bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Luke 2
Luke 2
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 3 →
1
Ac yn y dyddiau hynny aeth gorchymyn allan oddi wrth Gesar Awgwstus i gofrestru’r holl fyd.
2
Hwn oedd y cyfrifiad cyntaf, pan oedd Cyrenius yn rhaglaw Syria.
3
Ac aeth pawb i’w cofrestru, pob un i’w ddinas ei hun.
4
Aeth Ioseff yntau o Galilea o ddinas Nasareth i Iwdea i ddinas Dafydd a elwir Bethlehem, am ei fod o dŷ a thylwyth Dafydd,
5
i’w gofrestru gyda Mair, a ddyweddiasid iddo, ac a oedd feichiog.
6
A phan oeddent yno fe gyflawnwyd y dyddiau iddi i esgor,
7
a hi esgorodd ar ei mab cyntafanedig, a rhwymynnodd ef, ai roi i orwedd mewn preseb, am nad oedd iddynt le yn y llety.
8
A bugeiliaid oedd yn y fro honno yn aros allan ac yn gwarchod eu praidd drwy’r nos.
9
Ac angel i’r Arglwydd a safodd ger eu llaw, a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o’u hamgylch, ac ofnasant ag ofn mawr.
10
A dywedodd yr angel wrthynt, “Peidiwch ag ofni; canys wele, cyhoeddaf i chwi newyddion da am lawenydd mawr a fydd i’r holl bobl,
11
canys ganwyd i chwi heddiw Geidwad, sef Crist yr Arglwydd, yn ninas Dafydd.
12
A dyma i chwi arwydd; chwi gewch faban wedi ei rwymynnu ac yn gorwedd mewn preseb.”
13
Ac yn ddisymwth yr oedd gyda’r angel liaws o’r llu nefol yn moliannu Duw, ac yn dywedyd:
14
“Gogoniant yn y goruchafion i Dduw, ac ar y ddaear tangnefedd ymysg dynion sydd wrth ei fodd.”
15
A phan aeth yr angylion ymaith oddi wrthynt i’r nef, dywedai’r bugeiliaid wrth ei gilydd, “Awn draw i Fethlehem, a gwelwn y peth hwn a fu ac a hysbysodd yr Arglwydd inni.”
16
Ac aethant ar frys, a chael hyd i Fair ac Ioseff, a’r baban yn gorwedd yn y preseb.
17
A phan welsant, gwnaethant yn hysbys y peth a ddywedwyd wrthynt am y plentyn hwn.
18
A rhyfeddodd pawb a glywodd at y pethau a ddywedwyd gan y bugeiliaid wrthynt.
19
A chadwai Mair yr holl bethau hyn yn ddiogel, a’u hystyried yn ei chalon.
20
A dychwelodd y bugeiliaid dan ogoneddu a chlodfori Duw am y cwbl a glywsant ac a welsant fel y dywedwyd wrthynt.
21
A phan gyflawnwyd wyth niwrnod ei enwaedu ef, galwyd ei enw ef Iesu, yr enw y galwyd ef gan yr angel cyn ei ymddwyn ef yn y groth.
22
A phan gyflawnwyd dyddiau eu puredigaeth yn ôl deddf Moses, dygasant ef i fyny i Gaersalem i’w gyflwyno i’r Arglwydd,
23
fel y mae’n ysgrifenedig yn neddf yr Arglwydd, Pob gwryw a agoro groth a elwir yn santaidd i’r Arglwydd,
24
ac i roi aberth yn ôl y gosodiad yn neddf yr Arglwydd, Pâr o durturod neu ddau gyw colomen.
25
Ac wele yr oedd dyn yng Nghaersalem a’i enw Simeon; a’r dyn hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwyl diddanwch yr Israel, a’r Ysbryd Glân oedd arno;
26
ac yr oedd wedi ei rybuddio gan yr Ysbryd Glân na welai angau cyn gweled Eneiniog yr Arglwydd.
27
Ac fe ddaeth yn yr Ysbryd i’r deml; ac wedi i’w rieni ddwyn i mewn y plentyn Iesu i wneuthur yn ôl defod y ddeddf yn ei gylch,
28
cymerth yntau ef yn ei freichiau, a bendithiodd Dduw, a dywedodd,
29
“Yn awr y gollyngi dy was, Arglwydd, yn ôl dy air, mewn tangnefedd;
30
canys gwelodd fy llygaid dy iachawdwriaeth,
31
a baratoaist ger bron yr holl bobloedd —
32
goleuni yn ddatguddiad i’r cenhedloedd,a gogoniant i’th bobl Israel.”
33
Ac yr oedd ei dad, a’i fam yn rhyfeddu at y pethau a ddywedid amdano.
34
A bendithiodd Simeon hwynt, a dywedodd wrth Fair ei fam, “Wele hwn a osodwyd yn gwymp a chyfodiad i lawer yn yr Israel, ac yn arwydd a wrthwynebir
35
(a’th enaid dithau a drywana cleddyf), fel y datguddier bwriadau llawer o galonnau.”
36
Yr oedd hefyd broffwydes, Anna merch Phanwel o lwyth Aser, — hon, wedi mynd ymhell ymlaen mewn dyddiau, ar ôl byw gyda gŵr saith mlynedd wedi ei morwyndod,
37
a fu’n weddw hyd yn bedair a phedwarugain Oed, — ac nid ymadawai â’r deml, ond addoli mewn ymprydiau a gweddïau ddydd a nos.
38
A’r awr honno hi ddaeth i’r fan, a rhoddi diolch i Dduw, a llefaru amdano ef wrth bawb a oedd yn disgwyl am waredigaeth Caersalem.
39
A phan gyflawnasant y cwbl a oedd yn ôl deddf yr Arglwydd, dychwelasant i Galilea i’w dinas eu hun, Nasareth.
40
A thyfai’r plentyn, a chryfhâi’n gyflawn o ddoethineb; a gras Duw oedd arno.
41
Ac âi ei rieni bob blwyddyn i Gaersalem ar ŵyl y Pasg.
42
A phan oedd ef yn ddeuddeg oed, aethant i fyny yn ôl arfer yr ŵyl,
43
ac wedi iddynt dreulio’r dyddiau i ben, wrth iddynt ddychwelyd arhosodd y bachgen Iesu ar ôl yng Nghaersalem; ac ni wybu ei rieni.
44
Ond gan dybio ei fod yn y fintai, aethant daith diwrnod ac yna dechrau chwilio amdano ymysg eu ceraint a’u cydnabod,
45
a phan nas cawsant, dychwelasant i Gaersalem gan chwilio amdano.
46
Ac wedi tridiau cawsant ef yn y deml yn eistedd ymhlith yr athrawon, ac yn gwrando arnynt ac yn eu holi.
47
A rhyfeddai pawb a’i clywai at ei ddeall a’i atebion.
48
Ac wrth ei weled trawyd hwynt â syndod, a dywedodd ei fam wrtho, “Fy mhlentyn, paham y gwnaethost â ni fel hyn? Dyma dy dad a minnau mewn ing yn chwilio amdanat.”
49
A dywedodd wrthynt “Paham yr oeddech yn chwilio amdanaf? Oni wyddech fod yn rhaid i mi fod yn nhŷ fy Nhad?”
50
A hwy ni ddeallasant y gair a ddywedodd ef wrthynt.
51
Ac aeth i lawr gyda hwynt, a daeth i Nasareth, a bu ddarostyngedig iddynt. A’i fam a drysorai’r cwbl yn ei chalon.
52
Ac Iesu a gynyddai mewn doethineb a thwf a ffafr gyda Duw a dynion.
← Chapter 1
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 3 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24