bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Luke 15
Luke 15
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 16 →
1
Yr oedd y trethwyr a’r pechaduriaid i’ gyd yn dynesu ato i wrando arno.
2
A grwgnachai’r Phariseaid a’r ysgrifenyddion, gan ddywedyd, “Y mae hwn yn croesawu pechaduriaid, ac yn cyd-fwyta â hwynt.”
3
A dywedodd wrthynt y ddameg hon,
4
“Pa ddyn ohonoch a chanddo gant o ddefaid, ac wedi colli un ohonynt, nid yw yn gadael y cant namyn un yn yr anialwch, ac yn mynd ar ôl yr hon a gollwyd nes ei chael hi?
5
Ac wedi ei chael fe’i gesyd hi ar ei ysgwyddau yn llawen,
6
ac wedi dyfod adref geilw ei ffrindiau a’i gymdogion ynghyd, gan ddywedyd wrthynt, ‘Cyd-lawenhewch â mi, canys cefais fy nafad a oedd ar goll.’
7
Dywedaf i chwi y bydd llawenydd felly yn y nef am un pechadur a edifarhao, yn fwy nag am gant namyn un o rai cyfiawn, nad oes arnynt angen edifeirwch.
8
Neu pa wraig, a chanddi ddeg swllt, os cyll un swllt, nid yw yn golau cannwyll, ac yn ysgubo’r tŷ, ac yn chwilio’n ofalus, nes ei gael?
9
Ac wedi ei gael hi eilw ei ffrindiau a’i chymdogesau ynghyd, gan ddywedyd, ‘Cyd-lawenhewch â mi, canys cefais y swllt a gollais.’
10
Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd yng ngŵydd angylion Duw am un pechadur a edifarhao.”
11
A dywedodd, “Yr oedd gan ryw ddyn ddau fab.
12
A dywedodd yr ieuangaf ohonynt wrth ei dad, ‘’Nhad, dyro i mi fy nghyfran o’r eiddo.’ A rhannodd yntau rhyngddynt ei dda.
13
Ac ar ôl ychydig ddyddiau gwerthodd y mab ieuangaf y cwbl ac ymfudodd i wlad bell, ac yno gwasgarodd ei eiddo, gan fyw’n afradlon.
14
Ac wedi iddo dreulio’r cwbl, bu newyn tost trwy’r wlad honno, a dechreuodd ddioddef eisiau.
15
Ac aeth a glynodd wrth un o ddinaswyr y wlad honno, ac anfonodd yntau ef i’w feysydd i borthi moch.
16
A chwenychai lenwi ei fol â’r cibau a fwytâi’r moch, ac ni roddai neb iddo.
17
A phan ddaeth ato’i hun, fe ddywedodd, ‘Pa sawl gwas cyflog i’m tad sydd ganddynt eu gwala o fara, a minnau’n marw yma o newyn!
18
Codaf ac af at fy nhad, a dywedaf wrtho, ’Nhad, pechais yn erbyn y nef ac o’th flaen dithau;
19
nid wyf deilwng mwyach i’m galw yn fab i ti; gwna fi fel un o’th weision cyflog.’
20
A chododd ac aeth at ei dad. A phan oedd eto ymhell oddi wrtho, fe’i gwelodd ei dad ef, a thosturiodd, a chan redeg syrthiodd ar ei wddf a chusanodd ef.
21
A dywedodd y mab wrtho, ‘’Nhad, pechais yn erbyn y nef ac o’th flaen dithau; nid wyf deilwng mwyach i’m galw yn fab i ti.’
22
A dywedodd y tad wrth ei weision, ‘Brysiwch i ddwyn allan y wisg orau, a gwisgwch amdano, a rhowch fodrwy ar ei law ac esgidiau am ei draed,
23
a dygwch y llo pasgedig, lleddwch ef, a bwytawn a byddwn lawen;
24
canys fy mab hwn oedd farw a daeth yn fyw drachefn, yr oedd ar goll ac fe’i cafwyd.’ A dechreuasant fod yn llawen.
25
Yr oedd ei fab hynaf yn y maes; a phan ddaeth a nesáu at y tŷ, clywodd ganu a dawnsio,
26
ac wedi galw un o’r gweision ato holodd beth oedd hyn.
27
Dywedodd yntau wrtho, ‘Dy frawd a ddaeth, a lladdodd dy dad y llo pasgedig, am iddo’i gael yn ôl yn iach.’
28
Digiodd yntau, ac ni fynnai fynd i mewn. Ac aeth ei dad allan i ymbil ag ef.
29
Atebodd yntau i’w dad, ‘Edrych gynifer o flynyddoedd yr wyf yn dy wasanaethu, ac ni throseddais i erioed orchymyn o’r eiddot, ac eto i mi ni roddaist erioed fyn, i fod yn llawen gyda’m cyfeillion;
30
Eithr pan ddaeth dy fab hwn, yr un a ddifaodd dy dda gyda phuteiniaid, lleddaist iddo ef y llo pasgedig.’
31
Dywedodd yntau wrtho, Fy mhlentyn, yr wyt ti gyda mi yn wastad, a thi biau’r cwbl sydd gennyf;
32
iawn oedd bod yn llon a llawen, canys dy frawd hwn oedd farw, a daeth yn fyw; bu ar goll, ac fe’i cafwyd’.”
← Chapter 14
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 16 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24