bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Luke 23
Luke 23
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 24 →
1
A chodasant yn un dyrfa, a dygasant ef gerbron Pilat.
2
A dechreuasant ei gyhuddo, gan ddywedyd, “Hwn a gawsom yn gŵyrdroi ein cenedl, ac yn gwahardd talu trethi i Gesar, ac yn dywedyd mai ef ei hun yw Crist frenin.”
3
Gofynnodd Pilat iddo, “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?” Ebe yntau, yn ateb iddo, “Yr wyt ti’n dywedyd.”
4
A dywedodd Pilat wrth yr archoffeiriaid a’r tyrfaoedd, “Nid wyf yn cael dim achos yn y dyn hwn.”
5
Ond taeru a wnaent hwythau, gan ddywedyd, “Y mae’n cynhyrfu’r bobl wrth eu dysgu trwy holl Iwdea, ar ôl dechrau yn Galilea, hyd at yma.”
6
Pan glybu Pilat, gofynodd ai Galilead oedd y dyn,
7
ac wedi deall mai o dan awdurdod Herod yr ydoedd, trosglwyddodd ef at Herod, a oedd yntau yng Nghaersalem y dyddiau hynny.
8
Bu dda dros ben gan Herod weled yr Iesu; canys yr oedd yn dymuno ers cryn amser ei weled am iddo glywed amdano, a gobeithiai weled gwneuthur rhyw arwydd ganddo.
9
A bu’n ei holi mewn hir ymddiddan; ond nid atebodd ef ddim iddo.
10
A safai’r archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion, a’i gyhuddo â’u holl egni.
11
A’i ddiystyru a wnaeth Herod a’i osgorddion, ac wedi ei watwar a rhoi gwisg wych amdano, anfonodd ef yn ôl at Bilat.
12
Ac aeth Herod a Philat yn gyfeillion y diwrnod hwnnw; gynt buasai cas rhyngddynt.
13
A galwodd Pilat yr archoffeiriaid a’r penaethiaid a’r bobl ynghyd,
14
a dywedodd wrthynt, “Dygasoch ataf y dyn hwn am ei fod yn gŵyrdroi’r bobl, a dyma fi wedi ei brofi yn eich gŵydd chwi, ac ni chefais yn y dyn hwn ddim achos i’r cyhuddiadau a ddygwch yn ei erbyn.
15
Na, na Herod chwaith, canys anfonodd ef yn ôl atom ni. Wele, nid oes dim sy’n haeddu marwolaeth wedi ei wneuthur ganddo ef;
16
felly cosbaf ef, a’i ollwng ymaith.”
18
Ond gweiddi a wnaent gyda’i gilydd oll, “Ymaith â hwn, gollwng Barabbas i ni.”
19
(Yr oedd hwnnw wedi ei fwrw i’r carchar oherwydd rhyw derfysg a fu yn y ddinas, a llofruddiaeth.)
20
Drachefn anerchodd Pilat hwynt, gan ddymuno gollwng yr Iesu.
21
Ond llefent llwythau arno, gan ddywedyd, “Croeshoelia, croeshoelia ef.”
22
Dywedodd yntau wrthynt y drydedd waith, “Pa ddrwg, ynteu, a wnaeth ef? Ni chefais ddim achos marwolaeth ynddo; felly cosbaf ef, a’i ollwng ymaith.”
23
Ond pwysent hwythau arno â llefau uchel, gan ddeisyf am ei groeshoelio; a’u llefau a orfu.
24
A dyfarnodd Pilat iddynt gael eu deisyfiad;
25
gollyngodd yr un a fwriesid i garchar am derfysg a llofruddiaeth, yr un y gofynnent amdano, ond yr Iesu a draddododd i’w hewyllys hwy.
26
A phan ddygasant ef ymaith, daliasant ryw Simon o Gyrene ar ei ffordd o’r wlad, a dodasant y groes arno, i’w dwyn ar ôl yr Iesu.
27
Ac yn ei ddilyn yr oedd lliaws mawr o’r bobl, ac o wragedd a oedd yn ymguro ac yn galaru amdano.
28
Troes Iesu atynt, a dywedodd, “Ferched Caersalem, peidiwch ag wylo amdanaf fi; eithr wylwch amdanoch eich hunain ac am eich plant.
29
Canys wele, daw dyddiau pryd y dywedant, ‘Gwyn eu byd yr amhlantadwy a’r crothau nid esgorasant a bronnau ni roesant sugn.’
30
Yna dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, ‘Syrthiwch arnom,’ ac wrth y bryniau, ‘Cuddiwch ni.’
31
Canys os gwnânt y pethau hyn yn y pren ir, pa beth a wneir yn y pren crin?”
32
Dygid hefyd droseddwyr eraill, ddau ohonynt, gydag ef i’w dienyddio.
33
A phan ddaethant at y lle a elwir Penglog, yno croeshoeliasant ef a’r troseddwyr, y naill o’r tu dehau a’r llall o’r tu aswy.
34
Ac meddai’r Iesu, “Dad, maddau iddynt; canys ni wyddant beth a wnânt.” A chan rannu ei ddillad, bwriasant goelbrennau.
35
A safai’r bobl yn edrych. A gwawdiai’r penaethiaid hefyd, gan, ddywedyd, “Eraill a achubodd; achubed ef ei hun, os ef yw Crist Duw, yr etholedig.”
36
A gwatwarodd y milwyr ef hefyd gan nesau a chynnig surwin iddo,
37
a dywedyd, “Os Brenin yr Iddewon wyt ti, achub dy hun.”
38
Yr oedd ysgrifen hefyd uwch ei ben — HWN YW BRENIN YR IDDEWON.
39
Ac un o’r troseddwyr, a grogasid a’i cablai, “Onid ti yw’r Crist? Achub dy hun a ninnau.”
40
Ond atebodd y llall, a’i geryddu; “Onid wyt ti,” eb ef, “yn ofni Duw, gan dy fod dithau dan yr un farnedigaeth?
41
A ninnau’n gyfiawn felly, canys ein haeddiant a dderbyniwn am a wnaethom; Ond hwn ni wnaeth ddim allan o’i le.”
42
Ac meddai, “Iesu, cofia fi pan ddelych i’th deyrnas.”
43
Dywedodd yntau wrtho, “Yn wir meddaf i ti, heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys.”
44
Ac yr oedd erbyn hyn tua’r chweched awr; a bu tywyllwch dros yr holl ddaear hyd y nawfed awr,
45
a’r haul wedi diffygio; a rhwygwyd llen y deml yn ei chanol.
46
A llefodd yr Iesu â llef uchel a dywedodd, “Dad, i’th ddwylo di yr wyf yn ymddiried fy ysbryd.” Ac wedi dywedyd hynny, bu farw.
47
A phan welodd y canwriad y peth a fu, dechreuodd ogoneddu Duw, gan ddywedyd, “Yn wir, yr oedd y dyn hwn yn gyfiawn.”
48
A’r holl dyrfaoedd a ddaethai ynghyd i’r olygfa hon, wedi edrych ar y pethau a fu, a droesant yn eu hôl dan guro dwyfron.
49
Ond yr oedd ei gydnabod oll, a’r gwragedd a’i canlynasai ef o Galilea, yn sefyll o bell, ac yn gweled y pethau hyn.
50
A dyma ŵr a’i enw Ioseff, a oedd yn gynghorwr, gŵr da a chyfiawn, —
51
nid oedd hwn wedi cydsynio â’u cyngor ac â’u gweithred hwynt, — o Arimathea, dinas yr Iddewon, un oedd yn disgwyl teyrnas Dduw.
52
Daeth hwn at Bilat, a gofynnodd am gorff yr Iesu;
53
ac wedi iddo’i dynnu i lawr fe droes lenlliain amdano, a dododd ef mewn bedd naddedig o’r graig, lle nid oedd neb erioed wedi ei gladdu.
54
A dydd y Darpar oedd, a’r Sabbath oedd yn nesáu.
55
A chanlynodd y gwragedd, a ddaethai gydag ef o Galilea, ac edrych ar y bedd a’r modd y dodwyd ei gorff;
56
a dychwelasant, a pharatoi peraroglau ac eneiniau. A’r Sabbath gorffwysasant yn ôl y gorchymyn,
← Chapter 22
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 24 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24