bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Luke 20
Luke 20
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 21 →
1
A digwyddodd un diwrnod, ac ef yn ddysgu’r bobl yn y deml ac yn cyhoeddi’r newyddion da, daeth yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, ynghyd â’r henuriaid, yn ei erbyn;
2
a dywedasant wrtho, “Dywed i ni trwy ba awdurdod y gwnei di’r pethau hyn, neu pwy yw’r un a roes i ti’r awdurdod hwn.”
3
Atebodd iddynt, “Mi ofynnaf innau air i chwithau, a dywedwch i mi:
4
Bedydd Ioan, ai o’r nef yr oedd, ai o ddynion?”
5
Ymresymasant hwythau â’i gilydd, gan ddywedyd, “Os dywedwn, ‘O’r nef’, fe ddywed yntau, ‘Paham nas credasoch?’
6
Ac os dywedwn ‘O ddynion,’ yr holl bobl a’n llabyddia ni, canys argyhoeddwyd hwy fod Ioan yn broffwyd.”
7
Ac atebasant na wyddent o ba le.
8
A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Ac ni ddywedaf innau i chwithau trwy ba awdurdod y gwnaf y pethau hyn.”
9
A dechreuodd ddywedyd y ddameg hon wrth y bobl. “ Plannodd dyn winllan, a gosododd hi i lafurwyr, ac aeth oddi cartref dros gryn amser.
10
A phan oedd hi’n bryd anfonodd was at y llafurwyr, er mwyn iddynt roddi iddo o ffrwyth y winllan; a’i anfon ymaith a wnaeth y llafurwyr yn waglaw, ar ôl ei guro.
11
Ac aeth ymlaen a gyrru gwas arall; hwnnw hefyd, wedi ei guro a’i amharchu, a anfonasant ymaith yn waglaw.
12
Ac aeth ymlaen a gyrru trydydd; clwyfasant hwn hefyd, a’i fwrw allan.
13
A dywedodd perchen y winllan, ‘Beth a wnaf? Gyrraf fy mab annwyl; efallai y parchant ef.’
14
A phan welsant ef, dechreuodd y llafurwyr ymresymu â’i gilydd, gan ddywedyd, ‘Hwn yw’r etifedd; lladdwn ef, fel y delo’r etifeddiaeth i ni.’
15
A bwriasant ef allan o’r winllan, a’i ladd. Beth, ynteu, a wna perchen y winllan iddynt?
16
Fe ddaw, ac fe ddifetha’r llafurwyr hyn, a rhydd y winllan i eraill.” Pan glywsant, dywedasant, “Na ato Duw.”
17
Edrychodd yntau arnynt, a dywedodd, “Beth, ynteu, yw hyn sy’n ysgrifenedig? Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a ddaeth yn ben y gongl.
18
Pwy bynnag a syrthio ar y maen hwnnw, fe’i dryllir; ac ar bwy bynnag y syrthio, fe’i mâl ef.”
19
A cheisiodd yr ysgrifenyddion a’r archoffeiriaid roi eu dwylo arno yr awr honno; ac ofnasant y bobl; canys deallasant mai amdanynt hwy y dywedasai’r ddameg hon.
20
Ac wedi gwylied eu cyfle, anfonasant gynllwynwyr, yn cymryd arnynt eu bod yn gyfiawn, er mwyn ei ddal ef ar air, a’i draddodi i lywodraeth ac awdurdod y rhaglaw.
21
A gofynasant iddo, “Athro, gwyddom mai cywir y lleferi ac y dysgi, ac nad wyt yn derbyn wyneb, ond dy fod yn dysgu ffordd Duw mewn didwylledd.
22
A ddylem ni roi treth i Gesar ai peidio?”
23
Ond sylwodd ar eu cyfrwystra, a dywedodd wrthynt,
24
“Dangoswch imi swllt; delw ac argraff pwy sydd arno?” Dywedasant hwythau “Cesar.”
25
Dywedodd yntau wrthynt, “Wel, ynteu, telwch bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.”
26
Ac ni allasant gymryd gafael yn ei air yng ngŵydd y bobl, a chan ryfeddu at ei ateb tawsant â sôn.
27
A daeth ato rai o’r Sadwceaid, sy’n gwadu nad oes atgyfodiad, a gofynasant iddo,
28
“Athro, ysgrifennodd Moses i ni, os bydd marw brawd neb, un a gwraig ganddo, a bod hwnnw heb blant, cymered ei frawd y wraig, a choded had i’w frawd.
29
Yr oedd, ynteu, saith o frodyr; a’r cyntaf a gymerth wraig, a bu farw heb blant;
30
a’r ail a’r trydydd a’i cymerth hi; a’r un modd y saith, ni adawsant blant, a buont farw.
32
Wedyn bu’r wraig farw hefyd.
33
Y wraig, ynteu, gwraig i ba un ohonynt fydd hi yn yr atgyfodiad? canys y saith a’i cafodd hi’n wraig.”
34
A dywedodd yr Iesu wrthynt, “Plant yr oes hon a briodant ac a briodir,
35
ond y rhai a gyfrifir yn deilwng i gael yr oes a ddaw a’r atgyfodiad o feirw, ni phriodant ac nis priodir;
36
canys ni allant farw mwy, oblegid cydradd â’r angylion ydynt, ac y maent yn blant Duw am eu bod yn blant yr atgyfodiad.
37
Ond bod y meirw yn cyfodi, Moses hefyd a’i hysbysodd, yn hanes y Berth, pan yw’n sôn am yr Arglwydd yn Dduw Abraham a Duw Isaac a Duw Iacob.
38
Nid yw’n Dduw rhai meirw ond rhai byw. Canys y maent oll yn fyw iddo ef.”
39
Atebodd rhai o’r ysgrifenyddion, “Athro, da y dywedaist”;
40
canys ni feiddient mwyach ofyn dim iddo.
41
A dywedodd wrthynt, “Pa fodd y dywedant fod y Crist yn fab Dafydd?
42
Canys Dafydd ei hun a ddywed yn llyfr y Salmau, Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw,
43
hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed.
44
Felly Dafydd a’i geilw ef yn Arglwydd, a pha fodd y mae’n fab iddo?”
45
A’r holl bobl yn gwrando, dywedodd wrth y disgyblion,
46
“Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, sy’n chwenychu rhodio mewn gwisgoedd llaes ac yn caru cyfarchiadau yn y marchnadoedd a’r prif gadeiriau yn y synagogau a’r prif seddau yn y gwleddoedd;
47
y rhai sy’n difa cartrefi gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo; caiff y rhai hyn drymach dedfryd.”
← Chapter 19
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 21 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24