bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Luke 24
Luke 24
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
1
ond ar y dydd cyntaf o’r wythnos, a’r wawr ar dorri, daethant at y bedd gan ddwyn y peraroglau a baratoesent.
2
A chawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddi wrth y bedd,
3
ac aethant i mewn, ac ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu.
4
A digwyddodd, pan oeddynt mewn penbleth ynghylch hyn, dyma ddau ŵr yn sefyll gerllaw iddynt mewn gwisg lachar.
5
Ac a hwythau wedi brawychu ac yn gostwng eu hwynebau tua’r ddaear, dywedasant wrthynt, “Paham yr ydych yn ceisio’r byw ymysg y meirw?
6
Nid yw yma, ond cyfododd. Cofiwch fel y llefarodd wrthych, pan oedd eto yng Ngalilea,
7
gan ddywedyd am Fab y dyn fod yn rhaid ei draddodi i ddwylo dynion pechadurus, a’i groeshoelio, a’r trydydd dydd atgyfodi.”
8
A chofiasant ei eiriau,
9
ac wedi troi’n ôl oddi wrth y bedd mynegasant y pethau hyn oll i’r un ar ddeg ac i’r lleill i gyd.
10
Mair Magdalen a Ioana a Mair mam Iago oeddent; a’r lleill hefyd gyda hwynt oedd yn dywedyd y pethau hyn wrth yr apostolion.
11
Ac yn eu golwg hwy ymddangosai’r geiriau hyn megis lol, ac nis credent.
12
[Ond cododd Pedr, a rhedodd at y bedd; ac wedi ysbïo i mewn, fe wêl y rhwymynnau yn unig; ac aeth ymaith adref gan ryfeddu at yr hyn a fu.]
13
Ac wele yr oedd dau ohonynt yr un diwrnod ar eu ffordd i bentref a oedd saith milltir o Gaersalem, a’i enw Emmäws,
14
ac yr oeddent hwy’n ymddiddan â’i gilydd am yr holl bethau hyn a oedd wedi digwydd.
15
Ac wrth eu bod yn ymddiddan ac yn ymofyn â’i gilydd, dyma Iesu ei hun yn dynesu ac yn cydgerdded â hwynt;
16
ond ataliwyd eu llygaid hwynt rhag ei adnabod.
17
A dywedodd wrthynt, “Beth yw’r chwedlau hyn yr ydych yn eu bwrw at eich gilydd wrth gerdded?” A safasant yn drist eu hwynebau.
18
Ac atebodd un, o’r enw Gleopas, a dywedyd wrtho, “Ai ti yw’r unig ymwelydd yng Nghaersalem sydd heb wybod y pethau a ddigwyddodd ynddi hi yn y dyddiau hyn?”
19
A dywedodd wrthynt, “Pa bethau?” Dywedasant hwythau wrtho, “Y pethau am Iesu o Nasareth, a fu’n ŵr o broffwyd, nerthol mewn gweithred a gair yng ngolwg Duw a’r holl bobl,
20
y modd y traddododd yr archoffeiriaid a’n penaethiaid ni ef i farn marwolaeth, ac y croeshoeliasant ef.
21
Ond yr oeddem ni’n gobeithio mai ef oedd yr un a waredai’r Israel. Ac ar ben hyn oll, dyma’r trydydd dydd er pan fu hyn.
22
A hefyd fe’n syfrdanwyd gan rai gwragedd o’n mysg; wedi iddynt fod yn fore wrth y bedd,
23
a heb gael ei gorff, daethant a dywedyd iddynt weled gweledigaeth o angylion, a ddywedent ei fod ef yn fyw.
24
Ac aeth rhai o’r cyfeillion at y bedd, a chawsant yn union fel y dywedodd y gwragedd, ond ef nis gwelsant.”
25
Ac meddai yntau wrthynt, “O ddynion ynfyd a hwyrfrydig o galon i gredu pob peth a lefarodd y proffwydi!
26
Onid oedd yn rhaid i’r Crist ddioddef y pethau hyn, ac yna fynd i mewn i’w ogoniant?”
27
A chan ddechrau o Foses a’r holl broffwydi, dehonglodd iddynt yn yr holl ysgrythurau y pethau amdano ef ei hun.
28
A daethant yn agos i’r pentref lle’r oeddent yn mynd, a chymerth ef arno ei fod yn mynd ymhellach.
29
A gorfodasant ef, gan ddywedyd, “Aros gyda ni; achos y mae’n mynd yn hwyr, a’r dydd sy bellach wedi pallu.” Ac aeth i mewn i aros gyda hwynt.
30
Ac wedi iddo eistedd gyda hwynt, cymerodd y bara, a’i fendithio, a’i dorri a’i roddi iddynt.
31
Ac agorwyd eu llygaid hwy a daethant i’w adnabod; a diflannodd yntau o’u golwg.
32
A dywedasant wrth ei gilydd, “Onid oedd ein calon yn llosgi ynom, pan oedd yn llefaru wrthym ar y ffordd, pan oedd yn agor yr ysgrythurau inni?”
33
A chodasant yr awr honno, a dychwelyd i Gaersalem; a chawsant yr un ar ddeg a’u cyfeillion wedi ymgynnull,
34
yn dywedyd, “Yn wir, cyfododd yr Arglwydd, a gwelwyd ef gan Simon,”
35
Ac adroddasant hwythau beth a fu ar y ffordd, a’r modd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth doriad y bara.
36
A hwy’n siarad am y pethau hyn, safodd yntau yn eu mysg, [ac medd ef wrthynt, “Tangnefedd i chwi.”]
37
A dychrynu a brawychu a wnaethant, a thybied mai ysbryd a welent.
38
A dywedodd wrthynt, “Paham yr ydych wedi cyffroi, a phaham y cyfyd meddyliau yn eich calon?
39
Gwelwch fy nwylo a’m traed, mai myfi fy hun ydyw; teimlwch fi a gwelwch, canys nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn, fel y gwelwch fod gennyf i.”
40
[Ac wedi dywedyd hyn, dangosodd iddynt ei ddwylo a’i draed.]
41
Ac a hwy eto’n methu â chredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, fe ddywedodd wrthynt, “Oes gennych chwi fwyd yma?”
42
Rhoesant hwythau iddo ddarn o bysgodyn wedi ei grasu;
43
ac fe’i cymerth, a’i fwyta yn eu gŵydd hwynt.
44
A dywedodd wrthynt, “Hyn oedd ystyr fy ngeiriau a leferais wrthych pan oeddwn eto gyda chwi, fod yn rhaid cyflawni popeth a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses a’r proffwydi a’r salmau amdanaf i.”
45
Yna agorodd eu meddwl i ddeall yr ysgrythurau.
46
A dywedodd wrthynt, “Felly y mae’n ysgrifenedig fod i’r Crist ddioddef ac atgyfodi o feirw’r trydydd dydd,
47
a bod cyhoeddi yn ei enw ef edifeirwch er maddeuant pechodau i’r holl genhedloedd — gan ddechrau o Gaersalem.
48
Chwychwi fydd dystion o’r pethau hyn.
49
Ac wele fi’n anfon allan addewid fy Nhad atoch; chwithau, arhoswch yn y ddinas hyd oni’ch gwisger oddi uchod â nerth.”
50
Ac fe’u dug hwynt allan hyd yn ymyl Bethania, a chododd ei ddwylo, a’u bendithio hwynt.
51
A phan oedd yn eu bendithio, ymwahanodd oddi wrthynt [ac esgyn i’r nef].
52
A dychwelasant hwythau [wedi iddynt ei addoli] i Gaersalem gyda llawenydd mawr,
53
ac yr oeddent yn wastad yn y deml, yn bendithio Duw.
← Chapter 23
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24