeiriad, a thorri ymaith ei glust ddehau.
51
Atebodd yr Iesu, “Caniatewch gymaint â hyn”; a chyffyrddodd â’i glust, ac iachaodd ef.
52
A dywedodd Iesu wrth y rhai a ddaethai yn ei erbyn, yr archoffeiriaid a phenaethiaid y deml a’r henuriaid, “Ai megis yn erbyn lleidr y daethoch allan, gyda chleddyfau a phastynau?
53
A mi beunydd gyda chwi yn y deml, nid estynasoch eich dwylo yn fy erbyn; ond hon yw eich awr chwi, a’r tywyllwch sydd mewn awdurdod.”
54
Ac wedi ei ddal, aethant ag ef ai ddwyn i mewn i dŷ’r archoffeiriad. Yr oedd Pedr yn dilyn o bell.
55
A chyneuodd rhai dân yn y cyntedd ac eistedd gyda’i, gilydd, ac eisteddai Pedr yn eu plith.
56
A phan welodd rhyw forwyn ef yn eistedd yn y golau, craffodd arno, a dywedodd, “Yr oedd hwn hefyd gydag ef.”
57
Gwadodd yntau, gan ddywedyd, “Nis adwaen ef, wraig.”
58
Ac ymhen ychydig un arall a’i gwelodd, ac eb ef, “Yr wyt tithau yn un ohonynt.” Ebe Pedr, “Nac ydwyf, ddyn.”
59
Ac ar ôl tuag awr o ysbaid, rhywun arall a ddechreuodd daeru, gan ddywedyd, “Ar fy ngwir, yr oedd hwn gydag ef; achos Galilead yw.”
60
Dywedodd Pedr, “Ddyn, ni wn i beth yr wyt yn ei ddywedyd.” Ac ar unwaith, ac ef eto’n llefaru, canodd y ceiliog.
61
A throes yr Arglwydd, ac edrychodd ar Bedr; a chofiodd Pedr air yr Arglwydd, ddywedyd ohono wrtho, “Cyn canu o’r ceiliog heddiw, ti a’m gwedi deirgwaith.”
62
Ac aeth allan, ac wylodd yn chwerw.
63
A’r gwŷr a oedd yn ei ddal ef a’i gwatwarai a’i guro;
64
ac wedi ei fygydu holent ef, gan ddywedyd, “Proffwyda! Pwy yw’r un a’th drawodd?”
65
A llawer o gableddau eraill a lefarent yn ei erbyn.
66
A phan aeth hi yn ddydd, ymgynullodd henuriaid y bobl, archoffeiriaid ac ysgrifenyddion, a dygasant ef gerbron eu cyfarfod,
67
gan ddywedyd, “Os y Crist ydwyt ti, dywed i ni.” A dywedodd wrthynt, “Os dywedaf i chwi, ni chredwch;
68
ac os gofynnaf gwestiwn, nid atebwch.
69
Ond o hyn allan bydd Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw gallu Duw.”
70
A dywedasant oll, “Mab Duw ynteu, ydwyt ti?” Ebe yntau wrthynt, “Dywedwch chwi fy mod.”
71
Dywedasant hwythau, “Pa raid i ni mwy wrth dystiolaeth? Canys clywsom ein hunain o’i enau ef.”
← Chapter 21
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 23 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24