bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Luke 10
Luke 10
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 11 →
1
Wedi hyn penododd yr Arglwydd ddeg a thrigain eraill, ac anfonodd hwynt bob yn ddau o’i flaen i bob dinas a man lle’r oedd ef ar fedr dyfod.
2
Ac meddai wrthynt, “Mawr yw’r cynhaeaf, ond ychydig yw’r gwerthwyr; felly deisyfwch ar Arglwydd y cynhaeaf yrru allan weithwyr i’w gynhaeaf.
3
Ewch; dyma fi’n eich anfon chwi fel ŵyn i blith bleiddiaid.
4
Na ddygwch bwrs, na chod, nac esgidiau, ac na chyferchwch neb ar y ffordd.
5
I ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, dywedwch yn gyntaf, ‘Tangnefedd i’r tŷ hwn.’
6
Ac os bydd yno fab tangnefedd, fe orffwys eich tangnefedd arno; onid e, fe ddychwel arnoch chwi.
7
Arhoswch yn y tŷ hwnnw, gan fwyta ac yfed a fo ganddynt, canys teilwng i’r gweithiwr ei gyflog. Na symudwch o dŷ i dŷ.
8
Ac i ba ddinas bynnag yr eloch i mewn, a chael croeso, bwytewch yr hyn a osodir ger eich bron,
9
ac iachewch y cleifion ynddi, a dywedwch wrthynt, ‘Nesaodd teyrnas Dduw atoch.’
10
Ac i ba ddinas bynnag yr eloch i mewn, a heb gael croeso, ewch allan i’w heolydd hi, a dywedwch,
11
‘Hyd yn oed y llwch o’ch dinas chwi a lynodd wrth ein traed, yr ydym yn ei sychu ymaith i chwi; eithr gwybyddwch hyn, nesaodd teyrnas Dduw.’
12
Yr wyf yn dywedyd wrthych mai esmwythach fydd i Sodom yn y dydd hwnnw nag i’r ddinas honno.
13
Gwae di, Chorasin! Gwae di, Fethsaida! Canys pe yn Nhyrus a Sidon y gwnaethid y grymusterau a wnaethpwyd ynoch chwi, ers talm yr eisteddasent mewn sachliain a lludw ac yr edifarhasent.
14
Eithr esmwythach fydd i Dyrus a Sidon yn y farn nag i chwi.
15
A thithau, Capernaum, ai hyd nef y’th ddyrchefir? Na, hyd Annwn y disgynni.
16
Y neb a wrendy arnoch chwi a wrendy arnaf innau, a’r neb a’ch gwrthyd chwi a’m gwrthyd innau; a’r neb a’m gwrthyd i a wrthyd yr hwn a’m danfonodd i.”
17
A dychwelodd y deg a thrigain mewn llawenydd, gan ddywedyd, “Arglwydd, darostyngir hyd yn oed y cythreuliaid i ni yn dy enw di.”
18
Dywedodd wrthynt, “Yr oeddwn yn gwylied Satan fel mellten yn syrthio o’r nef.
19
Dyma fi wedi rhoddi i chwi awdurdod i sathru ar seirff ac ysgorpionau, ac ar holl allu’r gelyn, ac nid oes dim a’ch niweidia o gwbl oll.
20
Eithr na lawenhewch am hyn, fod yr ysbrydion yn cael eu darostwng i chwi, ond llawenhewch fod eich enwau wedi eu hysgrifennu yn y nefoedd.”
21
Yr awr honno y gorfoleddodd yn yr Ysbryd Glân, a dywedodd, “Molaf di, O Dad, Arglwydd y nef a’r ddaear, am iti guddio’r pethau hyn rhag doethion a gwybodusion, a’u datguddio i blant bach; ie, O Dad, am mai felly y rhyngodd bodd i ti.
22
Popeth a draddodwyd imi gan fy Nhad, ac ni ŵyr neb pwy yw’r Mab ond y Tad, a phwy yw’r Tad ond y Mab a phwy bynnag yr ewyllysio’r Mab ei ddatguddio iddo.”
23
A throes at y disgyblion o’r neilltu, a dywedodd, “Gwyn eu byd y llygaid sy’n gweled yr hyn a welwch chwi.
24
Canys meddaf i chwi, llawer o broffwydi a brenhinoedd a ddymunodd weled yr hyn a welwch chwi ac nis gwelsant, a chlywed yr hyn a glywch ac nis clywsant.”
25
A dyma ryw gyfreithiwr yn codi i’w demtio, gan ddywedyd, “Athro, beth a wnaf i etifeddu bywyd tragwyddol?”
26
Dywedodd yntau wrtho, “Beth sy’n ysgrifenedig yn y gyfraith? Pa fodd y darlleni?”
27
Atebodd yntau, “Câr yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon ac â’th holl enaid ac â’th holl nerth ac â’th holl feddwl, a dy gymydog fel ti dy hun.”
28
Dywedodd yntau, “Iawn yr atebaist; gwna hyn, a byw fyddi.”
29
Yntau, yn dymuno ei gyfiawnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, “A phwy sydd gymydog i mi?”
30
Gan ddal ar ei air, dywedodd, yr Iesu, “Rhyw ddyn oedd yn mynd i lawr o Gaersalem i Iericho, ac fe syrthiodd ymhlith lladron, y rhai a’i diosgodd a’i guro, a mynd ymaith a’i adael yn hanner marw.
31
A digwyddodd bod rhyw offeiriad yn mynd i lawr y ffordd honno, a phan welodd ef fe aeth o’r tu arall heibio.
32
Yr un modd Lefiad hefyd a ddaeth i’r fan, a’i weled, a mynd o’r tu arall heibio.
33
Ond rhyw Samariad ar ei daith a ddaeth lle’r oedd, a phan welodd ef fe dosturiodd wrtho,
34
ac aeth ato a rhwymo’i archollion a thywallt arnynt olew a gwin; a gosododd ef ar ei anifail ei hun, a’i ddwyn i westy, a chymryd gofal ohono.
35
A thrannoeth tynnodd allan ddau swllt, a rhoes hwynt i’r gwestywr, a dywedodd, ‘Cymer ofal ohono, a pha beth bynnag a wariech yn rhagor, ar fy ffordd yn ôl mi a’i talaf i ti.’
36
Pa un o’r tri hyn, dybi di, a fu gymydog i’r hwn a syrthiodd i blith y lladron?”
37
Dywedodd yntau, “Yr un a wnaeth drugaredd ag ef.” Dywedodd yr Iesu wrtho, “Dos, a gwna dithau’r un modd.”
38
Ac ar eu taith aeth ef i mewn i ryw bentref. A rhyw wraig a’i henw Martha a’i croesawodd ef i’r tŷ.
39
Ac i hon yr oedd chwaer a elwid Mair, ac eisteddodd hi wrth draed yr Arglwydd, a gwrandawai ar ei ymadrodd.
40
Ond yr oedd Martha yn drysu gan gymaint o weini; a safodd a dywedodd, “Arglwydd, ai difater gennyt i’m chwaer fy ngadael wrthyf, fy hun i weini? Dywed wrthi, ynteu, am estyn cymorth i mi.”
41
Atebodd yr Arglwydd a dywedodd wrthi, “Martha, Martha, pryderu a thyrfu’r wyt ynghylch llawer o bethau;
42
nid rhaid ond wrth ychydig o bethau, neu un; canys Mair a ddewisodd y rhan dda, a honno nis dygir oddi arni.”
← Chapter 9
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 11 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24