bible
ra
🌐 Language
English
Español
Français
Deutsch
Português
Italiano
Nederlands
Русский
中文
日本語
한국어
العربية
Türkçe
Tiếng Việt
ไทย
Indonesia
All Languages
Home
/
Welsh
/
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
/
Luke 8
Luke 8
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 9 →
1
Digwyddodd yn union wedyn ei fod ef yn teithio trwy ddinas a phentref, gan bregethu a chyhoeddi’r newyddion da am deyrnas Dduw, a’r deuddeg gydag ef,
2
a rhai gwragedd a gawsai feddyginiaeth oddi wrth ysbrydion drwg a gwendidau, Mair a elwid Magdalen, yr aethai saith gythraul allan ohoni,
3
a Ioana, gwraig Chwsas, goruchwyliwr Herod, a Swsanna ac eraill lawer, a gweinyddai’r rhain arnynt o’r hyn a oedd ganddynt.
4
A phan oedd tyrfa fawr yn ei hebrwng a rhai; o bob dinas yn cyrchu ato, fe ddywedodd ar ddameg,
5
“Aeth yr heuwr allan i hau ei had. Ac wrth iddo hau, peth a syrthiodd ar fin y ffordd, ac a sathrwyd, ac adar y nef a’i difaodd.
6
A pheth arall a syrthiodd ar y graig, ac wedi iddo dyfu gwywodd, am nad oedd iddo leithder.
7
Ac arall a syrthiodd ymysg y drain, a’r drain wedi cyd-dyfu ag ef a’i fagodd.
8
Ac arall a syrthiodd yn y tir da, ac wedi iddo dyfu fe ddug ffrwyth ar ei ganfed.” Wrth ddywedyd hyn llefodd, “Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.”
9
Gofynnodd ei ddisgyblion iddo beth oedd y ddameg hon.
10
Dywedodd yntau, “I chwi y rhoddwyd gwybod cyfrinion teyrnas Dduw, ond i’r lleill ar ddamhegion, fel er gweled na welont ac er clywed na ddeallont.
11
Hyn yw’r ddameg. Yr had yw gair Duw.
12
Y rhai ar fin y ffordd yw’r rhai a glywodd; yna daw’r diafol a dwyn ymaith y gair o’u calon, rhag iddynt gredu a chael eu cadw.
13
Y rhai ar y graig yw’r rhai pan glywant sy’n derbyn y gair gyda llawenydd, ac nid oes ganddynt hwy wreiddyn; dros amser y credant hwy, ac yn amser temtasiwn gwrthgiliant.
14
Y peth a syrthiodd i’r drain, hwy yw’r rhai a glywodd, a mynd a chael eu tagu gan bryderon a golud a phleserau bywyd, ac nid aeddfedant.
15
Y peth yn y tir da, hwy yw’r rhai, wedi clywed y gair, a’i ceidw mewn calon lân a da, a dygant ffrwyth trwy ddyfalwch.
16
Nid yw neb, wedi golau cannwyll, yn ei chuddio â llestr neu ei dodi o dan wely, eithr ei dodi ar ganhwyllbren, er mwyn i’r rhai a ddêl i mewn weled y golau.
17
Canys nid oes dim cuddiedig nas gwneir yn amlwg, na dim dirgel nas gwybyddir ac na ddaw i’r amlwg.
18
Edrychwch, ynteu, pa fodd y gwrandewch; canys y neb sydd ganddo, rhoddir iddo, a’r neb nid oes ganddo, hyd yn oed yr hyn a dybia ei fod ganddo a ddygir oddi arno.”
19
Daeth ei fam a’i frodyr ato, ac ni fedrent ddyfod i’w ymyl oblegid y dyrfa.
20
A mynegwyd iddo, “Mae dy fam a’th frodyr yn sefyll y tu allan, ac yn dymuno dy weled.”
21
Atebodd yntau iddynt, “Fy mam a’m brodyr i yw’r rhain, sy’n clywed gair Duw ac yn ei wneuthur.”
22
Fe aeth ryw ddiwrnod i long, ef a’i ddisgyblion, a dywedodd wrthynt, “Awn drosodd i’r ochr draw i’r llyn.” A chychwynasant.
23
Fel yr oeddent yn hwylio, syrthiodd i gysgu. A disgynnodd rhuthr o wynt ar y llyn, ac yr oeddent yn llenwi ac mewn perygl.
24
Ac aethant ato a’i ddeffro, gan ddywedyd, “Meistr, Meistr, yr ydym ar ddarfod amdanom.” Deffrôdd yntau, a cheryddodd y gwynt ac ymchwydd y dŵr, a pheidiasant, a bu gosteg.
25
Dywedodd yntau wrthynt, “Pa le mae eich ffydd chwi?” Ac ofni a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, “Pwy, tybed, yw hwn, gan ei fod yn gorchymyn hyd yn oed i’r gwyntoedd a’r dŵr, a hwythau’n ufuddhau iddo?”
26
A thiriasant yng ngwlad y Geraseniaid, sydd gyferbyn â Galilea.
27
Wedi iddo lanio, fe gyfarfu ag ef ryw ŵr o’r ddinas, a chythreuliaid ynddo; ac ni wisgasai ddillad er ys talm, ac ni thrigai mewn tŷ, ond ymhlith y beddau.
28
Pan welodd ef yr Iesu, gwaeddodd a syrthiodd ger ei fron, ac â llef uchel dywedodd, “Beth sy rhyngof i a thi, Iesu Fab y Duw Goruchaf? Erfyniai arnat, na ddirboena fi.”
29
Canys gorchymyn yr oedd i’r ysbryd aflan ddyfod allan o’r dyn. Canys llawer gwaith y meddianesid ef ganddo; a chedwid ef wedi ei rwymo â chadwynau ac â llyffetheiriau, a thorrai’r rhwymau, a gyrrid ef gan y cythraul i’r diffeithleoedd.
30
Gofynnodd yr Iesu iddo, “Beth yw dy enw?” Dywedodd yntau, “Lleng.” Canys aeth cythreuliaid lawer i mewn iddo.
31
Ac atolygent iddo na orchmynnai iddynt fyned i’r affwys.
32
Yr oedd yno genfaint fawr o foch, yn pori ar y mynydd; ac atolygasant iddo ganiatáu iddynt fynd i mewn i’r rheini; a chaniataodd iddynt.
33
Ac allan yr aeth y cythreuliaid o’r dyn, ac i mewn i’r moch, a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i’r llyn, a boddi.
34
Pan welodd y meichiaid y peth a ddigwyddodd, ffoesant, a’i fynegi yn y ddinas ac yn y wlad.
35
Ac aethant allan i weled y peth a ddigwyddodd, a daethant at yr Iesu, a chawsant y dyn yr aethai’r cythreuliaid allan ohono yn eistedd yn ei ddillad ac yn ei iawn bwyll wrth draed yr Iesu, ac ofnasant.
36
A mynegodd y rhai a’i gwelsai iddynt pa fodd yr iachawyd y cythreulig.
37
A gofynnodd holl liaws ardal y Geraseniaid iddo fynd ymaith oddi wrthynt, am fod ofn mawr yn eu dirwasgu. Aeth yntau i long, a dychwelodd.
38
Deisyfai’r gŵr yr aethai’r cythreuliaid allan ohono am gael bod gydag ef, ond gollyngodd ef ymaith, gan ddywedyd,
39
“Dychwel adref, a datgan pa faint a wnaeth Duw erot.” Ac aeth ymaith dan gyhoeddi trwy’r holl ddinas pa faint a wnaethai’r Iesu erddo.
40
Ar ddychweliad yr Iesu, croesawodd y bobl ef, canys yr oeddynt oll yn disgwyl amdano.
41
A dyma ŵr yn dyfod, a’i enw Iairus, a hwn oedd bennaeth y synagog, a chan syrthio wrth draed Iesu erfyniai arno ddyfod i’w dŷ,
42
gan, fod iddo unig ferch, ynghylch deuddeng mlwydd oed, a’i bod hi ar farw. Ac wrth iddo fynd y tyrfaoedd oedd yn gwasgu arno.
43
A gwraig ag arni ddiferlif gwaed ers deuddeng mlynedd, heb fedru cael meddyginiaeth gan neb,
44
a ddaeth ato o’r tu ôl a chyffwrdd â thasel ei fantell, ac ar unwaith safodd diferlif ei gwaed hi.
45
Dywedodd yr Iesu, “Pwy a gyffyrddodd â mi?” A phawb yn gwadu, dywedodd Pedr, “Meistr, y tyrfaoedd sydd yn cau amdanat ac yn dy ddirwasgu.”
46
Dywedodd yr Iesu, “Cyffyrddodd rhywun â mi, canys mi wn i fod rhinwedd wedi mynd allan ohonof.”
47
A gwelodd y wraig nad oedd wedi osgoi sylw, a daeth dan grynu, ac wedi syrthio ger ei fron mynegodd yng ngŵydd yr holl bobl am ba achos y cyffyrddodd ag ef, a’r modd yr iachawyd hi ar unwaith.
48
Dywedodd yntau wrthi, “Fy merch, dy ffydd a’th iachaodd; dos mewn tangnefedd.”
49
Ac ef eto’n llefaru, daw un o dŷ’r pensynagogydd, a dywedyd, “Mae dy ferch wedi marw; paid â phoeni’r Athro.”
50
Yr Iesu, pan glywodd, a’i hatebodd, “Paid ag ofni; yn unig cred, ac iacheir hi.”
51
Wedi iddo ddyfod i’r tŷ, ni adodd i neb fynd i mewn gydag ef ond Pedr ac Ioan ac Iago a thad yr eneth a’i mam.
52
Yr oeddent oll yn wylo ac yn galaru amdani. Dywedodd yntau, “Peidiwch ag wylo; canys ni bu hi farw, eithr cysgu y mae.”
53
A gwatwarant ef, am eu bod yn gwybod iddi farw.
54
Gafaelodd yntau yn ei llaw, a galwodd gan ddywedyd, “Fy ngeneth, cyfod.”
55
A dychwelodd ei hysbryd, a chododd ar unwaith; gorchmynnodd yntau roi iddi beth i’w fwyta.
56
A syfrdanwyd ei rhieni. Gorchmynnodd yntau iddynt na ddywedent wrth neb beth a ddigwyddodd.
← Chapter 7
Jump to:
Chapter 1
Chapter 2
Chapter 3
Chapter 4
Chapter 5
Chapter 6
Chapter 7
Chapter 8
Chapter 9
Chapter 10
Chapter 11
Chapter 12
Chapter 13
Chapter 14
Chapter 15
Chapter 16
Chapter 17
Chapter 18
Chapter 19
Chapter 20
Chapter 21
Chapter 22
Chapter 23
Chapter 24
Chapter 9 →
All chapters:
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24